Os nad oes modd i chi weithio'n amser llawn ac os nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw, mae'n bosib y gallwch chi gael budd-dal Cymhorthdal Incwm. Eich amgylchiadau fydd yn penderfynu a fyddwch chi'n gymwys ai peidio a faint gewch chi.
Mae'n bosibl y byddwch chi'n gallu cael Cymhorthdal Incwm os ydych chi rhwng 16 a 59 a bod unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:
a bod y canlynol yn berthnasol:
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm hefyd os yw eich incwm yn isel ac:
Rhwng 2010 a 2020 bydd yr uchafswm oedran y bydd dynion a merched yn gallu derbyn budd-daliadau oedran gweithio yn codi yn unol â’r cynnydd mewn oed Pensiwn y Wladwriaeth i ferched o 60 i 65.
Mae newidiadau i Gymhorthdal Incwm a allai effeithio eich hawl os ydych yn ei gael oherwydd eich bod yn rhiant unigol. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen isod.
I gael gwybod a ydych chi'n gymwys i gael Cymhorthdal Incwm, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu'ch swyddfa fudd-daliadau leol.
Petai'n well gennych, fe allech siarad ag un o gynghorwyr y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.
Os byddwch chi'n gweithio mwy na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, neu fod gennych bartner neu bartner sifil sy'n gweithio 24 awr neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd, fe arfer, fyddwch chi ddim yn gallu hawlio Cymhorthdal Incwm.
Bydd faint o Gymhorthdal Incwm gewch chi'n amrywio yn ôl eich amgylchiadau fel unigolyn. Dyma rai o'r ffactorau sy'n gallu effeithio ar faint gewch chi:
Caiff y Cymhorthdal Incwm ei dalu'n syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.
Ond mae'n bosib i chi gael siec i'w chyfnewid yn Swyddfa'r Post® os na allwch chi agor neu reoli cyfrif.
O Ebrill 2009 mae’r Canolfan Byd Gwaith yn cyflwyno newidiadau i’r diwrnod a pha mor aml yr ydych yn cael eich talu Cymhorthdal Incwm. Gall y newidiadau symud y diwrnod yr ydych yn cael eich talu, bydd y diwrnod hwn yn cael ei benderfynu gan eich rhif Yswiriant Gwladol. Mae’r newidiadau hefyd yn golygu y byddwch yn cael eich talu o leiaf bob dwy wythnos. Dilynwch y ddolen isod am fwy o wybodaeth.
Os oes gennych hawl i i gael Cymhorthdal Incwm, byddwch yn gymwys fel mater o drefn i gael:
Ffoniwch 0800 055 6688 (rhwng 8.00 am - 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener). Mae gwasanaeth ffôn testun ar gael os oes gennych nam ar eich clyw neu'ch lleferydd 0800 023 4888.
Neu gallwch hawlio ar-lein, isod.
Ar ôl i chi siarad â swyddog, bydd hwnnw/honno'n eich ffonio chi'n ôl i drefnu apwyntiad i chi weld asesydd ariannol a chynghorydd personol.
Bydd yr asesydd ariannol yn sicrhau eich bod wedi rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi'ch hawliad cyn i chi gael cyfweliad gyda phwyslais ar waith â'r cynghorydd personol, a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i waith.
Soniwch wrth eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu'ch swyddfa fudd-daliadau cyn gynted ag y bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:
Os gwrthodwyd Cymhorthdal Incwm i chi neu os ydych chi'n meddwl eich bod wedi derbyn y swm anghywir, gallwch ofyn i'r swyddfa a fu'n delio gyda'ch hawliad ailystyried eu penderfyniad.
Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch apelio drwy lenwi taflen GL24 'Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir'.
Cyflwynwyd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar 27 Hydref 2008. Disodlodd Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm, a delir oherwydd salwch neu anabledd, i gwsmeriaid newydd. Fe'i cynlluniwyd i'ch helpu i gyflawni'ch llawn botensial, os oes gennych gyflwr iechyd neu os ydych yn anabl, a'ch helpu i ddod yn annibynnol o fudd-daliadau.