Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y ffurflen gais, y ffi a'r dogfennau ategol ar gyfer cael pasbort plentyn

Mae gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau un ffurflen safonol ar gyfer ceisiadau unigol am basbortau. Bydd cyfarwyddiadau llawn gyda'r ffurflen, p'un ai a fyddwch yn llenwi'r fersiwn bapur neu'r fersiwn ar-lein. Yma, cewch wybod faint yw'r ffi, sut mae cael y ffurflen a chael gwybod pa ddogfennau ategol y mae angen i chi eu hanfon i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau

Cost pasbort plentyn

Mae pasbort plentyn cyntaf yn costio £49 am wasanaeth safonol ac £96.50 am y gwasanaeth wythnos Trac Cyflym. Nid yw’r gwasanaeth Premiwm ar gael.

Mae'n costio £49 am wasanaeth safonol i adnewyddu pasbort plentyn, £96.50 am y Gwasanaeth wythnos Trac Cyflym a £109.50 am y gwasanaeth undydd Premiwm.

Gallwch gael gwybodaeth fanylach yn yr adran 'Ffioedd pasbort, faint o amser mae'n ei gymryd a cheisiadau brys.'

Y ffurflen gais

Sut i'w chael

Mae pedair ffordd y gallwch ei chael. Gallwch:

  • ei chasglu o gangen Swyddfa'r Post sy'n cynnig y gwasanaeth Gwirio ac Anfon Pasbortau
  • gofyn am ffurflen gais ar-lein a bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn anfon un atoch drwy'r post
  • ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000 a gofyn i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau anfon un atoch drwy'r post
  • llenwi'r cais ar-lein, os felly bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argraffu'r ffurflen wedi'i llenwi ac yn ei hanfon atoch er mwyn i chi ei llofnodi a'i dychwelyd gyda'r dogfennau ategol

Pwy ddylai ei llofnodi

Rhiant y plentyn neu phwy bynnag sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn ddylai lofnodi'r ffurflen.

Os yw eich plentyn yn 12 oed neu hŷn, dylai lofnodi a dyddio adran 6 (gadewch adran 6 yn wag ar gyfer plant dan 12 oed).

Os yw eich plentyn yn 11 oed neu iau, rhaid i'r cais am basbort gael ei adlofnodi yn adran 10.

Dylai pwy bynnag y byddwch yn gofyn iddo/iddi adlofnodi (y rhiant neu'r gofalwr) fod yn rhywun sydd wedi eich adnabod am o leiaf dwy flynedd. Mae'n rhaid:

  • iddynt fod dros 18
  • bod ganddynt basbort Prydeinig neu Wyddelig cyfredol
  • eu bod yn fodlon ysgrifennu eu rhif pasbort ar y ffurflen

Dylent fod yn gweithio mewn proffesiwn cydnabyddedig neu fel arall fod ag enw da yn y gymuned. Gallwch weld rhestr o broffesiynau addas drwy ddilyn y ddolen isod i 'Pwy gaiff adlofnodi'ch cais?'

Dylech ofyn i'r un person ardystio un o luniau eich plentyn. Maent yn gwneud hyn drwy ysgrifennu ar gefn y llun:

  • 'Tystiaf fod hwn yn dangos gwir debygrwydd i [Miss, Mr neu deitl arall ac enw llawn y plentyn]'

Yna, rhaid iddynt lofnodi a dyddio'r datganiad.

Pasbort plentyn cyntaf - dogfennau ategol y bydd angen i chi eu darparu

Mae angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld y dogfennau gwreiddiol i brofi bod eich plentyn yn Brydeinig. Nid yw'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn derbyn llungopïau o ddogfennau neu ddogfenau sydd wedi'u lamineiddio, ond fe wnaiff dderbyn dogfennau sydd wedi'u lamineiddio at ddibenion Braille.

Nid yw tystysgrifau geni yn cael eu hystyried yn brawf pendant o bwy ydych chi. Hyd yn oed os cafodd eich plentyn ei eni yn y DU, fe allai'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ofyn am gael gweld rhagor o ddogfennau.

Mae'r dogfennau y mae angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau eu gweld yn dibynnu ar ble cafodd eich plentyn ei eni.

Os nad ydych yn siŵr o hyd beth y mae angen i chi ei anfon ar ôl darllen y manylion isod, gallwch ffonio Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Os cafodd eich plentyn ei eni neu ei fabwysiadu yn y DU

Mae angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld tystysgrif geni neu fabwysiadu lawn y plentyn yn dangos manylion y rhieni ac un o'r canlynol:

  • tystysgrif geni DU y fam, neu ei thystysgrif cofrestru neu dystysgrif brodori'r Swyddfa Gartref, neu ei phasbort a oedd yn ddilys adeg genedigaeth y plentyn
  • tystysgrif geni DU y tad, neu ei dystysgrif cofrestru neu dystysgrif brodori'r Swyddfa Gartref, neu ei basbort a oedd yn ddilys adeg genedigaeth y plentyn* a thystysgrif priodas y rhieni

Nodwch*: os daeth y pasbort i ben cyn genedigaeth y plentyn, bydd angen i chi anfon y pasbort a ddefnyddiodd y tad i ddod i'r DU.

Os cafodd y plentyn ei eni y tu allan i'r DU

Mae angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld tystysgrif geni neu fabwysiadu lawn y plentyn yn dangos manylion y rhieni ac un o'r canlynol:

  • tystysgrif geni DU y fam*, neu ei thystysgrif cofrestru neu dystysgrif brodori'r Swyddfa Gartref, neu ei phasbort a oedd yn ddilys adeg genedigaeth y plentyn
  • tystysgrif geni DU y tad*, neu ei dystysgrif cofrestru neu dystysgrif brodori'r Swyddfa Gartref, neu ei basbort a oedd yn ddilys adeg genedigaeth y plentyn* a thystysgrif priodas y rhieni*

Nodwch*: Os oes gan y plentyn dystysgrif geni a roddwyd gan is-genhadaeth Brydeinig neu uwch gomisiwn dramor, gallwch anfon honno yn hytrach na thystysgrifau geni/priodas.

Os ydych yn anfon dogfennau'r tad, bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld tystysgrif priodas y rhieni hefyd os cafodd y plentyn ei eni cyn 1 Gorffennaf 2006.

Os cafodd y plentyn ei eni y tu allan i'r DU ond bod ganddo dystysgrif cofrestru neu dystysgrif brodori gan y Swyddfa Gartref

Bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld:

  • y dystysgrif cofrestru neu'r dystysgrif brodori
  • y pasbort a ddefnyddiodd y plentyn i ddod i'r DU

Adnewyddu pasbort plentyn - dogfennau ategol y bydd angen i chi eu darparu

Yn yr achos hwn bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld pasbort cyfredol neu basbort diwethaf eich plentyn.

Additional links

Llinell Gymorth Pasbortau

I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:

- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000

Allweddumynediad llywodraeth y DU