Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Yswiriant Gwladol

Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) i gronni eich hawl i dderbyn rhai budd-daliadau nawdd cymdeithasol, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth. Mae'r math a'r lefel o gyfraniadau YG yr ydych yn eu talu'n dibynnu ar faint yr ydych yn ei ennill ac a ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig. Byddwch yn stopio talu cyfraniadau YG pan gyrhaeddwch oed Pensiwn y Wladwriaeth.

Pwy sy'n talu Yswiriant Gwladol?

Rydych yn talu cyfraniadau YG os ydych yn gweithio, yn hunangyflogedig ac yn 16 oed a throsodd, gyhyd â bod eich enillion dros lefel arbennig. Byddwch yn stopio talu cyfraniadau YG pan gyrhaeddwch oed Ymddeol y Wladwriaeth. Ar hyn o bryd yr oed ymddeol yw 65 i ddynion a 60 i ferched, ond bydd yn codi'n raddol i 65 i ferched dros y cyfnod 2010 i 2020.

Eich Rhif Yswiriant Gwladol

Eich rhif cyfrif personol chi yw eich rhif Yswiriant Gwladol (rhif YG). Mae'r rhif yn sicrhau bod y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a'r dreth a dalwch yn cael eu cofnodi'n gywir ar eich cyfrif. Mae hefyd yn gweithredu fel rhif cyfeirnod ar gyfer y system nawdd cymdeithasol gyfan.

Pwy sy'n defnyddio eich rhif YG?

Dim ond i'r canlynol y dylech roi eich rhif YG:

  • Cyllid a Thollau EM (HMRC)
  • eich cyflogwyr
  • Canolfan Byd Gwaith, os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith
  • eich cyngor lleol, os ydych yn hawlio Budd-dal Tai

Mae hawl i nifer o fudd-daliadau'n dibynnu ar y cofnod o'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol, (edrychwch yn y 'Budd-daliadau sy'n dibynnu ar gyfraniadau YG' isod) felly mae'n bwysig iawn nad ydych yn rhoi eich rhif i neb arall.

Bydd rhaid i chi hefyd darparu eich rhif Yswiriant Gwladol os ydych yn agor Cyfrifon Cynilo Cenedlaethol (ISAs). 

Sut i gael rhif YG

Os nad oes gennych rif YG eisoes, rhaid i chi wneud cais am un:

  • cyn gynted ag y dechreuwch weithio
  • cyn gynted ag y byddwch chi neu eich partner yn hawlio budd-dal

I allu gwneud cais rhaid i chi fod:

  • ei fod dros 16 oed
  • yn byw ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr neu'r Alban)

Os ydych yn rhiant neu'n warcheidwad ac yn derbyn Budd-dal Plant, bydd unrhyw blant yr ydych yn gofalu amdanynt yn cael cerdyn yn dangos eu rhif YG ychydig cyn iddynt gyrraedd 16 oed.

I wneud cais am rif YG, bydd rhaid i chi ffonio llinell gymorth gwasanaeth dyrannu YG y Ganolfan Byd Gwaith ar 0845 600 0643. Byddan nhw'n gweld a oes rhaid i chi gael rhif ac yn trefnu i chi gael cyfweliad 'profi pwy ydych chi'.

Cyfweliad 'profi pwy ydych chi'

Fel arfer, cyfweliad un-ac-un fydd hwn (oni bai fod angen cyfieithydd arnoch, er enghraifft). Bydd y cyfwelydd yn gofyn cwestiynau i chi am eich cefndir a'ch amgylchiadau.

Mae'n bosib y bydd y cyfwelydd hefyd yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais.

Os nad oes gennych unrhyw ddogfennau swyddogol

Os nad oes gennych unrhyw ddogfennau swyddogol, bydd dal rhaid i chi fynd i'r cyfweliad. mae'n bosib y gallwch chi brofi pwy ydych chi gyda'r wybodaeth rowch chi yn y cyfweliad.

Cyfraddau Yswiriant Gwladol

Mae'r symiau a ganlyn yn berthnasol i'r flwyddyn dreth 2007-2008:

Os ydych yn gyflogedig

  • os ydych yn ennill dros £105 yr wythnos (y 'trothwy enillion') a hyd at £770 yr wythnos byddwch yn talu 11 y cant o'r swm hwn fel cyfraniadau YG 'Dosbarth 1'
  • rydych hefyd yn talu un y cant o'ch enillion dros £770 yr wythnos fel cyfraniadau YG Dosbarth 1
  • byddwch yn talu swm is fel gweithiwr os ydych yn aelod o gynllun pensiwn 'contractio-allan' eich cyflogwr

Os ydych chi’n hunangyflogedig

  • rydych yn talu cyfraniadau YG 'Dosbarth 2' ar gyfraniad cyfradd wastad wythnosol o £2.30
  • rydych hefyd yn talu cyfraniadau YG 'Dosbarth 4' fel canran o'ch elw trethadwy - rydych yn talu wyth y cant ar elw trethadwy blynyddol rhwng £5,435 a £40,040 ac un y cant ar unrhyw elw trethadwy uwchlaw'r swm hwnnw
  • os disgwylir i'ch enillion ym mlwyddyn dreth 2008-2009 fod yn llai na £4,825, efallai y bydd gennych hawl i'r Eithriad Enillion Isel (EEI), sy'n golygu nad oes raid i chi dalu unrhyw gyfraniadau YG Dosbarth 2 - gallwch wneud cais am yr EEI ar gyfer blwyddyn dreth 2008-2009 ar ffurflen CF10

Budd-daliadau sy'n dibynnu ar gyfraniadau YG

Bydd eich hawl i'r budd-daliadau canlynol a/neu'r swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich cyfraniadau YG chi (neu gyfraniadau eich priod neu bartner sifil mewn rhai amgylchiadau):

  • Lwfans Ceisio Gwaith ar sail cyfraniadau (cyfraniadau YG Dosbarth 1 yn unig)
  • Budd-dal Analluogrwydd (os na allwch weithio am gyfnodau hir oherwydd salwch neu anaf)
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth (Cyfraniadau YG Dosbarth 1 yn unig)
  • Lwfans Rhiant Gweddw
  • Lwfans Profedigaeth
  • Taliad Profedigaeth

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU