Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Budd-daliadau a chymorth wrth ddychwelyd i waith

Os byddwch chi'n dychwelyd i waith o ar ôl bod ar fudd-daliadau, bydd rhai o'r budd-daliadau hynny'n dod i ben ar unwaith. Bydd rhai'n parhau am gyfnod byr ar ôl i chi ddechrau gweithio ac mae'n bosib y cewch fudd-daliadau eraill unwaith y dechreuwch chi weithio.

Cymorth gyda chostau tai

Os oeddech chi'n cael help gyda'ch costau tai pan oeddech chi'n ddi-waith, gallech barhau i'w gael am hyd at 4 wythnos ar ôl i chi ddechrau eich swydd newydd. Bydd angen i chi fod wedi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu Gymhorthdal Incwm am o leiaf 26 wythnos yn ddi-dor cyn i chi ddechrau gweithio.

Mae’r budd-daliadau’n cynnwys:

  • Cael Budd-dal Tai am gyfnod Estynedig
  • Cael Budd-dal Treth Cyngor am gyfnod Estynedig
  • Dilyniant o Log Morgais

Diogelir hawl i gostau tai am 12 wythnos a gellir ei gynyddu am 52 wythnos yn ddibynnol ar eich amgylchiadau. Gallech gael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Credyd Mewn Gwaith

Taliad di-dreth sefydlog o £40 yr wythnos (£60 yr wythnos yn Llundain) i rieni sy’n magu plant ar eu pen eu hunain.

Gallech gael Credyd Mewn Gwaith os ydych yn:

  • magu plant ar eich pen eich hun
  • dechrau gwaith am o leiaf 16 awr yr wythnos
  • disgwyl y gwaith i bara am 5 wythnos neu fwy

Rhaid i chi hefyd fod wedi cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith neu gyfuniad o’r budd-daliadau hynny am o leiaf 52 wythnos heb doriad.

Mae'n daladwy am hyd at 52 wythnos ar ben eich enillion. Bydd angen i chi hawlio cyn i chi ddechrau gwaith.

Grant Swyddi

Cyfandaliad di-dreth yw'r Grant Swyddi. Gallech fod yn gymwys am Grant Swyddi os ydych wedi bod yn hawlio un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Anabledd Difrifol

Bydd angen i chi fod wedi hawlio budd-dal yn barhaus am fwy na 6 mis a dechrau gwaith am fwy na 16 awr yr wythnos.

Cewch Grant Swyddi yn awtomatig os byddwch yn gymwys. Mae angen i chi sicrhau eich bod yn hysbysu eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith eich bod yn dechrau gwaith. Cewch eich talu'r un ffordd a dalwyd eich budd-dal.

Credyd Dychwelyd i Waith

Taliad sefydlog di-dreth o £40 yr wythnos yw Credyd Dychwelyd i Waith ar gyfer pobl sydd â chyflwr iechyd neu anabledd, neu eisoes wedi’i gael. Mae’n rhaid i chi fod wedi bod yn hawlio’r budd-dal perthnasol cyn dechrau gwaith am o leiaf 16 awr yr wythnos.

Mae’n rhaid i’ch cyflog blynyddol disgwyliedig os byddwch yn hunangyflogedig fod yn £15,000 y flwyddyn neu lai cyn didyniadau. Bydd angen i chi hawlio o fewn 5 wythnos o ddechrau gwaith.

I gael rhagor o wybodaeth am Gredyd Dychwelyd i Waith dilynwch y cyswllt isod ar gyfer Llwybrau at Waith.

Proses hawlio byrrach am Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith

Os daeth eich cais am Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith i ben llai na 26 wythnos yn ôl ac nad oes newid wedi bod yn eich amgylchiadau, efallai y bydd eich cais am fudd-dal yn symlach ac yn fyrrach.

I wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm ffoniwch 0800 012 1888.

Mae llinell Saesneg ar gael ar 0800 055 66 88, a ffôn testun ar 0800 023 4888 os oes gennych nam ar eich lleferydd neu ar eich clyw.

Mae’r llinellau ar agor o 8.00 am i 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ni ystyrir yr isod fel newid mewn amgylchiadau:

  • eich bod chi neu rywun rydych yn hawlio ar ei rhan yn feichiog
  • hawlio neu ddyfarnu credydau treth

Credydau treth

Taliad a gewch yn rheolaidd yw credyd treth. Er gwaetha'r enw, nid credyd yn erbyn eich bil treth ydyw. Mae naw o bob deg teulu sydd â phlant yn gymwys i gael Credyd Treth Plant.

Os ydych chi'n gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos a'ch bod ar incwm isel, gallech hefyd gael Credyd Treth Gwaith.

Gall credydau treth hefyd fod o gymorth gyda chostau eich gofal plant os byddwch yn gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos neu wedi gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos cyn cymryd absenoldeb mabwysiadu, mamolaeth, tadolaeth neu salwch.

Premiwm Hyfforddiant

Gall y Ganolfan Byd Gwaith eich helpu drwy gynnig addysg lawn amser a hyfforddiant yn rhad ac am ddim am hyd at flwyddyn (hyd at £750 tuag at hyfforddi person ifanc rhwng 18 a 24 mlwydd oed).

Mae’n rhaid eich bod yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) am o leiaf chwe mis ac yn byw mewn ardal sy’n defnyddio’r cynllun. Gall lwfans hyfforddi yn seiliedig ar eich taliadau JSA a thaliad ychwanegol fod yn daladwy yn ystod yr hyfforddi.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith.

Cynllun teithio i gyfweliad

Mewn ambell sefyllfa, gall y Ganolfan Byd Gwaith eich helpu i gyrraedd eich cyfweliad swydd. Dyma’r cynllun teithio i gyfweliad.

Allweddumynediad llywodraeth y DU