Mae'n rhaid i'ch benthyciwr ddilyn camau penodol er mwyn sicrhau mai'r dewis olaf yn unig yw adfeddiannu eich cartref. Amlinellir y camau hyn yn y 'protocol cyn-gweithredu'. Cael gwybod beth y mae'n rhaid i'ch benthyciwr ei wneud cyn cymryd camau i adfeddiannu eich cartref.
Mae'r protocol cyn-gweithredu yn nodi beth y dylech chi a'ch benthyciwr ei wneud cyn y bydd eich benthyciwr yn cymryd camau i adfeddiannu eich cartref. Mae'n berthnasol i'r rhan fwyaf o forgeisi preswyl. Mewn gwrandawiad llys bydd angen i chi a'ch benthyciwr allu profi eich bod wedi dilyn y protocol.
Mae'n rhaid i'ch benthyciwr wneud y canlynol:
Os na fyddwch yn cadw at unrhyw drefniant a wnewch gyda'ch benthyciwr, bydd yn rhaid iddynt eich rhybuddio'n ysgrifenedig eu bod yn bwriadu dwyn achos llys yn eich erbyn. Dylent anfon llythyr atoch yn rhoi 15 diwrnod gwaith o rybudd i chi o'r camau y maent yn bwriadu eu cymryd.
Mae nifer o sefyllfaoedd lle gall eich benthyciwr ohirio camau adfeddiannu.
Mae'n bosib y bydd eich benthyciwr yn gohirio cymryd camau adfeddiannu os byddwch yn hawlio ar eich polisi gwarchod taliadau morgais - os oes gennych un. Mae hwn yn bolisi yswiriant sy'n talu am eich ad-daliadau os byddwch yn mynd yn sâl neu'n colli eich swydd. Os byddwch yn gwneud hawliad, mae'n bosib y gallwch dalu eich ad-daliadau morgais, neu ganran ohonynt.
Er mwyn osgoi adfeddiannu eich cartref bydd yn rhaid i chi fodloni eich benthyciwr eich bod yn debygol o fod yn gymwys ar gyfer taliad dan yr yswiriant hwnnw. Bydd angen i chi hefyd ddangos y gallwch dalu rhywfaint o'ch ad-daliadau misol na chânt eu bodloni gan y polisi.
Os ydych yn teimlo bod eich benthyciwr wedi'ch trin yn annheg, efallai y gallwch gwyno wrth y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol. Mae'r protocol cyn-gweithredu yn galluogi benthyciwr i ohirio camau adfeddiannu pan fydd y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol yn delio â chwyn. Gall eich benthyciwr benderfynu parhau i gymryd camau adfeddiannu tra ymdrinnir â'ch cwyn. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddynt roi pum niwrnod o rybudd i chi o'u cynlluniau.
Dim ond sut y deliodd y benthyciwr â'ch achos y gall y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol ei ystyried. Bydd angen i chi gael cyngor ar y camau y gall eich benthyciwr eu cymryd o hyd.
Mae'n bosib y gwnaiff eich benthyciwr gytuno i oedi cymryd camau os byddwch yn dangos eich bod yn cymryd camau rhesymol i werthu eich cartref. Gallwch gael help gan gynghorydd annibynnol er mwyn sicrhau eich bod yn dilyn y camau cywir i werthu eich cartref.
Bydd angen i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch benthyciwr am hynt y gwerthiant. Os nad yw eich benthyciwr yn cytuno y cewch werthu eich cartref, dylent roi eu rhesymau dros hyn i chi o leiaf bum niwrnod gwaith cyn dechrau cymryd unrhyw gamau.
Mae cwmnïau sy'n prynu eich cartref ac yn ei rentu'n ôl i chi'n cynnig trefniadau 'gwerthu a rhentu'. Gallai gwerthu eich tŷ i'r math hwn o gynllun dalu eich dyledion, ond nid chi fydd yn berchen ar eich cartref mwyach.
Os byddwch yn gwerthu eich cartref i un o'r cynlluniau hyn:
Bydd y rhan fwyaf o'r cynlluniau hyn yn cynnig llai na gwerth gwirioneddol eich cartref i chi. Cyn ystyried y math hwn o gynllun, dylech gael cyngor gan gynghorydd annibynnol