A oes gennych gŵyn am wasanaeth rheilffordd, am orsaf neu am drên? Mae’r adran hon yn egluro sut i gyflwyno’ch cwyn a sut i fynd â’r mater ymhellach os nad ydych yn hapus gyda’r canlyniad.
Os oes gennych gŵyn am wasanaeth neu siwrnai rheilffordd, y cam cyntaf yw cysylltu â'r cwmni sy'n rhedeg y lein, y trên neu'r orsaf dan sylw. Gellir datrys y rhan fwyaf o gwynion yn y lle cyntaf drwy ddelio'n uniongyrchol â’r cwmni sy’n gyfrifol.
Ceisiwch gysylltu â rhywun cyn gynted ag y bo modd, un ai trwy:
Os na allwch gysylltu â rhywun ar unwaith neu eich bod angen mynd â'ch cwyn ymhellach, gwell fyddai nodi eich cwyn ar bapur. Dylech gynnwys prawf o'ch siwrnai gyda’ch llythyr (megis tocyn neu dderbynneb) os bydd hynny'n bosib. Mae’n syniad da cael prawf o bostio ar gyfer eich llythyr cwyno a chadw llungopi o'r holl ddogfennau y byddwch yn eu hanfon.
Os byddwch yn dal yn anhapus gydag ymateb y cwmni trenau, gallwch ofyn i Passenger Focus fynd ar ei ôl. Corff annibynnol cyhoeddus a sefydlwyd i warchod buddiannau teithwyr ar reilffyrdd Prydain yw Passenger Focus, a bydd yn adolygu eich cwyn ac yna'n barnu a gafodd ei drin yn briodol.
Mae Passenger Focus hefyd yn:
Os bydd Passenger Focus yn teimlo y dylai'r cwmni trenau fod wedi gwneud mwy, gall gyflwyno cwyn i'r cwmni trenau ar eich rhan.
Os oes gennych gŵyn sy'n ymwneud ag anaf a ddioddefoch ar drên neu mewn gorsaf, mae'n hanfodol eich bod yn cysylltu â rhywun sy'n gysylltiedig â'r trên neu'r orsaf ar unwaith.