Fel ceidwad cofrestredig y cerbyd, gallwch wneud cais i dynnu rhif cofrestru oddi ar gerbyd a'i gadw ar ddogfen cadw rhif (V778) am flwyddyn, dwy flynedd neu dair blynedd. Gallwch gadw'r rhif cofrestru yn eich enw chi neu ddewis ei gadw yn enw rhywun arall.
Ni chewch gadw rhif cofrestru cerbyd sy’n dechrau gyda 'Q' neu 'NIQ' ar gyfer cerbydau cofrestredig yng Ngogledd Iwerddon.
Er mwyn cadw'r rhif cofrestru, mae’n rhaid i’r cerbyd:
Fodd bynnag, os nad yw'r cerbyd wedi'i drethu, cewch wneud cais i gadw'i rif o hyd ar yr amod:
Ewch â'r canlynol i'ch swyddfa DVLA leol agosaf neu anfonwch nhw yno:
Os bydd yr atodiad ceidwad newydd wedi'i stampio gan swyddfa DVLA leol, bydd angen i chi lenwi ffurflen V62 'cais am dystysgrif cofrestru cerbyd V5C' cyn y gallwch wneud cais.
Os oes angen trethu'r cerbyd, dylech amgáu:
Mae ffurflenni V317, V10 a V62 ar gael i'w llwytho oddi ar y we, neu o'ch swyddfa DVLA leol.
Mae'n bosibl y bydd angen i'ch swyddfa DVLA leol archwilio eich cerbyd a bydd yn cysylltu â chi i drefnu hyn. Oni fydd angen iddynt gynnal archwiliad, byddant yn cymeradwyo eich cais o fewn saith diwrnod gwaith.
Ar ôl cymeradwyo eich cais, bydd eich swyddfa DVLA leol yn anfon y canlynol atoch:
Ar ôl anfon eich cais, dylech adael saith diwrnod gwaith o leiaf cyn cysylltu â gwasanaeth ymholiadau cwsmeriaid DVLA os na fyddwch wedi derbyn y dogfennau hyn.
Bydd DVLA Abertawe yn anfon y canlynol atoch:
Dylai'r rhain gyrraedd o fewn pedair wythnos i gael y llythyr cadarnhad. Gall gymryd hyd at chwe wythnos os byddwch yn defnyddio ffurflen gais V62 er mwyn cefnogi eich cais.
Os ydych yn cadw'r rhif cofrestru dan enw rhywun arall, caiff y ddogfen cadw rhif ei hanfon ato ef neu hi, gan mai ef neu hi a gofnodwyd fel y grantî.
Pan fyddwch yn barod, bydd angen y ddogfen cadw rhif arnoch i aseinio'r rhif cofrestru i'ch cerbyd. Mae’r nodiadau ar y ddogfen cadw rhif yn dweud wrthych beth i’w wneud.
Rhaid i chi adnewyddu'r ddogfen cadw rhif cyn y daw i ben, neu ei diweddaru os oes unrhyw newidiadau i'r manylion a ddangosir, er enghraifft, cyfeiriad newydd neu os byddwch yn ychwanegu neu'n newid manylion enwebai. Mae angen i chi gael dogfen newydd os aiff y ddogfen ar goll neu os caiff ei dwyn. Os daw'r ddogfen i ben, gallech golli eich hawl i'r rhif cofrestru.
Os ydych yn cofrestru cerbyd Gogledd Iwerddon ym Mhrydain Fawr, ac yn cadw'r rhif cofrestru, cynhelir prawf adnabod ar eich cais.