Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymryd eich absenoldeb mamolaeth

Os oes gennych hawl i absenoldeb mamolaeth, ceir camau y mae angen i chi eu dilyn wrth ddweud wrth eich cyflogwr bod arnoch eisiau cymryd eich absenoldeb mamolaeth. Ceir rheolau hefyd ynghylch pryd y cewch ddechrau eich cyfnod o absenoldeb mamolaeth a faint o absenoldeb a gewch.

Rhoi gwybod i'ch cyflogwr

Rhowch wybod i'ch cyflogwr o leiaf 15 wythnos cyn dechrau'r wythnos pan ddisgwylir i'ch babi gyrraedd. Os nad oes modd gwneud hyn (ee am nad oeddech chi'n sylweddoli eich bod yn feichiog), rhowch wybod iddo cyn gynted ag y bo modd. Bydd angen i chi ddweud:

  • eich bod yn feichiog
  • pryd mae'r babi i fod i gyrraedd
  • pryd ydych yn dymuno dechrau'ch cyfnod o absenoldeb mamolaeth (fe gewch newid y dyddiad yn ddiweddarach, os rhoddwch 28 diwrnod o rybudd)

Mae'n bosib y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi roi rhybudd ysgrifenedig. Mae'n bosib y bydd hefyd yn gofyn am gopi o Ffurflen MAT B1, y dystysgrif mamolaeth, sy'n dweud pryd y disgwylir i'ch babi gael ei eni. Bydd eich meddyg neu'ch bydwraig yn rhoi copi o ffurflen MAT B1 i chi pan fyddwch yn feichiog ers 21 wythnos - ni allant roi'r ffurflen hon i chi cyn hyn.

Ar ôl i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn dymuno cael cyfnod o absenoldeb mamolaeth, dylent ysgrifennu atoch o fewn 28 diwrnod, gan ddweud wrthych ar ba ddyddiad y bydd y cyfnod o absenoldeb yn dod i ben.

Cymryd eich absenoldeb mamolaeth

Pryd y cewch ddechrau'ch cyfnod o absenoldeb?

Cewch ddechrau'ch cyfnod o absenoldeb unrhyw bryd o'r 11eg wythnos cyn dechrau'r wythnos y disgwylir i'ch babi gyrraedd. Os byddwch chi'n absennol o'r gwaith oherwydd eich beichiogrwydd yn ystod y pedair wythnos cyn y dyddiad pan ddisgwylir i'r babi gyrraedd, fe all eich cyflogwr eich gorfodi i ddechrau'ch cyfnod o absenoldeb mamolaeth.

Oes rhaid i chi gymryd yr wythnosau i gyd?

Does dim rhaid i chi gymryd yr wythnosau i gyd, ond rhaid i chi gymryd pythefnos (neu bedair wythnos os ydych chi'n gweithio mewn ffatri) o 'absenoldeb mamolaeth gorfodol' ar ôl geni'ch babi.

Beth os byddwch chi'n colli'r babi?

Ar yr amod eich bod yn bodloni'r holl amodau eraill, byddwch yn dal i allu cymryd y cyfnod o absenoldeb mamolaeth os yw eich plentyn:

  • yn farwanedig ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd
  • yn cael ei eni'n fyw unrhyw bryd yn ystod y beichiogrwydd

Ble mae cael cymorth

Os cewch chi'ch trin yn llai ffafriol oherwydd eich bod yn feichiog neu oherwydd eich bod yn absennol dros gyfnod mamolaeth, mae'n bosib bod hyn yn enghraifft o wahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw. Os na chewch eich hawliau, siaradwch â'ch cyflogwr yn gyntaf neu â chynrychiolydd cyflogeion - swyddog undeb llafur er enghraifft.

Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi wneud cwyn gan ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch ble i gael cymorth gyda materion yn ymwneud â chyflogaeth, ewch i'r dudalen 'Cysylltiadau cyflogaeth'. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael cyngor neu gefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU