Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Amrywiaeth a gwahaniaethu

Os credwch chi fod rhywun wedi'ch trin yn annheg neu wedi gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich oedran, eich rhyw, eich hil, eich crefydd, eich credoau, eich anabledd, neu eich tueddfryd rhywiol, mae cryn dipyn o ddeddfwriaeth, gwybodaeth a chysylltiadau i'ch helpu i ddeall eich hawliau a'u gorfodi.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Llinell gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Lloegr - 0845 604 6610

Yr Alban - 0845 604 5510

Cymru - 0845 604 8810

Sefydlwyd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb a mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail rhyw, newid rhyw, crefydd, cred, anabledd, tueddfryd rhywiol, oedran neu hil, ac er mwyn hyrwyddo hawliau dynol.

Caiff gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a'r Comisiwn Cyfle Cyfartal, eu trosglwyddo i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sydd â'r nod o ychwanegu at lwyddiannau a datblygiadau'r comisiynau unigol blaenorol. Mae'r comisiwn yn cynnwys Cymru, Lloegr a'r Alban, ac mae ganddo bwyllgorau statudol yng Nghymru a'r Alban er mwyn cyflawni ei waith.

I gael cymorth a chyngor, ffoniwch linell gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Codir pris galwad leol ar rifau 0845 os ydych yn defnyddio llinell gyffredin BT. Bydd cyfraddau darparwyr eraill ac o ffonau symudol yn amrywio - holwch eich cyflenwr i weld faint y byddwch yn ei dalu.

Gwahaniaethu a'ch hawliau

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n gyfrifol am arddel hawliau unigolion a mynd i'r afael ag achosion o wahaniaethu. Mae sefydliad y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol wedi llunio taflen sy'n rhoi canllawiau manwl am eich hawliau a sut y gallwch herio gwahaniaethu.

Rhywedd a chydraddoldeb rhwng y ddau ryw

Ystyr gwahaniaethu ar sail rhyw yn anghyfreithlon yw pan gaiff rhywun ei drin yn annheg o ganlyniad i'w rhyw. Gall menywod, dynion a phobl drawsrywiol i gyd brofi gwahaniaethu ar sail rhyw. Mae gwahaniaethu ar sail rhyw hefyd yn cynnwys trin rhywun yn llai ffafriol gan eu bod wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil - er enghraifft, drwy beidio â chyflogi menywod priod.

Ceir cyngor arbenigol ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer unigolion a chyflogwyr, ac mae'n darparu arweiniad ymarferol a gwybodaeth gyfreithiol. Os credwch i chi gael eich trin yn annheg yn y gwaith, mewn byd addysg, neu gan unrhyw un sy'n darparu gwasanaeth - a chithau'n credu bod hynny am eich bod yn fenyw, neu am eich bod yn ddyn - gallwch gysylltu â llinell gymorth gyfrinachol y comisiwn i gael cyngor.

Cydnabod rhyw

Daeth Deddf Cydnabod Rhyw 2004 i rym ym mis Ebrill 2005. Mae'n rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol i bobl drawsrywiol yn eu dewis rhyw, yn dilyn eu cais llwyddiannus i'r Panel Cymeradwyo Rhyw. Ar ôl cael cydnabyddiaeth gyfreithiol bod eu rhyw wedi newid, caiff pobl drawsrywiol briodi yn eu rhyw newydd hefyd.

Mae gan y Panel Cydnabod Rhyw wefan sy'n cynnwys gwybodaeth a chyngor i bobl drawsrywiol sy'n dymuno gwneud cais am gydnabyddiaeth rhyw.

Cydraddoldeb hiliol

Mae'r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol yn amddiffyn unigolion rhag achosion o aflonyddu a gwahaniaethu ar sail hil ac yn creu hawl dan y ddeddf i herio gwahaniaethu yn y llysoedd neu mewn tribiwnlys cyflogaeth. Mae'n anghyfreithlon i unigolyn wahaniaethu yn erbyn unigolyn arall ar sail hil - mae hyn yn golygu hil, lliw, cenedligrwydd, neu darddiad ethnig neu genedlaethol.

Mae'r Ddeddf hefyd yn pennu bod gwahaniaethu ar sail hil gan gyrff a sefydliadau cyhoeddus yn anghyfreithlon ac yn mynnu bod ganddynt bolisïau i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n credu eu bod wedi dioddef gwahaniaethu neu harasio ar sail hil. Maent yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus, busnesau a sefydliadau o bob sector er mwyn hyrwyddo polisïau ac arferion sy'n helpu i sicrhau y caiff pawb eu trin yn gyfartal.

Gall gwefan y comisiwn roi mwy o wybodaeth i chi am wahaniaethu ar sail hil, eich hawliau cyfreithiol a beth i'w wneud os oes rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn.

Crefydd a chred

Mae deddfwriaeth hawliau dynol a gwrth-wahaniaethol yn amddiffyn yr hawl i gadw at eich credoau crefyddol eich hun neu gredoau athronyddol tebyg i grefydd. Mae gennych hefyd yr hawl i beidio â chael crefydd neu gred.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am eich hawliau i gadw at grefydd a chred - dilynwch y ddolen isod.

Hawliau pobl anabl

Mae adran 'Pobl anabl' Directgov yn rhoi gwybodaeth am hawliau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, yn rhoi diffiniadau o 'anabledd' ac yn nodi hawliau cyffredinol i gael nwyddau a gwasanaethau.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi cyngor a gwybodaeth i bobl anabl, darparwyr addysg, cyflogwyr a darparwyr gwasanaeth, ac yn cefnogi pobl anabl i sicrhau eu hawliau cyfreithiol. Mae'r corff hefyd yn cefnogi achosion cyfreithiol i brofi hyd a lled y gyfraith ac yn darparu gwasanaeth cymodi annibynnol ar gyfer pobl anabl a darparwyr gwasanaeth. Bydd cynghorwyr llinell gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gallu dweud wrthych os yw eich achos yn addas ar gyfer cymodi.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd yn darparu fideos Iaith Arwyddion Prydain ar hawliau anabledd ar ei wefan. Dilynwch y ddolen isod i'w gwylio.

Hawliau a gwahaniaethu ar sail oed

Ystyr gwahaniaethu'n anghyfreithlon ar sail oed yw pan gaiff rhywun ei drin yn anffafriol o ganlyniad i'w oedran, heb gyfiawnhad, neu ei harasio neu ei erlid o ganlyniad i'w oedran.

Mae gwefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi gwybodaeth a chyngor ar wahaniaethu ar sail oed, gan gynnwys beth yw eich hawliau a beth y gallwch ei wneud os oes rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn.

Ceir rhagor o wybodaeth hefyd am ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail oed yn adran cyflogaeth ac adran dros 50 Directgov.

Tueddfryd rhywiol a gwahaniaethu

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn darparu gwybodaeth a chyngor yng nghyswllt gwahaniaethu o ganlyniad i dueddfryd rhywiol unigolyn, neu'r ffordd y mae pobl yn gweld tueddfryd rhywiol rhywun, neu dueddfryd rhywiol y rheini y maent yn gysylltiedig â nhw. Mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) wedi llunio canllaw ar gyfer cyflogwyr a chyflogeion ar dueddfryd rhywiol yn y gweithle.

Gwahaniaethu mewn sefyllfaoedd gwahanol

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd yn rhoi gwybodaeth am wahaniaethu a'ch hawliau mewn sefyllfaoedd gwahanol. Mae'r cyngor yn ymdrin â'r meysydd canlynol:

• iechyd a gofal cymdeithasol

• tai ac eiddo

• cyfiawnder a'r system gyfreithiol

• dysgu a hyfforddi

• siopau a gwasanaethau

• cludiant

• gweithio ac ennill bywoliaeth

Bydd y dolenni isod yn eich arwain at adrannau perthnasol ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Rhagor o wybodaeth

Mae llinell gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi gwybodaeth a chanllawiau ar faterion yn ymwneud â gwahaniaethu a hawliau dynol. Mae pob aelod o'r staff wedi'u hyfforddi i ddarparu'r gwasanaeth hwn.

Gallwch hefyd gysylltu â'r comisiwn drwy lythyr, e-bost neu ffacs. Dilynwch y ddolen isod i gael manylion cyswllt. Os byddwch yn cysylltu â'r comisiwn drwy'r post, peidiwch ag anfon dim dogfennau gyda'ch llythyr - bydd rhywun yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi beth y mae angen i chi ei anfon.

Os hoffech gysylltu â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn iaith arall ar wahân i Saesneg, gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio unrhyw un o'r dulliau y soniwyd amdanynt uchod, a bydd rhywun yn trefnu i gysylltu â chi yn yr iaith o'ch dewis.

Nid yw'r swyddfeydd yn derbyn ymwelwyr gan nad ydynt yn darparu cyngor wyneb yn wyneb. Dim ond ar gyfer llythyrau y mae'r cyfeiriadau a ddarperir.

Additional links

Hawliau gweithwyr asiantaeth

Ydych chi'n gwybod beth mae gennych hawl iddo? Ydy eich asiantaeth yn cadw at y rheolau?

Allweddumynediad llywodraeth y DU