Sut mae creu plât rhif
Mae'n rhaid arddangos rhif cofrestru'n gywir yn unol â'r gyfraith. Bydd angen i chi fynd at ddarparwr platiau rhif cofrestredig er mwyn cael platiau rhif newydd ar gyfer eich cerbyd. Bydd angen prawf o bwy ydych chi ar y darparwr cofrestredig, yn ogystal â phrawf mai chi sy'n berchen ar y rhif cofrestru.
Beth mae ei angen arnoch
Bydd yn rhaid i'r darparwr plât rhif weld o leiaf un ddogfen o bob un o'r rhestrau isod. Bydd hyn yn galluogi'r darparwr plât rhif i gadarnhau eich enw, eich cyfeiriad a'ch hawl i'r rhif cofrestru. Mae'n rhaid i bob dogfen fod yn wreiddiol, nid copïau.
Dogfennau i gadarnhau pwy ydych chi
Un o’r canlynol:
- trwydded yrru, wedi'i chyhoeddi yn y Deyrnas Unedig (DU) ai peidio (gyda llun neu heb lun) - caiff hyn ei ffafrio gan ei bod yn ddogfen ddiogel, a gyhoeddir gan y llywodraeth, yn dangos eich enw a'ch cyfeiriad
- bil a roddir gan eich cyflenwr dŵr, nwy neu drydan, bil llinell ffôn ddaearol neu fil treth gyngor (cyfredol o fewn y chwe mis diwethaf) neu fil cyfraddau (dim ond yng Ngogledd Iwerddon)
- cyfriflen gan fanc neu gymdeithas adeiladu
- pasbort, wedi'i gyhoeddi yn y DU ai peidio
- cerdyn adnabod cenedlaethol a gyhoeddwyd gan lywodraeth gwladwriaeth neu diriogaeth arall heblaw'r DU
- cerdyn debyd neu gerdyn credyd gan fanc neu gymdeithas adeiladu
- cerdyn gwarant yr heddlu
- cerdyn adnabod y lluoedd arfog
Dogfennau i sefydlu eich hawl i'r rhif cofrestru
Un o’r canlynol:
- tystysgrif cofrestru cerbyd (V5C neu V5CNI) - dyma'r dogfennau gorau i'w cyflwyno
- atodiad ceidwad newydd (V5C/2 neu V5C/2NI) y ddogfen gofrestru
- tystysgrif hawl (V750)
- dogfen cadw rhif (V778) (ddim yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon)
- ffurflen adnewyddu trwydded cerbyd (V11)
- tystysgrif cofrestru dros dro (V379) (ddim yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon)
- tystysgrif awdurdodi (V948) gyda stamp swyddogol arni gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), yr Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau (DVA) neu'r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA)
- llythyr awdurdodi gan reolwr fflyd (gan gynnwys cwmni prydlesu/llogi) (ddim yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon) - rhaid dyfynnu cyfeirnod y ddogfen sydd ar y dystysgrif cofrestru, nid rhif adnabod y cerbyd, ar y llythyr
Dod o hyd i'ch darparwr platiau rhif cofrestredig agosaf
Cofiwch, dim ond darparwr platiau rhif cofrestredig y dylech ei ddefnyddio. Bydd angen iddo weld y dogfennau gwreiddiol cyn y gall ddarparu platiau rhif newydd i chi.