Gwefan llywodraeth y DU yw Directgov sy'n rhoi gwybodaeth a gwasanaethau ar-lein i'r cyhoedd.
Mae'n darparu gwybodaeth o wahanol adrannau'r llywodraeth a thu hwnt am bynciau sy'n amrywio o gwblhau eich prawf gyrru ac absenoldeb rhiant i ddod o hyd i swydd neu wasanaeth GIG lleol.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth a gwasanaethau drwy chwilio neu gallwch: bori fesul pwnc, er enghraifft:
a dod o hyd i wybodaeth yn ôl grwpiau gwahanol, er enghraifft:
I wneud eich bywyd yn haws gallwch gwblhau amryw o wasanaethau'r llywodraeth ar-lein - o archebu eich prawf gyrru a threthu eich car i adnewyddu eich pasbort neu wneud cais am fenthyciad myfyrwyr.
Gyda Direct gallwch gael:
Mae Directgov ar gael ar bob ffôn symudol sy'n gallu defnyddio'r rhyngrwyd. Os ydych chi ar grwydr neu os nad oes cyfrifiadur personol ar gael i chi, gallwch ddefnyddio eich ffôn i gael y wybodaeth deithio ddiweddaraf, dod o hyd i'ch meddyg agosaf, dysgu am gymorth gyda chostau gofal plant a llawer mwy.
Os ydych yn gwsmer i Sky neu Virgin Media gallwch gael Directgov drwy eich set deledu. Mae gan y gwasanaeth, sydd wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer y teledu, gyfoeth o wybodaeth sy'n eich galluogi i weld gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn
Rydym bob amser yn ceisio gwella Directgov ac yn croesawu eich adborth. Dyma rai o'r newidiadau a wnaed ar sail yr hyn a ddywedwyd gennych chi:
Mae Directgov yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gael dolen at ei dudalennau gwybodaeth. Nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i greu dolen i Directgov, ond gallwn ni ddarparu'r geiriau a'r graffigau ar eu cyfer.
Rydym yn monitro gweithgarwch ar Directgov yn rheolaidd - nifer yr ymweliadau, nifer y defnyddwyr unigryw, nifer y ceisiadau am dudalennau - er mwyn amcangyfrif faint o bobl sy'n defnyddio'r wefan ac i gael gwybod pa dudalennau yw'r rhai mwyaf poblogaidd.
Mae gan Directgov dîm ymrwymedig ar gyfer yr holl ymholiadau gan y cyfryngau a'r wasg.