Gallwch lenwi a chyflwyno eich ffurflen gais ar-lein, ond ni fydd eich cais yn gyflawn nes i chi lofnodi a dychwelyd y ffurflen gyda'r dogfennau ategol. Cyn dechrau, gwnewch yn siŵr bod y ffurflen ar-lein yn addas i chi.
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein i wneud cais am unrhyw fath o basbort unigol yn y DU.
Nid yw'r ffurflen gais ar-lein yn addas ar gyfer:
Os ydych chi'n byw oddi allan i'r DU bydd angen i chi drefnu apwyntiad i chi eich hun fynd i wneud cais mewn Swyddfa Basbort Ranbarthol. Gallwch wneud hyn drwy ffonio Llinell Gymorth 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000. Neu fe allwch wneud cais drwy is-genhadaeth y DU yn y wlad yr ydych yn byw ynddi. Gallwch weld hyn ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
Os oes arnoch angen eich pasbort o fewn pedair wythnos dylech edrych ar y gwasanaethau y nodir yn ‘Amserlen ar gyfer ceisiadau am basbortau’.
I gael gwybodaeth am basbortau cyfunol, dilynwch y ddolen i 'Pasbort cyfunol (neu grŵp)'
Mae'r ffurflen yn cynnwys help a chyfarwyddiadau manwl ar bob cam.
Pan fyddwch wedi llenwi a chyflwyno'r ffurflen, caiff ei hanfon ar-lein i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Yna, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n ei hargraffu ac yn ei phostio atoch. Dylech wneud yn siŵr bod eich manylion yn gywir cyn llofnodi'r ffurflen a'i dychwelyd i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau gyda'ch lluniau ac unrhyw ddogfennau ategol eraill y mae eu hangen ar gyfer eich cais.
Os hoffech weld pa ddogfennau ategol y mae angen i chi eu darparu, dilynwch y ddolen isod ar gyfer y math o gais yr ydych yn ei wneud.
Ni fyddai safon ffurflen gais wedi'i hargraffu ar argraffydd desg cyffredin o gyfrifiadur cartref yn ddigon da. Mae'n debygol na fyddai modd defnyddio'ch ffurflen.
Pam nad yw'r cais i gyd yn cael ei wneud yn electronig
Mewn theori, yn ogystal ag anfon y manylion ar eich ffurflen gais dros e-bost, fe allech hefyd anfon lluniau digidol, dogfennau wedi'u sganio a'ch llofnod (naill ai wedi'i sganio neu'n electronig) i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Fodd bynnag, nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael am amryw o resymau, gan gynnwys:
I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:
- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000