Os ydych chi'n ddi-waith ac ar gael i weithio, mae'n bosibl y gallwch chi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith a budd-daliadau eraill. Gall y Ganolfan Byd Gwaith hefyd rhoi help a chymorth i chi chwilio am swydd.
Cyngor budd-daliadau
Os ydych yn ansicr pa fudd-daliadau y gallwch eu cael, gallwch weld ar-lein drwy gynghorydd budd-daliadau.
I gael gwybod am Lwfans Ceisio Gwaith, pwy sy’n gallu ei gael a sut i wneud cais amdano ar-lein ewch i Lwfans Ceisio Gwaith.
Cyfweliad ceisiwr gwaith newydd
Wrth wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith, bydd angen i chi fynychu cyfweliad yn y Ganolfan Gwaith. Gelwir hwn yn ‘cyfweliad ceisiwr gwaith newydd'.
Bydd ymgynghorydd Canolfan Byd Gwaith yn siarad â chi am y cymorth ychwanegol y gallai fod ar gael i chi fel:
Mae’r cymorth yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’r hyn sydd ar gael yn eich ardal.
Adolygiadau Ceisiwr Gwaith
I barhau i gael budd-dal, bydd yn rhaid i chi fynychu adolygiadau chwiliad gwaith rheolaidd, fel arfer bob pythefnos. Bydd adolygiad hirach os rydych wedi bod yn cael budd-dal am 13 wythnos.
Bydd eich adolygiad yn cynnwys:
Ar ôl chwe mis
Os byddwch yn dal i fod yn ddi-waith ar ôl chwe mis, cewch ‘ gyfweliad ailddechrau' gydag ymgynghorydd personol.
Diben y cyfwelaid yw sicrhau:
Bydd eich ymgynghorydd personol yn dweud wrthych am unrhyw gymorth pellach y gallwch ei gael. Mae hyn yn ddibynnol ar eich amgylchiadau a’r hyn sydd ar gael yn eich ardal. Gall cynnwys:
Gallech hefyd gael cymorth drwy gynllun y Fargen Newydd. Mae’r fargen Newydd ar gyfer pobl sydd wedi bod yn ddi-waith am chwe mis neu fwy.