Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Ddeddf Gyrwyr Newydd

Dan y Ddeddf Gyrwyr Newydd, bydd eich trwydded yrru'n cael ei diddymu os byddwch yn cronni chwech neu ragor o bwyntiau cosb o fewn dwy flynedd i basio'ch prawf gyrru cyntaf. Bydd angen i chi ailwneud cais am drwydded yrru fel gyrrwr sy'n dysgu, ac ail-sefyll eich prawf gyrru.

Pwyntiau cosb a gafwyd cyn pasio'ch prawf gyrru

Bydd unrhyw bwyntiau cosb a gewch cyn pasio'ch prawf gyrru cyntaf yn cael eu hystyried. Fodd bynnag, os bydd gennych chwe phwynt neu fwy, nid yw hynny'n golygu y caiff eich trwydded ei diddymu'n syth ar ôl i chi basio'ch prawf.

Os cewch ragor o bwyntiau ar ôl pasio'ch prawf, gan fynd â'ch cyfanswm i chwech neu fwy, caiff eich trwydded ei diddymu.

Y Ddeddf Gyrwyr Newydd – i bwy mae'n berthnasol

Mae'r ddeddf yn berthnasol i'r holl yrwyr ym Mhrydain Fawr, Gogledd Iwerddon, y Gymuned Ewropeaidd ac Ardal Economaidd Ewrop, Ynys Manaw, Ynysoedd y Sianel a Gibraltar.

Gyrwyr o wledydd dynodedig

Mae'r ddeddf yn berthnasol i chi os ydych wedi cyfnewid trwydded yrru o wlad ddynodedig am drwydded Prydain ac wedi pasio prawf gyrru yn y wlad hon.

Dyma'r gwledydd dynodedig: Awstralia, Barbados, Canada, De Affrica, Gweriniaeth Corea, Hong Kong, Japan, Monaco, Seland Newydd, Singapore, y Swistir, Ynysoedd y Faroe, Ynysoedd y Malfinas, Ynysoedd y Wyryf Prydain a Zimbabwe.

Cael eich trwydded yrru lawn yn ôl

Er mwyn cael eich trwydded yrru lawn yn ôl, bydd yn rhaid i chi ailwneud cais am drwydded yrru dros dro yn gyntaf.

Bydd angen i chi hefyd basio'r prawf theori a'r prawf gyrru ymarferol eto a gwneud cais am drwydded ar ôl pasio eich prawf.

Pasio'r prawf theori a'r prawf gyrru ymarferol

Bydd angen i chi dalu am y prawf theori a'r prawf gyrru ymarferol, ac ail-sefyll y ddau.

Hawlio'ch tystysgrif pasio

Ar ôl pasio'ch prawf gyrru, bydd angen i chi gyfnewid eich trwydded yrru dros dro am un lawn.

Eich hawl i yrru cerbydau eraill

Er mwyn adfer unrhyw hawliau eraill a oedd gennych ar eich trwydded yrru, megis hawl i yrru lori neu fws, bydd yn rhaid i gomisiynydd traffig yn yr ardal lle'r ydych yn byw gymeradwyo hynny yn gyntaf.

Mae'n bosib y bydd y comisiynydd traffig yn gofyn i chi ailsefyll prawf gyrru ar gyfer y cerbydau hynny.

Ar ôl pasio'ch ail brawf

Mae'n bwysig cofio nad yw pasio ail brawf yn dileu'r pwyntiau cosb oddi ar eich trwydded yrru. Bydd y pwyntiau cosb yn dal yn ddilys.

Apelio yn erbyn diddymu'ch trwydded yrru

Dim ond yn erbyn yr euogfarn a arweiniodd at eich chwe phwynt cosb y cewch apelio. Cysylltwch â'r llys a ddyfarnodd eich bod yn euog i gael cyngor ar sut i apelio.

Allweddumynediad llywodraeth y DU