Treth ar werthu eiddo
Os ydych yn gwerthu eiddo sy'n brif gartref ichi, fyddwch chi ddim yn gorfod talu treth arno - ar yr amod eich bod yn bodloni rhai amodau. Os ydych yn gwerthu eiddo nad yw'n brif gartref ichi, mae'n debyg y bydd yn rhaid ichi dalu Treth Enillion Cyfalaf (TEC - CGT).
Treth ar werthu eich prif gartref
Does dim rhaid i chi dalu treth ar yr amod:
- eich bod wedi'i brynu, ac wedi gwario arno, yn bennaf i'w ddefnyddio fel eich cartref yn hytrach na gyda'r bwriad o wneud elw
- mai'r eiddo oedd eich unig gartref gydol y cyfnod yr oeddech yn berchen arno (gan anwybyddu'r tair blynedd diwethaf o berchnogaeth)
- eich bod wedi'i ddefnyddio fel eich cartref gydol yr amser yr oeddech yn berchen arno, ac nad oeddech, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi'i ddefnyddio at unrhyw bwrpas arall heblaw fel cartref i chi, eich teulu a dim mwy nag un lletywr
- nad yw'r ardd a'r tiroedd a werthwyd gyda'r eiddo yn fwy na 5,000 metr sgwâr (tua un erw a hanner) gan gynnwys safle'r eiddo
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil a heb wahanu, dim ond un eiddo o'r fath y gallwch chi a'ch partner priod neu bartner sifil ei gael rhyngoch.
Hyd yn oed os na fodlonir yr holl amodau hyn, efallai fod gennych hawl i ostyngiad treth o hyd.
Treth ar eiddo nad yw'n brif gartref ichi
Fel arfer bydd gennych enillion trethadwy os yw eich eiddo'n werth mwy na'r hyn y taloch amdano pan fyddwch yn ei werthu neu'n cael gwared arno. Fodd bynnag, mae £10,100 cyntaf cyfanswm eich enillion trethadwy yn ddi-dreth (blwyddyn dreth 2009-2010).
Mae'n werth cofio'r canlynol:
- wrth gyfrifo'r enillion trethadwy, gallwch ddidynnu rhai o gostau prynu, gwerthu a gwella'r eiddo
- os ydych wedi gwneud colled ar yr eiddo, efallai y gallwch osod y golled yn erbyn enillion trethadwy eraill fydd gennych o bosibl
- os ydych yn byw gyda'ch gilydd, gallwch drosglwyddo eiddo i'ch gŵr, gwraig neu bartner sifil heb orfod talu TEC, ond os byddwch yn ei roi neu'n ei werthu'n rhad i'ch plant neu i eraill, efallai y bydd yn rhaid ichi dalu TEC
Pa waith papur fydd yn rhaid ei gadw?
Mae Cyllid a Thollau Em yn argymell eich bod yn cadw'r wybodaeth a'r dogfennau canlynol mewn perthynas â'r eiddo:
- contractau ar gyfer prynu neu werthu, prydlesu neu gyfnewid yr eiddo
- unrhyw ddogfennau sy'n disgrifio eiddo yr ydych wedi'i gael ond nad oeddech wedi'i brynu eich hun: er enghraifft, rhodd neu etifeddiaeth
- manylion unrhyw eiddo yr ydych wedi'i roi i ffwrdd neu ei roi mewn ymddiriedolaeth
- copïau o unrhyw brisiadau a ystyriwyd wrth ichi gyfrifo'r enillion neu'r colledion
- biliau, anfonebau neu dystiolaeth arall o gofnodion talu megis datganiadau banc a bonion sieciau am gostau yr ydych yn eu hawlio ar gyfer prynu, gwella neu werthu'r eiddo
Doeth hefyd fyddai cadw gohebiaeth gyda phrynwyr neu werthwyr hyd at amser gwerthu'r eiddo