Mae gwasanaethau hedfan yn y DU yn cynnwys nifer o wasanaethau sy'n cael eu darparu gan feysydd awyr, cwmnïau teithio a chwmnïau hedfan yn ogystal â chyrff llywodraethol. Caiff meysydd awyr eu rheoli gan wahanol grwpiau yn dibynnu ar y gweithgarwch dan sylw.
Mae BAA (yr Awdurdod Maes Awyr Prydeinig gynt) yn rhedeg ac yn berchen ar saith maes awyr ym Mhrydain. Dyma nhw: Heathrow Llundain, Gatwick Llundain, Stansted Llundain, Aberdeen, Caeredin, Glasgow a Southampton.
O fewn y meysydd awyr hyn, mae'r cwmnïau hedfan yn gyfrifol am:
Fodd bynnag, mae llawer o gwmnïau hedfan yn rhoi gwasanaethau megis trin bagiau ac arlwyo allan dan gontract.
Cyllid a Thollau EM sy'n gyfrifol am fewnforio/allforio nwyddau.
Yr Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo y Swyddfa Gartref sy'n gyfrifol am archwilio pasbortau a materion sy'n ymwneud â lloches.
Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol (NATS) sy'n gyfrifol am reoli traffig awyr uwchben Prydain.
Mae gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg gwasanaethau i'r meysydd awyr ac oddi yno.
Yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) yw rheolyddiwr hedfan y DU, sy'n rheoleiddio holl lwybrau a theithiau awyrennau ym meysydd awyr y DU. Mae'r Awdurdod Hedfan Sifil yn rheoli cwmnïau hedfan, meysydd awyr a'r Gwasanaeth Traffig Awyr Cenedlaethol, a hefyd yn gyfrifol am bennu ffioedd maes awyr ym meysydd awyr Llundain.
Y Gymdeithas Trafnidiaeth Awyr Ryngwladol (IATA) yw'r corff llywodraethu sy'n rheoleiddio trafnidiaeth awyr genedlaethol.
Cyhoeddwyd cyfyngiadau newydd ar fagiau llaw gan yr Adran Drafnidiaeth ym mis Tachwedd 2006. Mae'r rheoliadau yn nodi beth y gallwch fynd gyda chi drwy'r giatiau diogelwch a beth sydd wedi'i wahardd, ac maent yn berthnasol i unrhyw un sy'n teithio o unrhyw faes awyr yn y DU. Mae'r rheoliadau'n llymach nag yr oeddent felly gall gymryd mwy o amser i chi fynd drwy'r man archwiliadau diogelwch.
Gweler 'Rheolau hedfan gyda bagiau llaw' am wybodaeth fanylach.
Os ydych yn teithio i UDA, mae cyfyngiadau hefyd ar yr hyn y gellir ei brynu ar ôl i chi fynd trwy'r giatiau diogelwch a mynd â nhw gyda chi ar yr awyren.
Nid yw'r llywodraeth yn rheoleiddio'r ffi a godir arnoch gan y cwmnïau hedfan a gallant amrywio'n helaeth. Mae'n syniad da i weld beth arall sydd ar gael bob tro.
Ceir nifer cynyddol o ffyrdd i archebu seddi ar awyren:
Bydd y rhan fwyaf o gwmnïau hedfan yn rhestru trethi a thaliadau megis treth tanwydd a Threth Teithwyr Awyr ar wahân i'r pris sylfaenol.
Nod IATA yn y dyfodol agos yw y bydd pob tocyn a fydd yn cael ei ddarparu yn docyn electronig (fel e-docynnau).
Fel teithiwr, rydych wedi'ch gwarchod rhag colli arian os bydd trefnwr teithiau'n mynd i'r wal, cyn belled ag y bydd eich gwyliau wedi'i ddiogelu gan Drwyddedwyr Trefnwyr Teithio Awyren (ATOL).
Bydd ATOL yn rhoi arian yn ôl i chi os bydd y cwmni'n mynd i'r wal cyn eich gwyliau, neu bydd yn trefnu i chi gael eich hedfan gartref os byddwch chi dramor.
Os byddwch yn hedfan o faes awyr yn yr UE neu gyda chwmni hedfan o'r UE ac y bydd gormod o docynnau wedi cael eu gwerthu ar gyfer y daith, os bydd y daith yn cael ei gohirio neu ei chanslo mae'n bosib y byddwch wedi'ch diogelu gan yswiriant. Mae gwefan y Cyngor Defnyddwyr Trafnidiaeth Awyr yn rhoi manylion llawn am eich hawliau.