Diogelu eich manylion personol
Mae twyll hunaniaeth yn dod yn fwy cyffredin, felly mae'n bwysig eich bod yn diogelu eich manylion personol. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn helpu i atal achosion o ddwyn manylion personol a thwyll hunaniaeth. Fodd bynnag, mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i ddiogelu eich hun a'ch data personol.
Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn cyfuno pasportau a chardiau adnabod gyda'r Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol ac yn cyflwyno amrywiaeth o wasanaethau hunaniaeth ar gyfer unigolion a busnesau
Gan y bydd y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol yn cadw manylion bywgraffyddol a biometrig perchennog y cerdyn adnabod yn ddiogel, mae'n gallu rhoi cadarnhad i chi mai chi yw perchennog cyfreithlon cofnod o hunaniaeth.
Gan mai eich nodweddion corfforol unigryw chi fydd wedi'u cofnodi, bydd hi'n llawer anoddach i'r rheini sy'n bwriadu dwyn eich manylion personol eich dynwared os ydych wedi'ch cofrestru ar y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol. Bydd unrhyw un sy'n ceisio creu ail hunaniaeth yn eich enw yn cael trafferthion gan eich bod eisoes ar y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol.
Drwy ddefnyddio rhai o'ch manylion personol, gall troseddwyr wneud cais am gyfrifon banc, cardiau credyd, budd-daliadau a dogfennau swyddogol gan ddefnyddio eich manylion personol.
Gallwch helpu i ddiogelu eich manylion personol drwy wneud y canlynol:
Yn wahanol i fathau eraill cyffredin o brofi pwy ydych chi, ni fydd cerdyn adnabod y DU yn dangos eich cyfeiriad
Dim ond os byddwch chi'n penderfynu eich hun eich bod am rannu eich manylion personol y dylech wneud hynny. Ni fydd hyd yn oed eich banc yn gofyn i chi am eich rhif PIN neu gyfrinair eich cyfrif ar-lein; ac ni fydd dim manwerthwr ar-lein y gellir ymddiried ynddo na safle arwerthu yn gwneud hyn chwaith. Cofiwch:
Gallwch archebu eich adroddiad credyd. Mae gan unrhyw un sydd wedi cofrestru i gael cerdyn credyd, neu gael benthyciad neu forgais, ffeil credyd yn un o'r tair prif asiantaeth archwilio credyd. Mae hyn yn cynnwys manylion mudiadau yr ydych wedi ymwneud â nhw'n ariannol yn ystod y blynyddoedd diweddar. Mae adroddiad credyd statudol yn costio £2. Pan gewch eich adroddiad, darllenwch ef yn ofalus. Os byddwch yn sylwi ar rywbeth nad yw'n gyfarwydd, cysylltwch â'r asiantaeth archwilio credyd berthnasol.
Os credwch fod rhywun wedi atal neu ddwyn eich post, cysylltwch â'r Post Brenhinol. Gallwch roi'r manylion ar wefan y Post Brenhinol, neu siarad â chynghorydd gwasanaethau cwsmeriaid ar 08457 740 740. Byddant yn cyfeirio eich ymholiad i uned ymchwilio a fydd yn ymdrin â'ch ymholiad. Gallwch drefnu i'r Post Brenhinol ailgyfeirio eich post am hyd at flwyddyn - hyd yn oed os byddwch yn symud dramor.
Dyma rai arwyddion posib bod rhywun wedi dwyn eich manylion personol:
Darparwyd gan the Identity and Passport Service