Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Trosglwyddo rhif cofrestru a sut i wneud cais

Fel ceidwad cofrestredig eich cerbyd, gallwch wneud cais i drosglwyddo rhif cofrestru eich cerbyd i gerbyd arall yn eich enw, i gerbyd rydych yn ei brynu, neu i gerbyd rhywun arall.

Amodau trosglwyddo rhif cofrestru

Ni chewch drosglwyddo rhif cofrestru cerbyd:

  • sy'n dechrau gyda 'Q' neu 'NIQ' ar gyfer cerbydau cofrestredig yng Ngogledd Iwerddon
  • os bydd yn gwneud i'r cerbyd y caiff ei drosglwyddo iddo ymddangos yn iau

Er mwyn trosglwyddo'r rhif cofrestru, mae’n rhaid i’r ddau gerbyd:

  • fod wedi'u cofrestru gyda'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
  • fod ar gael ar gyfer archwiliad
  • fod yn fath sy'n gorfod cael tystysgrif prawf MOT neu gerbyd nwyddau trwm (HGV)
  • fod wedi'i drethu ar hyn o bryd

Fodd bynnag, os nad yw'r cerbyd a chanddo'r rhif cofrestru ar hyn o bryd wedi'i drethu, gallwch wneud cais i drosglwyddo'r rhif o hyd ar yr amod:

  • nad oes saib rhwng y dyddiad y bydd y ddisg treth yn dirwyn i ben a dechrau’r HOS
  • ac nad yw'r ddisg treth wedi dod i ben ers dros 12 mis cyn y dyddiad y gwnaethoch y cais

Rhif cofrestredig Gogledd Iwerddon

Gallwch drosglwyddo rhif cofrestru Gogledd Iwerddon rhwng cerbydau sydd wedi'u cofrestru gyda DVLA, Abertawe a'r Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau (DVA), Gogledd Iwerddon. Mae'n rhaid i'r ddau gerbyd fodloni'r amodau ar gyfer trosglwyddo rhif cofrestru. Cysylltwch â DVA i gael rhagor o wybodaeth.

Sut i wneud cais

Bydd gofyn i chi:

  • lenwi ffurflen V317 'cais i drosglwyddo neu gadw rhif cofrestru cerbyd' - os yw'r rhif yn cael ei drosglwyddo i gerbyd rhywun arall, yna mae'n rhaid i'r ddau geidwad cofrestredig lenwi'r ffurflen gais
  • amgáu'r ffi trosglwyddo, sef £80

Dylid amgáu'r canlynol ar gyfer y ddau gerbyd hefyd:

  • y dystysgrif cofrestru
  • neu'r atodiad ceidwad newydd gyda ffurflen V62 'cais am dystysgrif cofrestru cerbyd V5C' wedi'i llenwi
  • tystysgrif prawf - bydd angen hon ar gyfer ceir a beiciau modur dros dair mlwydd oed, ac ar gyfer cerbydau nwyddau trwm dros flwydd oed

Os bydd yr atodiad ceidwad newydd wedi'i stampio gan swyddfa DVLA leol, bydd angen i chi lenwi ffurflen V62 'cais am dystysgrif cofrestru cerbyd V5C' cyn y gallwch wneud cais.

Os oes angen trethu un o'r cerbydau, dylech amgáu:

  • ffurflen V10 'cais am ddisg treth' wedi'i llenwi neu'r nodyn atgoffa V11
  • tystysgrif yswiriant neu nodyn yswiriant dilys
  • tâl am y dreth cerbyd

Ewch â'r ffurflen gais wedi'i llenwi i'ch swyddfa DVLA leol agosaf neu anfonwch hi yno.

Cofrestru cerbyd neu gerbydau newydd sbon

Os ydych yn cofrestru cerbyd eich hun, bydd angen i chi ddarparu dogfennau i gadarnhau pwy ydych chi gyda'ch cais. Os ydych yn prynu cerbyd newydd sbon, bydd angen i chi ddangos dogfennau yn profi pwy ydych i'r deliwr.

Beth sy'n digwydd nesaf

Mae'n bosibl y bydd angen i'ch swyddfa DVLA leol archwilio'r ddau gerbyd a bydd yn cysylltu â chi i drefnu hyn. Oni fydd angen iddynt gynnal archwiliad, byddant yn cymeradwyo eich cais o fewn saith diwrnod gwaith.

Ar ôl cymeradwyo eich cais, bydd eich swyddfa DVLA leol yn anfon y canlynol atoch:

  • llythyr cadarnhad yn nodi'r rhif cofrestru newydd
  • disgiau treth newydd ar gyfer y ddau gerbyd yn nodi'r rhifau cofrestru newydd
  • llythyr awdurdodi (V948) er mwyn gwneud eich plât rhif

Ar ôl anfon eich cais, dylech adael saith diwrnod gwaith o leiaf cyn cysylltu â gwasanaeth ymholiadau cwsmeriaid DVLA os na fyddwch wedi derbyn y dogfennau hyn.

Bydd DVLA Abertawe yn anfon tystysgrifau cofrestru newydd ar gyfer y ddau gerbyd yn nodi'r rhifau cofrestru newydd. Dylai'r rhain gyrraedd o fewn pedair wythnos i gael y llythyr cadarnhad. Gall gymryd hyd at chwe wythnos os bu i chi ddefnyddio ffurflen gais V62 er mwyn cefnogi eich cais.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Rhagor o gyngor ar drosglwyddo rhif cofrestru.

Allweddumynediad llywodraeth y DU