Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rhaglen Tai i Weithwyr Allweddol

Os ydych chi'n weithiwr allweddol yn y sector cyhoeddus - yn nyrs neu'n athro/athrawes er enghraifft - gallech gael cymorth i brynu neu rentu cartref fel rhan o'r Rhaglen Tai i Weithwyr Allweddol. Dewch i gael gwybod a ydych yn gymwys, ac â phwy y dylech gysylltu os ydych chi'n dymuno gwneud cais.

Beth mae’r rhaglen yn ei gynnig

Os ydych chi'n gymwys, mae'r Rhaglen Tai i Weithwyr Allweddol yn golygu y gallwch gael cymorth i fod yn berchen ar dŷ:

  • os ydych chi'n brynwr am y tro cyntaf
  • os ydych chi'n berchen ar dŷ ond bod angen prynu tŷ mwy arnoch i ddiwallu anghenion eich teulu (ee cartref digon o faint ar gyfer teulu)
  • os ydych am gymryd rhan mewn cynllun rhan-berchnogaeth
  • os oes arnoch angen rhentu am bris fforddiadwy.

Mae'r cynllun ar gael i weithwyr allweddol penodol yn Llundain ac yn Ne Ddwyrain a Dwyrain Lloegr yn unig.


Mae'r cynllun yn cynnig tri gwahanol fath o help:

Cymorth Prynu - Marchnad Agored

'Benthyciad ecwiti' i helpu i brynu tŷ ar y farchnad agored. Gall hyn fod hyd at 50 y cant o gyfanswm gwerth yr eiddo. Gellir disgrifio benthyciad ecwiti fel benthyciad lle mae'r benthyciwr yn rhannu unrhyw gynnydd (ac weithiau unrhyw ostyngiad) yng ngwerth yr eiddo yn ystod y benthyciad.

Cymorth Prynu - Tŷ Newydd
Os ydych chi'n gymwys cewch brynu o leiaf 25 y cant o gost eich tŷ a thalu rhent gostyngol ar y gyfran sy'n weddill.

Rhentu canolradd
Gosodir y rhent ar lefel sydd rhwng y swm a godir gan landlordiaid cymdeithasol a landlordiaid preifat, a darperir y llety gan landlord sydd wedi'i gofrestru gyda'r Gorfforaeth Tai (Landlord Cymdeithasol Cofrestredig).

Cael gwybod am fathau eraill o gymorth sydd ar gael i weithwyr allweddol

Ydych chi’n gymwys ar gyfer y rhaglen?

Mae'r rhaglen yn gyfyngedig i weithwyr allweddol yn yr ardaloedd canlynol:

  • Llundain
  • Berkshire, Swydd Buckingham a Swydd Rydychen
  • Hampshire
  • Surrey
  • Swydd Hertford
  • Caint, Sussex ac Essex
  • Swydd Bedford a Swydd Caergrawnt
  • Norfolk a Suffolk

Dyma rai swyddi sy'n cyfrif fel swyddi gweithwyr allweddol:

  • Staff Clinigol y GIG (ac eithrio meddygon a deintyddion)
  • Athrawon a nyrsys meithrin mewn ysgolion ac mewn colegau chweched dosbarth/addysg uwch
  • Swyddogion yr heddlu, Swyddogion Cymorth Cymunedol a rhai staff sifil
  • Swyddogion carchar a staff eraill y Carchar
  • Staff y Gwasanaeth Prawf
  • Gweithwyr Cymdeithasol, nyrsys meithrin, seicolegwyr addysg a therapyddion (ee. therapyddion galwedigaethol) a gyflogir gan awdurdodau lleol, CAFCASS neu'r GIG
  • Cynllunwyr Awdurdodau Lleol
  • Diffoddwyr Tân a staff mewn lifrai sy'n is na lefel y penaethiaid yn y Gwasanaethau Tân ac Achub
  • Cynghorwyr Personol Connexions a gyflogir gan awdurdod lleol neu Bartneriaeth Connexions
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn (rhai staff personél)
  • Swyddogion/Ymarferwyr Iechyd Amgylcheddol cymwys sy'n gweithio mewn awdurdod lleol, yn un o asiantaethau'r llywodraeth, yn y GIG neu asiantaethau eraill y sector cyhoeddus
  • Staff Swyddog Traffig yr Asiantaeth Priffyrdd mewn rolau diogelwch hanfodol o fewn y Gwasanaeth Swyddog Traffig

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys ac am gael gwybod mwy am y cynllun Cymorth Prynu, cysylltwch â'ch Asiant Cymorth Prynu lleol i gael gwybod pa opsiynau sydd ar gael yn eich ardal chi. Os ydych chi'n Weithiwr Allweddol, dylech gysylltu ag Asiant Cymorth Prynu yn yr ardal yr ydych yn gweithio ynddi.

Bydd Asiantau Cymorth Prynu yn gallu dweud wrthych a ydych yn gymwys ai peidio ac yn gallu'ch tywys drwy'r broses ymgeisio. I gysylltu â'ch Asiant Cymorth Prynu lleol neu'r darparwyr benthyciadau, dilynwch y ddolen isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU