Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwybodaeth am newid enw a phasbortau

Dylai'r enw ar eich pasbort fod yr un fath â'ch enw cyfreithiol bob amser. Felly os bydd eich enw'n newid - naill ai drwy weithred newid enw neu drwy briodas neu bartneriaeth sifil - mae angen i chi ei newid ar eich pasbort. Gallwch hefyd ddiwygio eich pasbort ymlaen llaw.

Os ydych wedi newid eich enw neu ar fin gwneud hynny

Os ydych chi wedi newid eich enw'n ddiweddar neu'n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol agos, bydd yn rhaid i chi newid yr enw ar eich pasbort. Os na wnewch chi hyn, mae'n bosib na fyddwch yn gallu teithio dramor.

Pan fyddwch yn gwneud cais i newid eich enw, bydd eich pasbort cyfredol yn cael ei ddiddymu a byddwch yn cael pasbort deg-mlynedd safonol newydd. Os oes gennych amser ar ôl ar eich hen basbort, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n ei drosglwyddo i'ch pasbort newydd, ond ni fydd yn trosglwyddo mwy na naw mis.

Beth sy'n digwydd os yw'ch plentyn wedi'i gynnwys ar eich pasbort?

Os oes gennych blentyn ar eich pasbort cyfredol, ni ellir eu cynnwys ar eich pasbort newydd oherwydd newidiadau mewn rheolau pasbort. Bydd angen i chi wneud cais am basbort plentyn ar eu rhan.

Dilynwch y ddolen isod ar wneud cais am basbort plentyn.

Newid enw eich plentyn ar eu pasbort

Os ydych chi'n dymuno newid enw eich plentyn ar eu pasbort nhw neu ar eich pasbort chi, dylech ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau ar 0300 222 0000 am gymorth.

Os ydych chi'n bwriadu newid eich enw pan fyddwch yn priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil

Penderfynu ai cyn ynteu ar ôl y seremoni yr ydych am newid eich enw

Dylech feddwl yn ofalus a ydych am newid yr enw ar eich pasbort cyn y seremoni ynteu ar ôl i chi ddychwelyd o daith dramor.

Y rheswm am hyn yw y dylai'r enw ar eich pasbort gyfateb i'r enw yr ydych wedi'i ddefnyddio i drefnu eich taith. Hyd yn oed os ydych yn mynd â'ch tystysgrif priodas neu dystysgrif partneriaeth sifil gyda chi, os nad yw'r enw ar y pasbort yn cyfateb i'r enw ar yr archeb:

  • mae'n bosib na wnaiff rhai gwledydd adael i chi fynd i mewn i'r wlad
  • mae'n bosib na wnaiff rhai cwmnïau teithio eich gadael ar yr awyren

Dylech holi eich asiant teithio neu is-genhadaeth y wlad rydych yn bwriadu ymweld â hi.

Gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau newid yr enw ar eich pasbort hyd at dri mis cyn y seremoni. Bydd yn diddymu eich hen basbort ac yn rhoi un newydd i chi. Ond, bydd y pasbort wedi'i 'ôl-ddyddio'. Mae hyn yn golygu na fydd modd i chi ei ddefnyddio cyn diwrnod y seremoni. Ni fydd rhai gwledydd yn rhoi fisas ar gyfer pasbortau sydd wedi'u hôl-ddyddio. Dylech holi is-genhadaeth y wlad dan sylw.

Os byddwch yn penderfynu diwygio'ch pasbort cyn y seremoni

I ddiwygio'ch pasbort cyn y seremoni, bydd angen i chi gael ffurflen PD2 a thaflen PD1, 'Pasbortau ar gyfer Pobl sydd Newydd Briodi a Phartneriaid Sifil'. Mae'r rhain yn egluro beth y mae angen i chi ei wneud. Gallwch gael y rhain:

  • drwy eu llwytho oddi ar y we fel ffeiliau PDF
  • o rai o ganghennau Swyddfa'r Post sy'n cynnig y gwasanaeth Gwirio ac Anfon
  • o unrhyw Swyddfa Basbort Ranbarthol
  • drwy ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000 i ofyn iddynt eu hanfon atoch

Mae angen i'r ffurflen gael ei chwblhau'n rhannol gennych chi ac yn rhannol gan y person a fydd yn cynnal y seremoni. Mae'r daflen yn egluro hyn yn fanylach

Os byddwch yn penderfynu diwygio'ch pasbort ar ôl y seremoni

Os ydych chi'n dymuno diwygio eich pasbort ar ôl eich priodas neu'ch partneriaeth sifil, dim ond y ffurflen gais am basbort safonol y bydd angen i chi ei llenwi. Bydd angen i chi hefyd anfon eich tystysgrif priodas neu'ch tystysgrif partneriaeth sifil i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau.

Y Ddeddf Partneriaethau Sifil a newid yr enw ar eich pasbort

Daeth y Ddeddf i rym ar 5 Rhagfyr 2005. Mae'n caniatáu i oedolion o'r un rhyw ffurfio partneriaeth sifil cyfreithiol-rwym. Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n derbyn tystysgrifau partneriaeth sifil i ddangos bod enw wedi newid.

Sut y gall newid enw effeithio ar fisas yn eich pasbort

Pan fyddwch yn gwneud cais i ddiwygio eich pasbort, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n diddymu eich pasbort cyfredol ac yn rhoi un newydd i chi. Gall hyn wneud unrhyw fisas yn eich pasbort cyfredol yn annilys. Dylech holi'r is-genhadaeth a roddodd y fisa a gewch ddefnyddio fisa nad yw wedi dod i ben mewn pasbort sydd wedi'i ddiddymu. Os na chewch chi, bydd yn rhaid i chi wneud cais arall am fisa ar gyfer eich pasbort newydd.

Y camau nesaf - newid yr enw ar eich pasbort

I gael ffurflen gais, gweld beth yw'r ffi a chael gwybod pa ddogfennau ategol y bydd angen i chi eu darparu, dilynwch y ddolen isod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU