Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Llosgi gwastraff gardd - beth mae angen i chi ei wybod

Yma, cewch wybod mwy am ffyrdd eraill o gael gwared ar wastraff gardd neu ddeunyddiau eraill drwy gael coelcerth. Os byddwch yn cael coelcerth, rhybuddiwch eich cymdogion a dilynwch y canllawiau hyn i osgoi creu niwsans i bobl eraill.

Sut i gael gwared ar wastraff gardd

Ceir nifer o ffyrdd i gael gwared ar eich gwastraff gardd heb orfod cynnau coelcerth. Er enghraifft, gellir ailgylchu'r rhan fwyaf o wastraff gardd drwy gompostio, gan gynnwys:

  • toriadau glaswellt
  • toriadau planhigion a pherthi
  • dail
  • gwastraff llysiau o'ch cegin

Efallai y gall eich cyngor lleol eich cynorthwyo i gael bin compost neu gynnig gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd i chi. Drwy gompostio, yn hytrach nag anfon gwastraff gwyrdd i safleoedd tirlenwi, gallwch helpu i leihau gollyngiadau nwyon tŷ gwydr.

Effeithiau niweidiol coelcerthi

Mae llosgi gwastraff gardd yn cynhyrchu mwg, yn enwedig os yw'r gwastraff yn wyrdd neu'n llaith - gall hynny ryddhau llygryddion niweidiol. Mae llosgi plastig, rwber neu ddeunyddiau wedi'u paentio yn cynhyrchu mygdarthau gwenwynig.

Gall mwg o'r goelcerth gael effeithiau andwyol ar eich iechyd, yn enwedig i'r rheini sydd eisoes â phroblemau iechyd, megis:

  • asma
  • broncitis
  • cyflyrau ar y galon

Niwsans

Os byddwch yn cael coelcerth, gall y mwg, yr huddygl a'r arogl a achosir gan y tân ddigio eich cymdogion. Gall mwg atal eich cymdogion rhag mwynhau yn eu gerddi, agor ffenestri neu roi dillad ar y lein. Mae mwg hefyd yn ei gwneud yn anos gweld yn y gymdogaeth ac ar y ffyrdd.

Os bydd eich cymdogion yn cynnau coelcerth a'r mwg yn eich poeni, ewch atynt ac egluro'r broblem. Efallai y byddwch yn teimlo'n chwithig, ond mae'n bosib na fyddant yn ymwybodol o'r diflastod y maent yn ei achosi. Gobeithio y byddant yn deall ac yn fwy ystyriol yn y dyfodol. Os bydd siarad â'ch cymdogion yn methu datrys y broblem, cysylltwch ag adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol. Fodd bynnag, os bydd eich cymdogion ond yn cynnau coelcerthi o bryd i'w gilydd, mae'n annhebygol y bydd hyn yn cael ei ystyried yn niwsans dan y gyfraith. Mae'r daflen 'Coelcerthi mewn Gerddi' gan Diogelu Amgylchedd y DU yn egluro'r sefyllfa'n fwy manwl.

Diogelwch

Dylech fod yn ofalus wrth losgi gwastraff oherwydd:

  • gall tân ledaenu i ffensys neu adeiladau a rhuddo coed a phlanhigion
  • gall sbwriel gynnwys poteli neu ganiau a all ffrwydro wrth eu llosgi
  • defnyddir pentyrrau o wastraff gardd yn aml fel cysgod i fywyd gwyllt sy'n cysgu dros y gaeaf neu i anifeiliaid anwes sy'n cysgu

Dan Ddeddf Priffyrdd 1980, mae unrhyw un sy'n cynnau tân ac yn gadael i fwg ledu ar draws ffordd yn wynebu dirwy os yw'n peryglu traffig. Cysylltwch â'r heddlu yn yr achos hwn.

Canllawiau ar gyfer coelcerthi

Mae'n bosib mai coelcerth fydd yr unig ffordd o gael gwared ar wastraff gardd na ellir ei gompostio. Os bydd yn rhaid i chi ddefnyddio coelcerth i gael gwared ar wastraff gardd, neu ar Noson Tân Gwyllt, rhybuddiwch eich cymdogion - mae'n llawer llai tebygol y byddan nhw'n cwyno.

Dilynwch y canllawiau canlynol ar gyfer cynnau coelcerth yn ddiogel:

  • llosgwch ddeunydd sych yn unig
  • peidiwch byth â llosgi sbwriel tŷ, teiars rwber, nac unrhyw beth sy'n cynnwys plastig, sbwng neu baent
  • peidiwch byth â defnyddio hen olew injan, meths na phetrol i gynnau'r tân neu i roi hwb iddo
  • ceisiwch osgoi cynnau tân os yw'n wyntog neu ar ddiwrnod llaith, llonydd pan all y mwg yn hongian yr awyr
  • dylech osgoi llosgi os yw lefel y llygredd aer yn eich ardal yn uchel neu'n uchel iawn - gwrandewch ar ragolygon y tywydd neu ewch ar y wefan Ansawdd Aer

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU