Rhaid trethu pob cerbyd a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig os yw'n cael ei ddefnyddio neu'n cael ei gadw ar ffordd gyhoeddus. Os caiff y cerbyd ei gadw oddi ar y ffordd, mae’n rhaid iddo naill ai gael ei drethu neu mae’n rhaid cael HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol) mewn grym. Os na wneir hyn, gallai’r cerbyd gael ei symud neu gellid clampio ei olwynion.
I drethu'ch cerbyd, bydd angen y canlynol arnoch:
Ni ellir trethu cerbyd sydd wedi’i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon yng Nghymru, Lloegr na’r Alban.
Dylech arddangos eich disg dreth ar ffenestr flaen eich cerbyd ar ochr y teithiwr (ochr y palmant). Os nad oes gan eich cerbyd ffenestr flaen neu os oes gennych feic modur neu gerbyd ochr, dylech arddangos eich disg treth ar eich cerbyd ar ochr y palmant.
Ni ellir trosglwyddo’r ddisg treth rhwng cerbydau.
Dylech wneud datganiad HOS os nad ydych yn defnyddio neu’n cadw’ch cerbyd ar ffordd gyhoeddus.
Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn cynnal archwiliad cyfrifiadur bob mis, yn ogystal ag archwiliadau ar ochr y ffordd, i ganfod y cerbydau hynny sydd heb ddisg treth dilys. Gallech wynebu cosb awtomatig o £80 yn ogystal â dirwy o £1000 o leiaf. Gallai eich cerbyd gael ei glampio, ei roi dan glo neu ei falu hyd yn oed.
Bydd dogfennau cyfredol yn eich helpu i drethu eich cerbyd neu wneud datganiad HOS ar amser ac osgoi cosb.
Tystysgrif Cofrestru
Dywedwch wrth DVLA pan fyddwch yn newid eich enw, eich cyfeiriad neu fanylion eich cerbyd fel y gall anfon ffurflen atgoffa V11 atoch yn brydlon.
MOT ac yswiriant
Gwnewch yn siŵr bod eich tystysgrifau yswiriant ac MOT yn ddilys ar y dyddiad yr ydych am i'ch disg treth ddechrau. Cofiwch gadw nodyn o unrhyw ddyddiadau adnewyddu i'ch atgoffa.
Rhowch wybod i DVLA os byddwch yn gwerthu, yn trosglwyddo, yn sgrapio neu'n allforio’ch cerbyd, neu fel arall byddwch chi’n parhau i fod yn gyfrifol am ei drethu er eich bod wedi cael gwared arno. Llenwch yr adran briodol ar eich tystysgrif cofrestru a'i hanfon i DVLA, Abertawe SA99 1BA. Dylech gael llythyr cydnabyddiaeth o fewn pedair wythnos, a dylech gadw hwn fel prawf fod cofnodion DVLA wedi'u diweddaru. Cysylltwch ag adran ymholiadau cwsmeriaid DVLA os na fyddwch wedi cael y llythyr.