Os ydych yn gwerthu'ch eiddo ac am ddefnyddio gwerthwr tai, mae'n werth darllen am eich hawliau.
Does dim rhaid i werthwr tai fod wedi'i gofrestru er mwyn gwneud busnes, er bod llawer yn perthyn i Gymdeithas Genedlaethol y Gwerthwyr Tai (NAEA) a'r Ombwdsmon Gwerthwyr Tai (OEA). Golyga hyn fod yn rhaid iddynt gydymffurfio â chod ymarfer.
Rhaid i bob gwerthwr tai gydymffurfio â'r Ddeddf Gwerthwyr Tai, pa un a ydynt wedi cofrestru gyda chorff llywodraethu neu beidio.
Pan fyddwch yn defnyddio gwerthwr tai i'ch helpu chi werthu eiddo, rhaid i chi lofnodi contract cyfreithiol.
Cyn llofnodi, darllenwch y contract yn ofalus a sicrhau eich bod yn ei ddeall. Canfyddwch a oes gennych hawl i ganslo'r contract. Holwch am ba hyd y bydd yn weithredol. Dylai roi cyfnod rhesymol o amser i farchnata'ch eiddo a dod o hyd i brynwyr posibl. Byddwch yn wyliadwrus o gontractau sy'n eich clymu i werthwr tai am amser maith.
Os ydych yn ansicr, ceisiwch gyngor gan gyfreithiwr neu'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Efallai y dowch ar draws rhai termau anghyfarwydd mewn contract. Gwnewch yn siur eich bod yn deall yr hyn yr ydych yn cytuno iddo. Rhaid i'r termau 'unig asiantaeth', 'yr unig hawl i werthu' a 'prynwr parod, bodlon ac abl' gael eu hesbonio ar bapur os defnyddir hwy mewn contract.
Mae gwerthwyr tai yn codi ffioedd ar y gwerthwyr, nid y prynwyr, ac felly gwnewch yn siur eich bod yn gwybod faint y bydd rhaid i chi ei dalu, pryd ac ym mha amgylchiadau. Cofiwch y bydd Treth ar Werth (TAW) yn cael ei hychwanegu hefyd, ac felly cofiwch ystyried hyn yn eich cyfrifiadau.
Os oes gennych guyn am ymddygiad gwerthwr tai, gallwch gysylltu â'r Ombwdsmon Gwerthwyr Tai.
Mae'r OEA yn darparu gwasanaeth annibynnol ar gyfer delio gydag anghydfodau rhwng gwerthwyr tai sy'n aelodau o'r Cynllun Ombwdsmon, a defnyddwyr sy'n brynwyr neu'n werthwyr gwirioneddol neu bosibl o eiddo preswyl yn y DU.
Bydd yr OEA yn rhoi cyngor ar lwybrau gwahanol i'w cymryd os nad yw'r gwerthwr tai yr ydych am gwyno yn ei gylch yn aelod. Gallwch hefyd gysylltu ag adran safonau masnach eich cyngor lleol.