Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hyfforddiant a chymorth ariannol i ofalwyr maeth

Os ydych am fod yn ofalwr maeth bydd gwahanol fathau o gymorth ymarferol ac ariannol ar gael i chi. Mae hyn yn cynnwys lwfans i dalu costau, gostyngiad treth a help i gael Pensiwn y Wladwriaeth.

Cefnogaeth a hyfforddiant

Caiff gofalwyr maeth adolygiad blynyddol gan ddarparwyr y gwasanaeth maeth a chânt bob hyfforddiant sydd ei angen arnynt i sicrhau eu bod yn addas i barhau i faethu. Byddant hefyd yn cael gweithiwr/wraig cymdeithasol sy’n eu goruchwylio a fydd yn ymweld â nhw yn gyson i gynnig cyngor a chefnogaeth i ofalwyr maeth a'u teuluoedd.

Safonau ar gyfer gofalwyr maeth

Mae'r Cyngor Datblygu Gweithlu Plant  (CWDC) wedi cyhoeddi Safonau Hyfforddi, Cefnogaeth a Datblygu ar gyfer Gofalwyr Maeth. Y bwriad yw cefnogi gofalwyr maeth yn syth ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo a thrwy gydol y ddwy flynedd gyntaf o wasanaeth. Mae’r safonau’n ymwneud â phrif feysydd rôl gofalwyr maeth a’r hyn y dylai gofalwyr maeth wybod, deall a gallu gwneud.

Mae’r CWDC hefyd yn cyhoeddi canllaw ar gyfer gofalwyr maeth sy’n cyd-fynd â’r safonau. Mae’r ddwy ddogfen ar gael i’w llwytho i lawr o wefan CWDC.

Fosterline

Llinell gymorth ddi-dâl yw Fosterline sy’n cael ei redeg gan y Rhwydwaith Maethu. Mae'n darparu gwybodaeth a chyngor i ofalwyr maeth a phobl sy'n ystyried dod yn ofalwyr maeth. Mae rhai o'r pynciau yr ymdrinnir â nhw yn cynnwys:

  • honiadau o gamdriniaeth
  • budd-daliadau
  • hyfforddi
  • dadansoddiad o leoliadau maeth
  • materion cyfreithiol yn ymwneud â maethu


Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 9.00 am ac 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (a than 8.00 pm ar ddydd Mercher). Rhif y llinell gymorth ddi-dâl yw 0800 040 7675.

Ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?

Dylai pob gofalwr maeth gael lwfans sylfaenol i dalu costau o ofalu am blentyn yn eu cartref. Dangosir cyfraddau’r lwfans sylfaenol cenedlaethol ar gyfer 2009/10 isod: 

Cyfraddau wythnosol 

Babis 

Cyn dechrau yn yr ysgol gynradd 

Cynradd 

Uwchradd (11 i 15) 

Uwchradd (16 i 17) 

 Sylfaen

 £106

 £108

 £119

 £137

 £159

 De-ddwyrain Lloegr

 £117

 £120

 £134

 £152

 £179

 Llundain

 £122

 £125

 £140

 £158

 £186

Cyfraddau’r lwfans sylfaenol cenedlaethol ar gyfer 2010/11 yw:

Cyfraddau wythnosol 

Babis 

Cyn dechrau yn yr ysgol gynradd

 Cynradd

 Uwchradd (11 i 15) 

 Uwchradd (16 i 17) 

 Sylfaen

 £109

 £111

 £122

 £140

 £164

 De-ddwyrain Lloegr

 £120

 £123

 £137

 £156

 £184

 Llundain

 £126

 £129

 £144

 £163

 £191

Y gyfradd sylfaenol gychwynnol yw’r lwfans sylfaenol cenedlaethol.  Bydd y lwfans gwirioneddol y bydd gofalwr maeth yn cael yn dibynnu ar nifer o ffactorau, yn arbennig anghenion penodol plentyn unigol. Gall rhai gofalwyr hefyd gael eu talu i gydnabod sgiliau, ymrwymiad neu amser. Gallai'r asiantaethau maethu wneud un taliad i gwrdd â chostau'r ddau o'r rhain.

Ydy gofalwyr maeth yn talu Treth Incwm?

Mae'r rheolau cyfredol yn golygu nad yw llawer o ofalwyr maeth y DU yn talu treth ar yr arian y maent yn ei ennill wrth faethu. Gall gofalwyr maeth gael eu heithrio rhag talu treth ar ran fwyaf o’u hincwm maeth neu’r cyfan, yn dibynnu ar:

  • faint o blant maen nhw'n gofalu amdano
  • a yw’n flwyddyn dreth lawn
  • a oes unrhyw ofalwyr maeth arall yn yr un cartref

Mae eithriad treth sefydlog o hyd at £10,000 y flwyddyn (llai os yw’n gyfnod byrrach) yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng unrhyw ofalwyr maeth yn yr un cartref. Wedi hynny, caiff gofalwyr maeth ad-daliad treth am bob wythnos (neu ran o wythnos) y mae plentyn yn eu gofal. Am bob wythnos (neu ran o wythnos) mae plentyn 11 oed neu hŷn gyda nhw, eithriad treth y gofalwr maeth yw £250 y plentyn. Am bob wythnos (neu ran o wythnos) mae plentyn 11 oed neu iau yn eu gofal, yr eithriad treth yw £200 y plentyn.

Ydy gofalwyr maeth yn cael pensiwn?

Mae gan ofalwyr maeth yr hawl i fod yn rhan o gynllun o'r enw Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP) sy'n eu helpu i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Y rheswm am hyn yw eu bod yn cael llai o gyfle i wneud gwaith cyflogedig tra'u bod yn ofalwyr maeth.

O 2010 ymlaen, bydd credydau wythnosol i rieni a gofalwyr (gan gynnwys gofalwyr maeth) yn disodli'r cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref. Bydd y rhain yn cyfri tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Os byddwch chi'n cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth cyn neu ar ôl 6 Ebrill 2010, bydd unrhyw Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref yr ydych wedi eu cael dros y blynyddoedd yn cael eu cyfnewid yn gredydau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU