Os ydych chi ar incwm isel, efallai y bydd Taliad Tywydd Oer ar gael i'ch helpu bob wythnos y bydd y tywydd yn oer iawn yn eich ardal chi.
Os ydych chi'n cael Credyd Pensiwn neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cysylltiedig ag incwm gydag elfen gweithgaredd yn seiliedig ar waith neu gymorth yn y prif gyfnod, efallai y byddwch yn gymwys i gael Taliad Tywydd Oer bob wythnos y bydd y tywydd yn oer iawn yn eich ardal chi.
Mae'n bosib y byddwch hefyd yn gymwys i gael Taliad Tywydd Oer ar gyfer pob wythnos gymhwyso os ydych chi'n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cysylltiedig ag Incwm yn y cyfnod asesu a'ch bod yn cael un o'r canlynol:
Eleni, fe gewch £25 pan fydd cofnod neu ragolwg tymheredd cyfartalog eich ardal chi yn sero gradd Celsius neu'n is dros saith niwrnod yn olynol rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth. Defnyddir gorsafoedd tywydd penodedig y Swyddfa Dywydd i gael yr wybodaeth hon.
Ni fydd Taliadau Tywydd Oer yn effeithio ar fudd-daliadau eraill yr ydych yn eu cael.
Does dim angen i chi wneud cais; fe gewch chi'r Taliad Tywydd Oer fel mater o drefn cyn belled â'ch bod yn gymwys.
Rhowch wybod i'ch canolfan bensiwn neu i'r Ganolfan Byd Gwaith os ydych chi'n meddwl y dylech fod wedi cael Taliad Tywydd Oer ond nad ydych wedi cael un.