Paratowyd y gwasanaeth Chwilio am Ofal Plant a Meithrinfeydd gyda data gan Wasanaeth Gwybodaeth Plant pob awdurdod lleol. I gael gwybodaeth am sut y gallwch ddiweddaru neu ddiwygio'r wybodaeth hon dilynwch y cyfarwyddiadau isod.
Mae'r peiriant chwilio Cychwyn Cadarn yn wasanaeth ar wahân sy'n cael data gan yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd.
I ddiweddaru'r wybodaeth sy'n ymddangos ar y tudalennau hyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth Plant perthnasol. Gellir cael eu manylion drwy fynd i 'Mwy o Wybodaeth' ar ochr dde tudalen ganlyniadau Chwilio am Ofal Plant.
I ddangos tudalen ganlyniadau Chwilio am Ofal Plant:
Adnewyddir y wybodaeth sy'n ymddangos ar y tudalennau hyn yn ddyddiol. Nodwch na fydd diweddariadau gan y Gwasanaeth Gwybodaeth Plant yn ymddangos tan y diwrnod canlynol.
Caiff gwybodaeth am Ganolfan Plant Cychwyn Cadarn ei chasglu o'r data a ddarperir gan yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd. Gall canolfannau plant gyflwyno diwygiadau i wybodaeth sy'n ymddangos ar y tudalennau hyn drwy neges e-bost.
E-bost: Capital.SURESTART@dcsf.gsi.gov.uk