Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Glannau a thraethau

Feddylioch chi erioed am grwydro ar hyd arfordir bendigedig gwledydd Prydain? Gallwch gerdded ar hyd un o lwybrau'r arfordir, cael picnic ar draeth, trochi'ch traed yn y môr neu chwilio am fywyd morol yn un o'r pyllau rhwng y creigiau.

Diogelwch

Mae llawer o'n traethau wedi ennill gwobr am eu bod yn cael eu rheoli'n dda, am eu bod yn lân ac yn ddiogel. Maent yn cynnig lle braf i wneud gweithgareddau yn yr awyr agored, tripiau dydd a gwyliau. Ond nid yw diogelwch yn rhywbeth y dylech ei gymryd yn ganiataol wrth ymweld ag ardaloedd arfordirol. Er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel wrth ymyl y môr, dilynwch gyngor y Sefydliad Badau Achub Brenhinol Cenedlaethol. A chofiwch edrych ar ragolygon y tywydd cyn mynd.

Efallai y bydd y dolenni canlynol yn ddefnyddiol:

Arfordiroedd treftadaeth

Mae'r arfordiroedd treftadaeth yn lannau arbennig sy'n cael eu rheoli fel bod eu harddwch naturiol yn cael ei warchod a, lle bo hynny'n briodol, cânt eu gwneud yn haws i ymwelwyr eu cyrraedd. Mae ychydig dros 1,000 o gilomedrau, neu 33% o arfordir golygfaol Lloegr wedi'i ddynodi'n arfordir treftadaeth.

Gallwch gyrraedd yr arfordiroedd hardd hyn yn hawdd drwy rwydwaith o lwybrau cyhoeddus a llwybrau ceffylau. Mae Llwybr Cenedlaethol Arfordirol De Orllewin Lloegr er enghraifft, yn rhoi mynediad i dros 600 o filltiroedd o arfordir.

Mae Natural England yn helpu i reoli arfordir Lloegr a gallwch leoli arfordiroedd treftadaeth ar ei gwefan.

Mae gan wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd dudalennau ar arfordiroedd sy'n llawn syniadau a gwybodaeth am le i fynd a beth i'w wneud.

Traethau

Mae llawer o draethau'r DU yn berchen i awdurdodau lleol er mwyn i'r cyhoedd gael eu defnyddio. Gallwch ymweld â'r traethau hyn bob amser, er na chaiff rhai gweithgareddau, fel gwersylla, gyrru neu gynnau tanau, eu caniatáu. Ceir rhai traethau preifat hefyd sydd ar gau i'r cyhoedd yn gyffredinol.

Dylai bod gan gynghorau lleol a Chanolfannau Croeso wybodaeth am draethau yn eu hardal.

Gallwch hefyd ddefnyddio Gwobrau Glan y Môr ENCAMS i ddod o hyd i draethau glân a diogel. ENCAMS yw'r asiantaeth genedlaethol er atal sbwriel. Mae'n cynnal gwobr y Faner Las ar gyfer traethau sy'n bodloni meini prawf penodol o ran glanweithdra, diogelwch a safon y dŵr. Mae rhestr o'r traethau hyn sy'n cael dangos y faner i'w gweld ar wefan ENCAMS. Gallech hefyd edrych ar dudalennau Traethau Da Cymdeithas Gwarchod y Môr.

Natur a bywyd gwyllt

Mae arfordir Prydain yn gartref i amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt, o ddolffiniaid trwyn potel a heulforgwn i gwrelau a chramenogion. Mae ein clogwyni môr a'n creigiau arfordirol garw hefyd yn lleoedd nythu delfrydol i wylanod ac adar eraill y môr. Dylech gadw llygad hefyd am:

  • adar hirgoes ar hyd y draethlin
  • bywyd mrol rhyng-lanw, fel crancod, llygaid meheryn a physgod bach, mewn pyllau rhwng y creigiau
  • sêr môr a slefrenni môr ar draethau
  • morloi yn agos i'r lan

Byddwch yn gweld bywyd gwyllt gwahanol mewn ardaloedd arfordirol gwahanol, ond beth bynnag rydych yn chwilio amdano, cofiwch adael y cynefinoedd pwysig hyn fel y'u cawsoch nhw.

Gellir cael mwy o wybodaeth am adar ar wefan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), ac mae mwy o fanylion am fywyd gwyllt arall yr arfordir ar gael gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt

Allweddumynediad llywodraeth y DU