Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cwyno am wasanaethau hedfan

Yma cewch wybod sut mae gwneud cwyn am gwmni hedfan, am faes awyr neu am asiant teithio, a beth ddylech chi ei wneud os ydych yn anfodlon â'r ymateb. Cewch hefyd wybod beth ddylech chi ei wneud os bydd eich bagiau yn mynd ar goll neu'n cael eu difrodi.

Beth ddylech chi ei wneud os bydd eich bagiau'n mynd ar goll neu'n cael eu difrodi

Os bydd eich bagiau'n mynd ar goll neu'n cael eu difrodi, dylech roi gwybod am hyn yn y ddesg gwasanaeth yn y neuadd gasglu cyn i chi adael y maes awyr. Bydd yr asiant ar ddyletswydd yn ffeilio adroddiad ac yn rhoi copi i chi. Gwnewch yn siŵr na fyddwch yn ei golli, gan y bydd ei angen arnoch pan fyddwch yn gwneud hawliad i'ch cwmni hedfan.

Os ydych yn cario eitemau gwerthfawr, dylech ddweud hynny wrth y cwmni hedfan cyn cofrestru eich bagiau. Mewn nifer o achosion gallwch dalu ffi a gwneud 'datganiad arbennig' a fydd yn gwarchod eich eitem yn llawn. Cysylltwch â'ch cwmni hedfan yn uniongyrchol i gael mwy o wybodaeth am ffioedd arbennig.

Cwyno am gwmnïau hedfan neu am feysydd awyr

Os oes gennych gŵyn, y ffordd orau i'w datrys yw defnyddio'r broses ddau gam isod.

Siarad â staff y maes awyr/cwmni hedfan

Ceisiwch siarad â rhywun yn y maes awyr neu'r cwmni hedfan. Efallai y byddan nhw'n gallu datrys eich problem yn syth. Os na fyddant yn gallu eich helpu, neu os ydych dal yn anfodlon, ceisiwch ganfod pwy sy'n gyfrifol am yr hyn a aeth o'i le. Mae'n bosib nad oes bai ar y cwmni hedfan.

Cadwch gofnod o'r holl bobl y byddwch yn siarad â nhw, y dyddiadau, yr amseroedd, ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall.

Cyflwyno'ch cwyn ar bapur

Os na fydd siarad â staff yn datrys pethau, y cam nesaf fydd cyflwyno cwyn ysgrifenedig i naill ai adran cysylltiadau â chwsmeriaid y cwmni hedfan, y cwmni sy'n trefnu eich taith, y cwmni sy'n trefnu eich gwyliau pecyn neu'r maes awyr (yn dibynnu ar ba wasanaethau y byddwch yn cwyno amdanynt).

Eglurwch yn fras beth aeth o'i le a dywedwch beth hoffech iddynt ei wneud am eich cwyn. Os ydych am hawlio iawndal, dywedwch hynny, a dywedwch faint o arian yr ydych chi'n disgwyl ei gael. Beth bynnag fyddwch chi'n ei ysgrifennu, byddwch yn rhesymol a chadwch at y ffeithiau.

Anfonwch gopïau o docynnau neu dderbynebau gyda'ch llythyr cyntaf, a chadwch y fersiynau gwreiddiol. Os byddwch yn hawlio arian yn ôl, bydd angen y tocynnau gwreiddiol ar y cwmni hedfan neu'r asiant teithio yn y pen draw. Ond dylech ddal eich gafael arnynt nes cewch addewid ysgrifenedig y cewch eich arian yn ôl (oni bai fod modd i chi fynd at yr asiant teithio neu i swyddfa'r cwmni hedfan eich hun a chael eich arian yn ôl yn y fan a'r lle).

Cofiwch gadw copi o'r holl ohebiaeth.

Mynd â'ch cwyn ymhellach

Os ydych eisoes wedi gwneud cwyn ysgrifenedig i gwmni hedfan neu faes awyr, ond eich bod yn anfodlon â'r canlyniad, mae'n bosib y gall y Cyngor Defnyddwyr Trafnidiaeth Awyr (AUC) eich helpu. Fodd bynnag, ni all y Cyngor Defnyddwyr Trafnidiaeth Awyr orfodi darparwr gwasanaeth i dderbyn ei farn.

Os hoffech ysgrifennu at y Cyngor Defnyddwyr Trafnidiaeth Awyr, sicrhewch eich bod yn cynnwys copïau o'r holl ohebiaeth a fu rhyngoch chi a'r cwmni hedfan neu'r maes awyr.

Cwynion am drefnwyr teithiau neu asiantau teithio

Os ydych wedi cwyno wrth yr asiant neu'r trefnwr dan sylw ond yn dal yn anfodlon â'r ymateb, holwch i weld a yw'r cwmni yn aelod o gymdeithas fasnachol, gan fod gan y rhain weithdrefnau cyflafareddu ar gyfer cwynion cwsmeriaid.

Y ddwy brif gymdeithas fasnach yw'r Gymdeithas Trefnwyr Teithiau Annibynnol (AITO) a Chymdeithas Asiantau Teithio Prydain (ABTA).

Ni all y Cyngor Defnyddwyr Trafnidiaeth Awyr helpu gyda chŵyn yn erbyn trefnwr taith neu asiant teithio.

Cwynion heb eu datrys

Mae'r Gymdeithas Trefnwyr Teithiau Annibynnol (AITO) a Chymdeithas Asiantau Teithio Prydain (ABTA) yn cynnig gwasanaeth datrys anghydfod annibynnol lle bydd trydydd parti'n ceisio canoli'n gyflym mewn anghydfodau anodd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU