Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Diogelwch mewn tacsi

Mae teithio mewn tacsi neu minicab yn ddiogel iawn yn gyffredinol, ond mae’n bwysig cymryd camau rhagofal, megis sicrhau bod y cerbyd yn drwyddedig. Yma cewch wybod beth y gallwch chi ei wneud i gadw’n ddiogel.

Gwneud yn siŵr bod eich tacsi  neu gerbyd hurio preifat yn gyfreithiol

Bydd unrhyw dacsi neu gerbyd hurio preifat (minicab) sydd heb drwydded yn rhedeg yn anghyfreithlon ac ni fydd wedi derbyn yr archwiliadau priodol y bydd awdurdodau trwyddedu'n eu gorfodi.

Peidiwch â defnyddio tacsi:

  • os bydd y gyrrwr yn ymddangos i fod dan ddylanwad alcohol
  • os nad yw'r gyrrwr yn ymddangos yn gyfarwydd â'r ardal leol
  • os bydd y cerbyd yn edrych yn rhy hen i gael ei ddefnyddio fel tacsi
  • os bydd y cerbyd mewn cyflwr gwael

Awgrymiadau diogelwch wrth deithio

Mae’n syniad da gwneud y canlynol:

  • gwneud nodyn o'r plât rhif a rhif trwydded y gyrrwr a'u tecstio i rywun fel rhagofal ychwanegol
  • os oes gennych ffôn â chamera gallwch dynnu llun o'r cerbyd hefyd
  • eisteddwch yng nghefn y cerbyd pob tro
  • gafaelwch yn eich ffôn symudol fel y gellir ei ddefnyddio'n rhwydd

Diogelwch mewn tacsi yn Llundain

Mae gan Adran Drafnidiaeth Llundain cynlluniau i wneud teithio mewn tacsi yn fwy diogel ledled Llundain.

Stiwardio arosfannau

Ledled Llundain, bydd llawer o arosfannau'n cael eu stiwardio ble bydd stiward yn sicrhau eich bod yn defnyddio tacsi sydd wedi'i drwyddedu. Bydd y stiward hefyd yn sicrhau bod y gyrrwr tacsi'n gwybod lle'r ydych am fynd.

Dim ond mewn ardaloedd penodol ac ar adegau penodol o'r nos y bydd stiwardio arosfannau ar waith, a dim ond ar y penwythnosau fel arfer.

Sicrhau bod tacsi yn drwyddedig yn Llundain

Mae Adran Drafnidiaeth Llundain yn rhedeg Uned Dacsis sy'n ymroddedig i gadw teithwyr yn ddiogel trwy fynd i'r afael â gyrwyr sy'n codi mwy o dâl nag a ddylent, a thrwy ddal gyrwyr anniogel a gyrwyr heb drwydded.

Mae’n hanfodol eich bod yn sicrhau bod trwydded gan eich tacsi neu'ch minicab. Mae gan Adran Drafnidiaeth Llundain gronfa ddata ar-lein sy'n eich galluogi i chwilio am weithwyr trwyddedig.

Gallwch hefyd decstio ‘home’ i 60835 a byddwch yn derbyn neges destun yn rhestru'r gweithwyr trwyddedig lleol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU