Rydym yn defnyddio technegau dadansoddi'r we i fesur nifer yr ymweliadau â gwefan Directgov. I wneud hyn, byddwn yn defnyddio briwsion ('cookies'). Am fwy o wybodaeth am friwsion, gweler y ddolen i'r adran 'Eich preifatrwydd' ar waelod y dudalen hon.
Ffigurau ymweld â gwefan Directgov dros y tri mis diwethaf – holl wefannau Directgov
Nid yw pawb sy'n ymweld â Directgov yn mynd i www.direct.gov.uk. Mae Directgov ar gael hefyd ar ffurf cyfres o wefannau cysylltiedig fel bluebadge.direct.gov.uk. Mae'r ffigur ar gyfer 'holl wefannau Directgov' yn cynnwys ymweliadau a gyfrifwyd gan wefannau partner hefyd o bosib, fel www.jobcentreplus.gov.uk. Amcangyfrif a geir o rai gwefannau.
|
Mis |
Ymweliadau (holl wefannau Directgov) |
|---|---|
| Mai 2009 | 16,892,217 |
| Mehefin 2009 | 17,890,009 |
| Gorffennaf 2009 | 20,637,609 |
Ffigurau ymweld â gwefan Directgov dros y tri mis diwethaf – www.direct.gov.uk yn unig
|
Mis |
Ymweliadau |
Defnyddwyr unigryw |
Ceisiadau am dudalennau |
|---|---|---|---|
| Mai 2009 | 10,012,073 | 7,289,302 | 39,789,457 |
| Mehefin 2009 | 10,198,929 | 9,681,300 | 40,117,044 |
| Gorffennaf 2009 | 12,470,557 | 9,173,303 | 44,700,412 |
Diffiniadau
Ymweliad: Diffinnir hyn fel cyfres o geisiadau am dudalen a anfonwyd at un defnyddiwr unigryw.
Defnyddiwr unigryw: Diffinnir hyn fel defnyddiwr unigryw y mae'n bosib ei adnabod. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio un neu fwy o'r canlynol: briwsion; cyfeiriad eich Darparwr Rhyngrwyd (IP) ynghyd â chyfuniad o'r math o borwr a'r system gweithredu; ID Cofrestru.
Cais am dudalen (Gweld tudalen): Diffinnir hyn fel ffeil, neu gyfuniad o ffeiliau, a anfonir at ddefnyddiwr ar ôl i'r gweinydd dderbyn ei gais. Ni chaiff rhai delweddau ac asedau, megis PDFs, eu cynnwys.
Caiff ystadegau gwefan Directgov eu harchwilio gan ABC electronic. Cynhaliwyd yr archwiliad diwethaf ym mis Mawrth 2009. Roedd yr archwiliad yn cynnwys prif wefan Directgov a Ceiswyr Gwaith Directgov.
| Ymweliadau | Defnyddwyr unigryw | Ceisiadau am dudalennau | |
|---|---|---|---|
| Mawrth 2007 | 5,321,649 | 3,829,262 | 33,831,404 |
| Gorffennaf 2006 | 2,800,006 | 2,020,052 | 19,259,995 |