Mae'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref (a elwir hefyd yn HIP) yn orfodol ar gyfer y rhan fwyaf o gartrefi sydd ar y farchnad yng Nghymru a Lloegr. Gan ddechrau ar 6 Ebrill 2009, bydd newidiadau pwysig yn cael eu gwneud i Becynnau Gwybodaeth am y Cartref. Mae hyn yn golygu y bydd gwell gwybodaeth ar gael o'r diwrnod cyntaf y rhoddir eiddo ar y farchnad.
Cyfres o ddogfennau yw'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref sy'n darparu gwybodaeth allweddol i'r prynwr am yr eiddo a rhaid iddo gael ei ddarparu gan y gwerthwr neu asiant y gwerthwr. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i gael Pecyn Gwybodaeth am y Cartref ac ni chewch roi eich eiddo ar y farchnad heb un.
Mae'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref yn gadael i brynwyr weld gwybodaeth bwysig am yr eiddo ar ddechrau'r broses, yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn golygu y bydd llai o siawns i'r prynwr gael 'sioc' ar ddiwedd y broses. Gall y Pecyn Gwybodaeth am y Cartref helpu i leihau oedi a chostau ychwanegol i'r prynwr ac i'r gwerthwr.
Mae'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref yn cynnwys eitemau gofynnol (gorfodol) ac eitemau wedi'u hawdurdodi (dewisol).
Ni ddylai'r pecyn gynnwys unrhyw ddeunydd marchnata na hysbysebu, felly gwnewch yn siŵr mai dim ond gwybodaeth swyddogol sydd ynddo.
Isod, ceir rhestr o'r holl ddogfennau gorfodol y mae angen eu cynnwys.
Rhaid i'r dogfennau canlynol gael eu cynnwys yn eich Pecyn Gwybodaeth am y Cartref:
I gael mwy o fanylion am y dogfennau hyn, dilynwch y dolenni isod.
Gellir cynnwys dogfennau eraill yn eich Pecyn Gwybodaeth am y Cartref, ond mae'r rhain yn ddewisol. Os cânt eu cynnwys, gallai helpu i gyflymu'r broses o werthu a sicrhau bod y broses yn mynd rhagddi'n fwy didrafferth. Mae'r rhain yn cynnwys:
I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.
O 6 Ebrill 2009 ymlaen, rhaid i'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref fod ar gael ar y diwrnod cyntaf y rhoddir eiddo ar y farchnad. Os ydych yn prynu eiddo, gofynnwch i'r sawl sy'n hysbysebu am gopi o'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref. Gwerthwr tai fydd hwn fel rheol, ond fe allai fod yn fusnes neu'n unigolyn arall.
Rhaid iddynt roi copi o'r pecyn i chi yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, mae'n bosib y byddant yn codi tâl rhesymol i dalu am y gost o wneud copi ohono a'i bostio.
Am ganllaw cam-wrth-gam i'r Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref, darllenwch 'Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref: canllaw i brynwyr'.
O 6 Ebrill 2009, ni fydd gan y 'person cyfrifol' (fel arfer, y gwerthwr tai) yr hawl i roi'ch eiddo ar y farchnad oni bai bod y Pecyn Gwybodaeth am y Cartref ar gael. Bydd angen i chi wneud trefniadau i lunio'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref (gan gynnwys talu amdano) ynghyd â pharatoadau eraill ar gyfer gwerthu eich cartref. Fodd bynnag, os bydd oedi cyn y cewch ddogfennau penodol, fel y chwiliadau lleol, gellir ychwanegu'r rhain ar ôl rhoi'ch tŷ ar y farchnad.
Gallwch ei lunio eich hun, neu gallwch dalu gwerthwr tai, twrnai, neu ddarparwr Pecyn Gwybodaeth am y Cartref i'w wneud drosoch chi. Sicrhewch bob amser bod eich darparwr Pecyn Gwybodaeth am y Cartref wedi'i ymrwymo i god ymarfer, megis y Cod Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref.
Y gwerthwr sy'n gyfrifol am gost y Pecyn Gwybodaeth am y Cartref. Gall y gost amrywio felly gwnewch yn siŵr eich bod yn holi beth sydd ar gael. Gall rhai darparwyr gynnig Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref y gallwch dalu amdanynt yn nes ymlaen, ond dylech edrych ar delerau ac amodau eich cytundeb bob tro.
Am ganllaw mwy manwl, darllenwch 'Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref: canllaw i werthwyr' a 'Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref: mwy o wybodaeth i werthwyr'.
Mae pob Pecyn Gwybodaeth am y Cartref yn wahanol. Fodd bynnag, rhaid iddo gynnwys yr holl eitemau gorfodol ('gofynnol'). Ni all dogfennau penodol pwysig fod yn hŷn na thri mis pan roddwyd yr eiddo ar y farchnad am y tro cyntaf.