Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwneud cwyn ynghylch gwasanaethau tacsi a cherbydau hurio preifat

Os bydd gennych broblem gydag ymddygiad gyrrwr tacsi neu yrrwr minicab, neu os byddwch yn tybio nad yw'r cerbyd yn drwyddedig - rhowch wybod yn syth. Yma cewch wybod beth sydd angen i chi ei wneud ac â phwy i gysylltu i wneud cwyn.

Cwyno am dacsis

Os hoffech wneud cwyn am dacsi yn Llundain, rhowch wybod yn syth i'r Swyddfa Cludiant Cyhoeddus.

Oddi allan i Lundain, rhowch wybod am eich cwyn i’r awdurdod lleol perthnasol, sef naill ai’r cyngor dosbarth/bwrdeistref neu’r awdurdod unedol.

Cwyno am gerbydau hurio preifat

Mewn perthynas â cherbydau hurio preifat, a elwir hefyd yn minicabs, gallwch geisio datrys y gŵyn trwy'r cwmni. Os na fyddwch yn hapus gyda'r canlyniad neu os ydych yn credu bod eich cwyn yn fwy difrifol na hynny, gallwch:

  • gwyno wrth y Swyddfa Cludiant Cyhoeddus (PCO) yn Llundain
  • gwyno wrth eich awdurdod lleol y tu allan i Lundain - bydd gan y rhan fwyaf ffurflenni cwyno am dacsi, sydd ar gael ar eu gwefannau

Beth sydd angen i chi ei gael i gwyno

Mae’n syniad da i chi gael y canlynol:

  • rhif cofrestru cerbyd y tacsi neu gerbyd hurio preifat (a welir ar y ddisg neu'r plât rhif)
  • rhif trwydded y tacsi neu gerbyd hurio preifat
  • rhif bathodyn y gyrrwr (a welir ar y bathodyn fel arfer) neu enw’r cwmni cerbydau hurio preifat

Riportio trosedd

Os bydd yr ymddygiad yn ymwneud â gweithred droseddol, dylech hefyd roi gwybod i'r heddlu. Mewn argyfwng ffoniwch 999.

Allweddumynediad llywodraeth y DU