Daeth rheoliadau newydd i rym ar 1 Hydref 2006 sy'n ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu yn erbyn gweithwyr ar sail eu hoed. Mae'r cyfreithiau'n golygu bod gan weithwyr o bob oed yr un cyfle i gael hyfforddiant a dyrchafiad yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Mae'r rheoliadau'n amddiffyn gweithwyr o unrhyw oed rhag i rywun neu rywbeth wahaniaethu yn eu herbyn yn y gwaith, mewn hyfforddiant ac mewn addysg i oedolion ar sail eu hoed.
Mae’n anghyfreithlon i gyflogwyr, ar sail oed, i:
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae'n anghyfreithlon i'ch cyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich bod dros 50 oed, oni allant gyfiawnhau hynny, neu os daw hynny o fewn un o'r eithriadau a geir yn y gyfraith newydd.
Dylai eich cyflog a'ch buddion fod yn seiliedig ar eich sgiliau nid ar eich oedran. Mae'r gyfraith newydd yn cynnwys eithriadau ar gyfer buddion sy'n seiliedig ar hyd gwasanaeth. Cafwyd gwared ar y terfynau oed uchaf ar gyfer diswyddo annheg a dileu swydd. Bydd ymddeol yn 65 oed yn rheswm teg dros ddiswyddo gyhyd ag y dilynir y gweithdrefnau priodol.
Ni chaiff darparwyr hyfforddiant wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich oed. Ni chaiff eich cyflogwr ychwaith eich atal rhag mynd ar gyrsiau neu hyfforddiant galwedigaethol os ydych dros 50 oed, oni allant ddarparu rheswm gwrthrychol.
Mae'r gyfraith yn darparu ar gyfer oed ymddeol diofyn o 65 oed. Mae gorfodi rhywun i ymddeol o dan 65 oed yn anghyfreithlon oni all eich cyflogwr ddarparu rheswm gwrthrychol. Nid yw’r gyfraith newydd yn effeithio ar oed pensiwn y wladwriaeth.
Eithriadau
Mae rhai eithriadau dan y ddeddf lle gallai fod yn gyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu ar sail oed.
Er enghraifft, gall cyflogwr:
Gall cyflogwr wrthod eich cyflogi os ydych dros 65 oed neu dros oed ymddeol arferol y cyflogwr, heb orfod cyfiawnhau hynny.
Nid yw gwaith gwirfoddol di-dâl yn cael ei gynnwys onid yw’n rhan o gwrs hyfforddi
Recriwtio ar gyfer pobl dros 65
Gall cyflogwyr wrthod eich hurio os ydych dros 65 oed neu dros oed ymddeol arferol y cyflogwr, pa un bynnag sydd uchaf, heb orfod cyfiawnhau hynny. Gallant hefyd wrthod ystyried cais gan unrhyw un sy'n gwneud cais am swydd o fewn chwe mis i fod yn 65 oed (neu oed ymddeol arferol y cyflogwr os yw hwnnw dros 65).
Mae'n anghyfreithlon i'ch cyflogwr eich gorfodi i ymddeol yn groes i'ch ewyllys cyn eich bod yn 65 oed, ac eithrio lle gall eich cyflogwr gyfiawnhau'n wrthrychol yr oed ymddeol cynharach.
Mae gan bob gweithiwr 'hawl i ofyn' am gael gweithio ar ôl yr oed ymddeol diofyn neu unrhyw oed ymddeol arall a bennir gan eu cyflogwr. Mae'n rhaid i'r cyflogwr ystyried y cais o ddifrif.
Rhaid i gyflogwyr roi gwybod i weithwyr trwy lythyr, o leiaf chwe mis ymlaen llaw, ar ba ddyddiad y bwriedir iddynt ymddeol er mwyn helpu gweithwyr hŷn i gynllunio'n well ar gyfer eu hymddeoliad.