Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) yw’r prif fudd-dal i bobl o oedran gwaith sydd allan o waith neu sy’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd. Os ydych yn gymwys, mae’n cael ei dalu tra rydych yn chwilio am waith. Darganfyddwch fwy o wybodaeth a sut i wneud cais ar-lein.
I gael Lwfans Ceisio Gwaith, mae’n rhaid i chi:
Fel arfer, ni thelir Lwfans Ceisio Gwaith i bobl rhwng 16 a 17 oed, ac eithrio achosion arbennig.
Os ydych yn ddyn rhwng 60 a 64 oed, gallech fod yn well eich byd yn hawlio Credyd Pensiwn. Cysylltwch â’r Canolfan Byd Gwaith am gyngor.
Mae dau fath o Lwfans Ceisio Gwaith, 'Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau’ a 'Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm'.
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau
Gall y Ganolfan Byd Gwaith dalu hwn am hyd at 182 diwrnod. Mae’n seiliedig ar faint o Yswiriant Gwladol rydych wedi’i dalu yn ystod y ddwy flwyddyn dreth ddiwethaf. Yn gyffredinol, ni fydd cyfraniadau hunangyflogedig yn eich helpu i fod yn gymwys am Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau.
Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
Mae hwn yn seiliedig ar eich incwm a'ch cynilion.
Darllenwch ‘Yswiriant Gwladol’ i gael rhagor o wybodaeth am gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Telir Lwfans Ceisio Gwaith ddiwedd bob pythefnos. Telir yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Dyma’r ffordd orau i gael eich budd-dal oherwydd gallwch ddewis sut a phryd i gymryd yr arian allan o’ch cyfrif.
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau
Cewch y gyfradd wythnosol yn ôl eich oedran:
| Oedran | Swm |
|---|---|
| 16 - 24 | £50.95 |
| 25 neu'n hŷn | £64.30 |
Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
Dyma’r cyfraddau wythnosol mwyaf:
| Statws | Swm |
|---|---|
| Pobl ifanc sengl 16 – 24 oed | £50.95 |
| Pobl ifanc sengl 25 oed neu’n hŷn | £64.30 |
| Cyplau a phartneriaethau sifil (a'r ddau'n 18 oed neu'n hŷn) | £100.95 |
| Rhieni sengl (o dan 18 oed) | £50.95 |
| Rhieni sengl (sy'n 18 oed neu’n hŷn) | £64.30 |
Efallai y caiff eich taliadau eu lleihau os oes gennych chi incwm o swydd rhan-amser. Fe gewch chi lai os oes gennych gynilion dros £6,000. Os oes gennych gynilion dros £16,000, mae'n debyg na fyddwch chi'n gymwys.
Efallai hefyd y caiff eich taliadau eu lleihau os ydych chi'n derbyn pensiwn personol neu bensiwn galwedigaethol. Yn achos y Lwfans Ceisio Gwaith ar sail cyfraniadau, ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn ystyried £50 cyntaf eich pensiwn.
Os yw eich partner neu'ch partner sifil yn gweithio 24 awr neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd, fel arfer, chewch chi ddim Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (nid yw hyn yn effeithio ar Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau). Os yw'n gweithio llai na 24 awr, fe all hynny effeithio ar faint gewch chi.
Ffoniwch 0800 055 6688 (rhwng 8.00am a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener). Mae gwasanaeth ffôn testun ar gael os oes gennych nam ar eich clyw neu'ch lleferydd ar 0800 023 4888.
Gallwch hawlio ar-lein hefyd, gan ddefnyddio'r gwasanaeth 'Hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ar-lein' a gynigir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Dilynwch y ddolen isod.
Bydd cynghorydd yn esbonio sut mae'r Lwfans Ceisio Gwaith yn gweithio ac yn paratoi 'cytundeb ceisiwr gwaith' gyda chi, sy'n dangos:
Bydd rhaid i chi fynd i'r swyddfa bob pythefnos i gadarnhau'ch cais a bydd eich sefyllfa'n cael ei hadolygu mewn cyfweliadau rheolaidd.
Sut caiff ei dalu
Fel arfer, bydd y Lwfans Ceisio Gwaith yn cael ei dalu mewn ôl-daliadau bob pythefnos drwy Daliad Uniongyrchol i'ch banc, eich cymdeithas adeiladu, neu'ch cyfrif Cynilion Cenedlaethol.
O Ebrill 2009 ymlaen, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn newid y diwrnod a pha mor aml y cewch chi'r Lwfans Ceisio Gwaith. Gallai hynny olygu y cewch eich talu ar ddiwrnod gwahanol, a bydd y diwrnod hwnnw'n dibynnu ar eich rhif Yswiriant Gwladol. Mae'r newidiadau hyn hefyd yn golygu y cewch eich talu bob pythefnos, o leiaf. I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.
Beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid
Rhaid i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith cyn gynted ag y bo modd am unrhyw newid yn eich amgylchiadau. Er enghraifft, pan fyddwch chi:
Mewn sawl achos, byddwch chi'n dal i allu hawlio'r Lwfans Ceisio Gwaith, ond os na fyddwch chi'n sôn am newid yn eich amgylchiadau, fe allech golli'ch budd-dal.
Unwaith y bydd penderfyniad wedi ei wneud, gallwch ofyn am eglurhad neu wneud cais iddo gael ei ail-ystyried. Fel arfer, cynhwysir gwybodaeth am sut i apelio yn y llythyr sy'n rhoi'r penderfyniad.
Os byddwch chi'n dymuno apelio, gofynnwch am daflen GL24DWP 'Os credwch fod y penderfyniad yn anghywir'. Gallwch ddod o hyd i'r daflen yn eich Canolfan Byd Gwaith leol, neu gallwch ei lwytho, isod, o wefan y Ganolfan Byd Gwaith.
Help i'r rhai sydd newydd golli eu gwaith, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol a gweithredwyr
Pan fyddwch chi'n gwneud hawliad am Lwfans Ceisio Gwaith, byddwch yn cyfarfod cynghorydd personol o'r Ganolfan Byd Gwaith a fydd hefyd yn siarad â chi am yr help ychwanegol a allai fod ar gael er mwyn eich helpu i ddygymod ag anawsterau wrth chwilio am waith, er enghraifft:
Bydd y cymorth yn dibynnu ar eich amgylchiadau ac ar beth sydd ar gael yn lleol.
Os na fyddwch chi'n dod o hyd i waith
Os byddwch chi'n dal i fod yn ddi-waith ar ôl chwe mis, gofynnir i chi ddod am 'gyfweliad ailddechrau' gyda chynghorydd personol. Pwrpas y cyfarfod hwn gyda'ch cynghorydd personol yw sicrhau:
Cymorth ychwanegol ar ôl chwe mis
Gall y Ganolfan Byd Gwaith roi gwybod i chi am yr help ychwanegol y gallech ei gael, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau a beth sydd ar gael yn eich ardal leol. Gall hyn gynnwys:
Mae nifer o daflenni ar gael a all roi rhagor o wybodaeth i chi am y gefnogaeth a'r cyngor sydd ar gael i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith. Caiff y rhain eu dosbarthu gan eich cynghorydd Canolfan Byd Gwaith, neu gallwch eu llwytho oddi ar y we isod.
Os ydych chi'n ddyn rhwng 60 a 64 oed, gallwch holi'r Ganolfan Byd Gwaith tybed a fyddai'n fwy buddiol i chi hawlio Credyd Pensiwn.
Allwch chi ddim cael Lwfans Ceisio Gwaith os torrwch chi'r rheolau ynglŷn â derbyn y budd-dal hwn. Gallai hyn ddigwydd:
Os caiff eich Lwfans Ceisio Gwaith ei rwystro, efallai y gallwch gael taliad caledi Lwfans Ceisio Gwaith. Er mwyn cael hwnnw rhaid i chi fod mewn grŵp sy'n agored i niwed - os oes plant ar eich aelwyd, er enghraifft, neu fod gennych broblem iechyd. Os nad yw hyn yn berthnasol, byddai angen i chi aros pythefnos cyn cael taliad caledi.
Gall eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol ddweud mwy wrthych am y ddarpariaeth ar gyfer caledi.