Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Credyd Pensiwn – cyflwyniad

Ceir dau fath gwahanol o Gredyd Pensiwn. Mae Credyd Gwarant ar gyfer y rheini sy’n 60 oed neu’n hŷn. Mae Credyd Cynilion ar gyfer y rheini sy’n 65 oed neu’n hŷn. Gallech gael y Credyd Cynilion ar ei ben ei hun neu gyda’r Credyd Gwarant. Cewch wybod yma a oes gennych hawl i gael Credyd Pensiwn a sut a phryd i wneud cais am y budd-dal hwn.

60 oed neu’n hŷn – Credyd Gwarant

Os ydych chi'n 60 oed neu’n hŷn ac yn byw ym Mhrydain Fawr, fe allai fod gennych hawl i gael Credyd Gwarant. Mae hwn yn gwarantu isafswm incwm i chi drwy gynyddu’ch incwm wythnosol i:

  • £130 os ydych yn sengl
  • £198.45 os oes gennych bartner

Fe allech chi gael mwy os oes gennych gyfrifoldebau gofal, anabledd neu gostau eraill sy’n ymwneud â’ch cartref, megis taliadau llog ar forgais.

Er ei bod yn rhaid i chi fod yn 60 oed i gael Credyd Pensiwn, gallwch ddal hawlio os yw’ch partner yn iau na 60. Os ydych chi a’ch partner yn hŷn na 60 oed, gallwch chi neu’ch partner wneud cais.

Defnyddir y gair ‘partner’ i gyfeirio at eich gŵr, eich gwraig neu’ch partner sifil, neu’r sawl rydych yn byw â hwy fel petai yn ŵr, yn wraig neu’n bartner sifil i chi.

Rhwng 6 Ebrill 2010 a 5 Ebrill 2020, bydd yr oedran y gallwch hawlio Credyd Pensiwn yn newid. Bydd yn cynyddu’n raddol yn unol â chynyddu oed hawlio Pensiwn y Wladwriaeth o 60 i 65 oed i fenywod. Defnyddiwch gyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth i gael gwybod mwy am gynyddu oedran menywod ar gyfer cael Pensiwn y Wladwriaeth a phryd y gallwch wneud cais am Gredyd Pensiwn.

65 oed neu’n hŷn – Credyd Cynilion

Os ydych chi'n 65 oed neu’n hŷn ac yn byw ym Mhrydain Fawr, fe allai fod gennych hawl i gael Credyd Cynilion. Gallech gael y Credyd Cynilion ar ei ben ei hun neu gyda’r Credyd Gwarant. Efallai fod gennych hawl i gael Credyd Cynilion:

  • os ydych chi’n 65 oed neu'n hŷn
  • os ydych wedi dechrau paratoi ar gyfer eich ymddeoliad, megis ail bensiwn neu gynilion

Os oes gennych bartner, mae’n rhaid bod o leiaf un ohonoch yn 65 oed neu’n hŷn er mwyn cael y Credyd Pensiwn.

Gyda’r Credyd Cynilion gallwch gael hyd at:

  • £20.40 yr wythnos os ydych chi'n sengl
  • £27.03 yr wythnos os oes gennych bartner

Mae’n bosib y gallwch ddal gael Credyd Cynilion hyd yn oed os ydych yn cael tua:

  • £181 yr wythnos os ydych chi'n sengl
  • £266 yr wythnos os oes gennych bartner

Fe allech chi gael mwy os oes gennych gyfrifoldebau gofal, anabledd neu gostau eraill sy’n ymwneud â’ch cartref, megis taliadau llog ar forgais.

Gwneud cais am Gredyd Pensiwn dros y ffôn

Gallwch ffonio'r Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 99 1234 neu ffôn testun 0800 169 0133. Mae’r Llinell ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Pan fyddwch yn ffonio, bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • gwybodaeth am eich cynilion, eich buddsoddiadau a’ch incwm
  • manylion y cyfrif yr hoffech i’r taliadau Credyd Pensiwn gael eu talu iddo

Bydd cynghorydd ar gael i'ch helpu i wneud cais am Gredyd Pensiwn ac i ddweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf.

Gall y Gwasanaeth Pensiwn hefyd eich helpu os byddwch chi'n gwneud cais am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor yr un pryd ag y byddwch chi'n gwneud cais am Gredyd Pensiwn

Os nad ydych yn siarad Saesneg

Os nad ydych yn siarad Saesneg, gall cyfieithydd eich helpu i wneud cais. Ffoniwch Rhadffôn 0800 99 1234. Bydd cynghorydd a chyfieithydd yn eich ffonio’n ôl.

Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 9.00 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Gwneud cais ysgrifenedig am Gredyd Pensiwn

Gallwch lwytho ffurflen oddi ar y we, ei hargraffu a'i llenwi ac yna'i phostio am ddim i'ch canolfan bensiynau.

Hefyd, gallwch lwytho ffurflen gais a’i llenwi ar eich cyfrifiadur. Gallwch wedyn ei hargraffu a’i phostio i’ch canolfan bensiynau yn rhad ac am ddim.

I gael gwybod i ble y dylech anfon eich ffurflen gais am Gredyd Pensiwn, ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn ar 0845 60 60 265 (0845 60 60 275 ar gyfer cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith sy’n byw yng Nghymru). Mae'r Llinell ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Pryd i wneud cais am Gredyd Pensiwn

Gallwch wneud cais hyd at bedwar mis cyn y dyddiad y mae arnoch eisiau dechrau hawlio Credyd Pensiwn. Os cawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1950, ni chewch hawlio Credyd Pensiwn cyn eich bod yn 60. Os cawsoch eich geni ar ôl y dyddiad hwn, defnyddiwch gyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ganfod ar ba ddyddiad y cewch ddechrau hawlio Credyd Pensiwn.

Ni allwn ôl-ddyddio fwy na 3 mis o’ch hawliad Credyd Pensiwn.

Os ydych am ddechrau hawlio Credyd Pensiwn o ddyddiad yn y gorffennol neu’r dyfodol, mae angen i chi ddweud hynny wrth y Gwasanaeth Pensiwn pan fyddwch yn gwneud cais.

Incwm, budd-daliadau a Chredyd Pensiwn

Bydd faint o incwm a gewch yn effeithio ar eich hawl i Gredyd Pensiwn. Yma gallwch ganfod pa incwm sy’n cyfrif tuag at Gredyd Pensiwn, sut y telir Credyd Pensiwn a sut y gallai effeithio ar eich budd-daliadau eraill.

Cael amcangyfrif Credyd Pensiwn

Defnyddiwch y cyfrifiannell Credyd Pensiwn i gael amcangyfrif o’ch Credyd Pensiwn. Mae’r cyfrifiannell ar-lein hwn yn gyflym ac yn hawdd ei ddefnyddio, a bydd yn dweud wrthych faint o Gredyd Pensiwn y gallech ei gael. Cewch wybod mwy am yr amcangyfrif o’ch Credyd Pensiwn ar y dudalen ganlynol:

Enghreifftiau o Gredydau Pensiwn

Yma cewch weld enghreifftiau o sut y cyfrifir Credyd Pensiwn ar sail oedran ac amgylchiadau. Mae’r enghreifftiau hyn yn eich helpu i ddeall yn well sut y mae Credyd Pensiwn yn berthnasol i sefyllfaoedd bywyd go iawn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU