Os ydych yn gwsmer i Sky, Virgin Media, Freeview neu Teletext gallwch gael Directgov drwy eich set deledu. Mae gan y gwasanaeth, sydd wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer y teledu, gyfoeth o wybodaeth sy'n eich galluogi i weld gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn yr un lle.
Efallai eich bod yn adnabod rhywun nad oes ganddynt fynediad i'r rhyngrwyd. Os ydych yn credu y gallent fanteisio ar ddefnyddio Directgov ar y teledu, dywedwch wrthynt am y gwasanaeth. Gallai eu helpu i ddod o hyd i swyddi, cael gwybod am y budd-daliadau y mae ganddynt yr hawl i'w cael, cael gwybod am eu hawliau cyfreithiol neu ddysgu am yr hyn y gallant ei wneud i helpu'r amgylchedd hyd yn oed.
Os ydych yn gwsmer i Virgin Media:
Os oes gennych Sky:
Os oes gennych Freeview:
Os oes gennych deledu analog gyda Teletext:
Cewch amrywiaeth eang o wybodaeth a chyngor ar Freeview a Teletext analog. Cewch wybod sut mae trethu eich car, hawlio budd-daliadau neu wneud cais am basport wrth glicio eich teclyn rheoli o bell.
Mae'r gwasanaeth am ddim i'w ddefnyddio a chaiff ei ddiweddaru'n rheolaidd ag erthyglau, gwybodaeth a chysylltiadau defnyddiol newydd.
Chwilio am swyddi
Chwiliwch drwy fwy na 400,000 o gyfleoedd swyddi gan y Ganolfan Byd Gwaith.
Cyngor am ddim ar yrfaoedd a dysgu
Gallwch gael cyngor cyfrinachol, diduedd ar yrfaoedd a dysgu gan learndirect. Trefnwch i gael galwad ffôn yn ôl yn rhad ac am ddim gan gynghorydd learndirect.
Chwiliadau lleol
Teipiwch eich cod post i ddod o hyd i'r gwasanaethau canlynol yn eich ardal leol
Ffurflenni cais a thaflenni
Gallwch archebu canllawiau cymorth cyfreithiol am ddim ar bynciau megis dyledion, prynu a gwerthu eiddo, hawliau cyflogaeth ac ysgariad. Gallwch hefyd archebu ffurflenni trwydded yrru a chofrestru cerbyd gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).