Yma, cewch wybod mwy am y gwasanaethau sydd ar gael, cyfrifoldebau cwmnïau trenau, eich hawliau, a beth i'w wneud os caiff eich trên ei ganslo neu ei ohirio. Mae’r adran hon yn cynnwys yr hanfodion teithio ar drên.
Ledled y DU, mae 22 o gwmnïau trên yn darparu gwasanaethau rheilffyrdd. Gall y gwasanaethau a ddarperir ar y trên - megis cyfleusterau newid clytiau babi, lle i feiciau ac arlwyo - amrywio o wasanaeth i wasanaeth. Holwch y cwmni trenau y dymunwch ei ddefnyddio, neu ewch i wefan National Rail am fwy o wybodaeth am eu gwasanaethau.
Mae dewis eang o docynnau ar gael, yn dibynnu ar ba bryd ac ymhle y dymunwch deithio.
Prisiau
Ceir pedwar categori o brisiau drwy’r rhwydwaith:
Drwy archebu tocynnau o flaen llaw neu deithio y tu allan i oriau brig gallwch arbed symiau sylweddol o arian. Mae’n debygol mai teithio yn ystod amserau brig fyddai’r dewis drutaf.
Dylech brynu eich tocynnau pob tro cyn mynd ar y trên - hyd yn oed os bydd y ciwiau'n hir a'ch bod yn poeni eich bod am golli'ch trên. Os ewch chi ar y trên heb docyn dilys mae'n bosib y cewch docyn teithio cosb. Dyma’r unig eithriadau:
Os oes gennych gerdyn trên, bydd angen i chi ei ddangos wrth i chi brynu eich tocyn a'i gario gyda chi drwy gydol y siwrnai.
Rhaid i bob cwmni trenau lunio Siarter y Teithiwr sy'n datgan yr ymrwymiadau y mae'n eu gwneud i gwsmeriaid. Cysylltwch â'ch cwmni trenau perthnasol i gael copi o'i siarter.
Os penderfynwch beidio â theithio oherwydd cafodd eich trên ei ganslo, ei ohirio, neu os na chewch eistedd yn eich sedd gadw, gallwch gael eich arian yn ôl yn y fan a'r lle. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw mynd â'ch tocyn i'r swyddfa docynnau lle gwnaethoch brynu'r tocyn.
Fel arall, gallwch fynd â'ch tocyn i unrhyw swyddfa docynnau o fewn 28 niwrnod, ond mae'n bosib na chewch eich arian yn ôl yn y fan a'r lle. Ni ddylid didynnu unrhyw dâl gweinyddol o'r arian a gewch yn ôl.
Iawndal
Os caiff eich trên ei ohirio am fwy nag awr o ganlyniad i amgylchiadau y gallai'r cwmni trenau fod wedi eu rheoli, mae gennych hawl i iawndal. Cewch hyn fel arfer ar ffurf talebau costau teithio.
Bydd sawl cwmni trenau hefyd yn cynnig iawndal hyd yn oed os caiff eich trên ei ohirio am lai nag awr.
Os cewch eich gadael yn aros mewn gorsaf o ganlyniad i drên yn cael ei ganslo neu ei ohirio a bod hynny o fewn rheolaeth y cwmni trenau, dylai'r cwmni ddarparu naill ai:
Gofynnwch i aelod o staff yn yr orsaf am wybodaeth.
Bagiau
Chi sy'n gyfrifol am eich bagiau. Fel arfer ni fydd cwmnïau trenau'n atebol am roi iawndal am fagiau coll neu fagiau wedi'u difrodi, oni bai mai esgeulustod y cwmni neu'r staff a achosodd i hynny ddigwydd.
Mae Passenger Focus, y Cyngor Teithwyr Rheilffyrdd gynt, yn gorff gwarchod annibynnol i ddefnyddwyr sy’n ymgyrchu dros welliannau rheilffyrdd ac yn cynnig cymorth i ddatrys cwynion. Mae'n delio â thri maes allweddol: