Os ydych yn mynd dramor ac am fynd â'ch cath, eich ci neu'ch ffured gyda chi, gallai'r Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes (PETS) eich helpu i osgoi cyfnodau hir o gwarantîn ar ôl i chi ddychwelyd i'r Deyrnas Unedig. Gall cŵn tywys a chŵn clyw hefyd deithio gyda'r cynllun.
Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i rwystro'r gynddaredd (rabies) ac afiechydon eraill rhag lledaenu, ond gan adael i anifeiliaid deithio yr un pryd.
Nid oes achos o'r gynddaredd wedi bod yn y DU ers blynyddoedd lawer, ond mewn rhai gwledydd mae'r clefyd yn dal i beri risg i famolion. Mae'n rhaid i bob anifail a all ddal y gynddaredd ac sy'n dod i'r DU dreulio chwe mis mewn cwarantîn, oni bai eu bod yn cyrraedd dan y Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes ac yn cydymffurfio â holl amodau'r cynllun hwnnw.
Mae'r gwledydd sy'n cymryd rhan yn y cynllun PETS yn cynnwys y rhan fwyaf o Ewrop a nifer o gyrchfannau y tu allan i Ewrop. Holwch Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) i gael gwybod beth yw'r sefyllfa ar hyn o bryd a beth yw'r drefn lawn ar gyfer paratoi eich anifail anwes.
I fod yn gymwys, mae'n ofynnol bod eich cath, eich ci neu'ch ffured:
Mae hefyd yn ofynnol bod cathod a chŵn:
Rhaid i chi hefyd sicrhau bod eich anifail anwes:
Rhaid i chi drefnu'ch taith ddwyffordd i'r DU gydag un o'r nifer o gludwyr a gymeradwyir gan PETS, ar lwybr a gymeradwyir gan PETS. Mae'r llefydd sydd ar gael yn gyfyngedig ac fe'u dyrennir ar sail y cyntaf i'r felin. Rhaid i chi drefnu ymlaen llaw - os na fyddwch yn gwneud hynny ni chaiff eich anifail anwes deithio.
Gall yr awgrymiadau hyn wneud taith eich anifail anwes mor gyffyrddus â phosib:
I gael rhagor o wybodaeth am iechyd anifeiliaid anwes, ewch i wefan Defra.
Wrth ddychwelyd i'r DU, bydd y staff trafnidiaeth yn edrych ar basport eich anifail anwes er mwyn sicrhau bod gofynion y cynllun wedi cael eu bodloni. Os oes gwaith papur ar goll neu os nad yw'ch anifail anwes wedi cael ei baratoi'n gywir, gellid mynd ag ef i gwarantîn yn y DU neu ei ddychwelyd i'r wlad y mae newydd ddod ohoni.
Mae'r Gymdeithas Cŵn Tywys i Bobl Ddall, mewn partneriaeth â mudiadau eraill sy'n ymwneud â chŵn cymorth yn y Deyrnas Unedig, Defra, a nifer o gwmnïau hedfan yn y DU, wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau i berchnogion cŵn cymorth cofrestredig sy'n dymuno defnyddio'r Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes.
Fel arfer, mae'n rhaid i anifeiliaid anwes sy'n dod i'r Deyrnas Unedig ar awyrennau dan y Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes gael eu cario yn howld yr awyren. Fodd bynnag, ceir eithriad yn y cynllun er mwyn caniatáu i gŵn tywys neu gŵn cymorth eraill deithio yn y caban gyda'u perchnogion, ar lwybrau penodol sydd wedi'u cymeradwyo.
Mae'r adran pobl anabl yn rhoi mwy o wybodaeth am gŵn tywys hefyd.
Ewch i NHS Choices i gael gwybodaeth am iechyd - gan gynnwys cyngor ar iechyd a theithio - a gwasanaethau iechyd lleol yn Lloegr