P'un ai a ydych yn mynd dramor ynteu'n mynd i'r gwaith, mae'n bosib bod gwasanaeth fferi neu gychod afon y gallwch ei ddefnyddio yn hytrach na theithio mewn car, ar drên neu mewn awyren. Os ydych yn trefnu trip arbennig neu wyliau, efallai yr hoffech logi cwch hyd yn oed.
Mae gwasanaethau fferi rhyngwladol yn rhedeg o borthladdoedd y DU i Ffrainc, Gweriniaeth Iwerddon, Sbaen, Gwlad Belg, Sgandinafia a'r Iseldiroedd.
Ceir gwasanaethau fferi lleol hefyd sy'n rhedeg i Ynysoedd y Sianel, Ynysoedd y Scilly, Ynys Manaw ac Ynysoedd yr Alban.
I ddod o hyd i wasanaeth fferi ar gyfer siwrnai o'r DU i wlad arall, gallech geisio rhoi 'UK ferry service' a'r lleoliad sydd gennych dan sylw mewn peiriant chwilio. Dylai hyn ddangos gwefannau darparwyr gwasanaeth ynghyd â llwybrau gwahanol.
I deithio o fewn y DU, gall y Cynlluniwr Taith awgrymu amrywiaeth o lwybrau gyda char neu ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethau fferi a chychod afon pan fydd yn berthnasol.
Ceir gwasanaethau cymudo ar afon yn:
Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion ac amserlenni ar gyfer gwasanaethau ar wefannau TFL a Mersey Ferry.
Yng Nghymru a Lloegr, mae gan Gangen Dyfroedd Mewndirol yr Adran Forol a Dyfrffyrdd o fewn Defra gyfrifoldeb cyffredinol dros y dyfrffyrdd. Yn yr Alban, Gweithrediaeth yr Alban sy'n gyfrifol am hynny.
Mae gwefan Defra yn rhoi eglurhad manwl o bolisïau'r llywodraeth ar gyfer dyfrffyrdd mewndirol yng Nghymru a Lloegr a sut y gofelir am y dyfrffyrdd.
AINA yw'r corff diwydiannol ar gyfer holl ddyfrffyrdd ledled y DU.
Dyma brif aelodau AINA:
ynghyd â chynghorau lleol.
Mae gwefan AINA yn cynnwys PDF sy'n dangos pwy sy'n gyfrifol am wahanol ddyfrffyrdd ledled y DU.
Eich dyfrffordd leol
Os hoffech gael gwybodaeth amgylcheddol am eich dyfrffordd leol neu os oes arnoch eisiau rhoi gwybod am ddyfrffordd sydd wedi'i llygru, gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl drwy ddilyn y ddolen isod.
Os byddwch yn penderfynu llogi cwch i deithio – p'un ai a oes arnoch eisiau cwch hwylio mawr ynteu gwch camlas – bydd angen i chi wybod sut mae ei hwylio'n ddiogel. Mae Dyfrffyrdd Prydain wedi cyhoeddi taflen ar God y Dyfrffyrdd, sy'n ymdrin â chanllawiau diogelwch sylfaenol ar gyfer y rheini sy'n anghyfarwydd â hwylio. Gallwch lwytho'r daflen i lawr oddi ar wefan Dyfrffyrdd Prydain.
Mae gwefan Dyfrffyrdd Prydain hefyd yn cynnwys adran ar hwylio er mwynhad ar gamlesi, afonydd a llynnoedd Prydain.