Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Cynllun Gwell Beiciwr ar gyfer beicwyr modur

Byddwch yn well beiciwr - dilynwch hyfforddiant i wella eich sgiliau gyrru beic modur. Holwch hyfforddwr proffesiynol am ddilyn cwrs y Cynllun Gwell Beiciwr (ERS). Yn ogystal â meithrin sgiliau newydd, cewch hefyd ddisgownt ar gost eich yswiriant gan y mwyafrif o froceriaid yswiriant beiciau modur.

Pwy ddylai ystyried dilyn hyfforddiant y Cynllun Gwell Beiciwr

Hyfforddiant yw’r Cynllun Gwell Beiciwr a luniwyd ar gyfer beicwyr modur cwbl drwyddedig sy’n dymuno gwella rhai agweddau ar eu sgiliau gyrru beic modur.

Gan fod yr hyfforddiant wedi’i deilwra i fodloni’ch anghenion chi, gallwch wneud cymaint neu gyn lleied ag sydd ei angen – gan amlaf er mwyn lleihau peryglon allweddol wrth yrru ar y ffordd, megis troi corneli, goddiweddyd, gwau drwy draffig, safle’r beic ar y ffordd a chyffyrdd.

Proses hyfforddi’r Cynllun Gwell Beiciwr

Mae hyfforddiant y Cynllun Gwell Beiciwr yn dechrau pan fyddwch yn trefnu asesiad y Cynllun Gwell Beiciwr gydag un o'r hyfforddwyr arbenigol sydd ar Gofrestr Wirfoddol yr Asiantaeth Safonau Gyrru o Hyfforddwyr ar gyfer Beicwyr Modur sydd wedi Pasio’u Prawf.

Bydd yr asesiad yn nodi eich prif gryfderau a gwendidau ond nid oes modd ‘pasio’ neu ‘fethu’ – does dim prawf fel y cyfryw ac ni allwch golli’ch trwydded. Os yw’ch sgiliau gyrru beic modur yn foddhaol, daw’r broses i ben a byddwch yn cael tystysgrif y Cynllun Gwell Beiciwr.

Os oes angen hyfforddiant arnoch, bydd yr hyfforddwr yn paratoi cynllun hyfforddi yn arbennig ar eich cyfer ac yn canolbwyntio ar agweddau penodol sydd angen sylw, yn hytrach na chynllun cyffredinol sy’n ceisio plesio pawb.

Ar ôl i’r hyfforddiant ddod i ben, fe gewch adroddiad, a 'Thystysgrif Cymhwysedd yr Asiantaeth Safonau Gyrru - Bonws Gwell Beiciwr', sy'n eich gwneud yn gymwys i gael disgownt ar eich yswiriant.

Sut y gallwch archebu asesiad a hyfforddiant y Cynllun Gwell Beiciwr

Darperir y Cynllun Gwell Beiciwr gan hyfforddwyr achrededig sydd wedi eu hyfforddi’n drylwyr ac wedi bodloni’r safonau dysgu uchaf cyn ymuno â’r Gofrestr o Hyfforddwyr ar gyfer Beicwyr Modur sydd wedi Pasio’u Prawf. I weld ein rhestr gyfredol o hyfforddwyr, cliciwch ar fanylion cyswllt y Gofrestr o Hyfforddwyr ar gyfer Beicwyr Modur sydd wedi Pasio’u Prawf, isod, neu ffoniwch yr Asiantaeth Safonau Gyrru ar 0115 936 6546.

Cost nodweddiadol hyfforddiant y Cynllun Gwell Beiciwr

Tueddir i gynnal y Cynllun Gwell Beiciwr mewn sesiynau sy’n dwy awr o hyd, ac mae’r gost ar hyn o bryd yn amrywio rhwng £40 a £60, gan ddibynnu ar yr Hyfforddwr.

Hawlio disgownt ar eich yswiriant

Ar ôl i chi ddod i ben â’ch hyfforddiant a chael ‘Tystysgrif Cymhwyster yr Asiantaeth Safonau Gyrru - Bonws Gwell Beiciwr’, cysylltwch ag un o’r cwmnïau yswiriant isod er mwyn cael dyfynbris llawn, a chofiwch sôn am y dystysgrif.

Cwmnïau yswiriant a all gynnig disgownt i chi

Mae’r mwyafrif o gwmnïau yswiriant beiciau modur yn cynnig disgownt i yrwyr sy’n meddu ar ‘Dystysgrif Cymhwysedd yr Asiantaeth Safonau Gyrru – Bonws Gwell Beiciwr’.

Dyma’r broceriaid a’r cwmnïau yswiriant uniongyrchol sy’n noddi'r cynllun hwn ar hyn o bryd:

AA Insurance, Bennett’s Insurance, AXA, Bikesure, Carole Nash, Chandler Direct, Chaucer Insurance, CIA insurance, Devitt, Direct Choice Insurance, E Bike, Equity Red Star, Express Insurance, Groupama, Hastings Direct, Highway, KGM, Lexham, Link/ Zenith, MCE Insurance, Motorcycle Direct, NIG, Norwich Union, Norwich Union Direct, Premium Choice, Rampdale, Royal & Sun Alliance, Swinton Insurance

Gwefan ymgyrch y Cynllun Gwell Beiciwr

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Gwell Beiciwr ar wefan ymgyrch y Cynllun Gwell Beiciwr, gan gynnwys ffilmiau ar-lein am brofiadau a barn beicwyr.

Cofrestr o Hyfforddwyr ar gyfer Beicwyr Modur sydd wedi Pasio’u Prawf

Cofrestr wirfoddol yw’r Gofrestr o Hyfforddwyr ar gyfer Beicwyr Modur sydd wedi Pasio’u Prawf. Mae’n cynnwys rhestr o hyfforddwyr sy’n asesu ac yn darparu hyfforddiant datblygiadol i unrhyw yrrwr sydd wedi pasio'i brawf beic modur. Mae’r Hyfforddwyr sydd ar y gofrestr yn gymwys i roi hyfforddiant y Cynllun Gwell Beiciwr i’r canlynol:

  • gyrwyr sydd wedi pasio eu prawf
  • gyrwyr sy’n ailddechrau gyrru beic modur
  • gyrwyr sy’n bwriadu dechrau gyrru beic mwy
  • gyrwyr sy’n teimlo bod eu sgiliau braidd yn rhydlyd

Mae'r gofrestr yn tyfu ac mae hyfforddwyr ar gael ledled y wlad, yn darparu hyfforddiant ac asesiadau cymeradwy i yrwyr beiciau modur, a'r rheini wedi'u teilwra'n arbennig i ddiwallu anghenion pob unigolyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU