Os ydych chi'n 60 oed neu hŷn, fe allech gael Taliad Tanwydd Gaeaf i'ch helpu i dalu am gadw'n gynnes yn ystod y gaeaf. Fel arfer, telir y budd-dal di-dreth hwn o fis Tachwedd ymlaen – a chaiff y rhan fwyaf o'r taliadau eu gwneud erbyn y Nadolig.
Mae'n bosib y cewch Daliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer gaeaf 2009/10 os yw'r canlynol yn berthnasol:
Gall pobl gymwys sydd rhwng 60 a 79 oed gael hyd at £250, a gall pobl sy'n 80 oed neu'n hŷn gael hyd at £400.
Bydd cyplau cymwys lle mae’r ddau berson yn 60 oed neu’n hŷn ac yn cael Credyd Pensiwn neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm yn cael un taliad, gyda’r taliad hwnnw’n cael ei wneud i’r person sy’n cael y budd-dal hwnnw. Ni fydd gan y person arall hawl i'r taliad.
Os ydych chi'n cael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-dal arall (ac eithrio Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor neu Fudd-dal Plant) fe gewch eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn yr un ffordd ag y byddwch fel arfer yn cael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-dal.
Os nad ydych chi'n cael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-dal arall (ac eithrio Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor neu Fudd-dal Plant) bydd y Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael ei dalu yn y ffordd y byddwch yn ei nodi ar y ffurflen hawlio.
Amseru'r taliadau
Dylai'r rhan fwyaf o bobl gymwys gael eu Taliad Tanwydd Gaeaf fel mater o drefn. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i rai pobl wneud hawliad. Er enghraifft, os na chawsoch Daliad Tanwydd Gaeaf y llynedd neu os na chawsoch fudd-dal nawdd cymdeithasol a weinyddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ystod yr wythnos gymhwyso.
Y dyddiad cau ar gyfer cael hawliadau Taliad Tanwydd Gaeaf oedd 30 Mawrth 2009. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich hawliad ar gyfer gaeaf 2008/09 cysylltwch â Llinell Gymorth y Taliad Tanwydd Gaeaf. Gwnewch yn siŵr bod eich rhif Yswiriant Gwladol gennych wrth law pan fyddwch yn ffonio.
Ni fydd y Taliad Tanwydd Gaeaf yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill ac ni fydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm arno.
Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn erbyn 27 Medi 2009 ac yn cael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-dal arall (ac eithrio Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor neu Fudd-dal Plant) does dim angen i chi wneud cais - fe ddylech gael y Taliad Tanwydd Gaeaf fel mater o drefn.
Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf ond nad ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth na budd-daliadau (neu ddim ond yn cael Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor neu Fudd-dal Plant) - bydd angen i chi wneud hawliad.
Bydd y ffurflen hawlio ar gyfer gaeaf 2009/10 ar gael o fis Gorffennaf 2009 ymlaen. Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy ffonio llinell gymorth y Taliad Tanwydd Gaeaf ar 08459 151 515, ffôn testun 0845 601 5613. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.30 am a 4.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Pryd i wneud cais
Dylech hawlio ar 25 Medi 2009 neu cyn hynny er mwyn cael eich taliad erbyn y Nadolig. Rhaid cael pob hawliad ar gyfer taliad 2009/10 erbyn 30 Mawrth 2010.
Ar ôl cael eich Taliad Tanwydd Gaeaf cyntaf dylech ei gael yn awtomatig bob blwyddyn cyn belled nad yw’ch amgylchiadau’n newid.
Gwneud cais ar gyfer y gaeafau a aeth heibio
Os ydych yn gymwys, gallwch hawlio Taliadau Tanwydd Gaeaf ar gyfer y blynyddoedd rhwng 1997/08 a 1999/2000. Cyflwynwyd terfynau amser ar gyfer hawliadau ar ôl 2001.
Mae hyn yn golygu na ellir gwneud taliadau am hawliadau hwyr ar gyfer unrhyw un o'r blynyddoedd rhwng 2000/01 a 2007/08. Bu'n rhaid cael yr hawliadau ar gyfer y blynyddoedd hyn cyn neu ar 30 Mawrth ar gyfer y gaeaf perthnasol, er enghraifft, byddai wedi bod yn rhaid cael hawliad ar gyfer gaeaf 2007/08 cyn 30 Mawrth 2008.
Gallwch lwytho ffurflen hawlio ar gyfer gaeafau sydd wedi mynd heibio oddi ar wefan y Gwasanaeth Pensiwn i'w hargraffu a'i llenwi.
Mae'n bwysig eich bod yn dweud wrth y swyddfa sy'n delio gyda'ch taliadau:
Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn dal i gael y swm iawn.
Os ydych chi'n cael Credyd Pensiwn neu fudd-dal arall sy'n gysylltiedig ag incwm, fe allech fod yn gymwys i gael Taliad Tywydd Oer i'ch helpu i gynhesu'ch cartref pan fydd y tywydd yn oer yn eich ardal chi.