Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cardiau adnabod: cyflwyniad

Fel rhan o'r Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol, mae cardiau adnabod yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â phasport y DU. Bydd y ddau ohonynt yn cynnwys manylion biometrig eich nodweddion corfforol unigryw (eich wyneb a'ch olion bysedd), gan eu cysylltu â'ch manylion biometrig (gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad, a'ch dyddiad geni).

Sut mae cael cerdyn adnabod?

O 2012 ymlaen, bydd pawb dros 16 oed yn gallu gwneud cais am gerdyn adnabod

Os ydych yn 16 neu'n hŷn ac yn penderfynu yr hoffech gael cerdyn adnabod, ymhen ychydig byddwch yn gallu gwneud cais am un yn yr un ffordd bron ag y byddech yn gwneud cais am basport.

Gan fod y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn dechrau cyflwyno'r cardiau yn ddiweddarach eleni, bydd preswylwyr ym Manceinion Fwyaf yn gallu cofrestru. Yn 2010, bydd preswylwyr yng ngogledd-dwyrain Lloegr yn gallu cofrestru i gael cerdyn hefyd.

Faint fydd cerdyn adnabod yn ei gostio?

Pan gaiff y cerdyn adnabod ei lansio, bydd yn costio £30.

Sut y defnyddir eich cerdyn adnabod

Drwy gysylltu un unigolyn ag un hunaniaeth gan ddefnyddio ei fanylion biometrig, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn ei gwneud yn llawer anoddach creu hunaniaeth ffug

Gwirio hunaniaeth

Dros y blynyddoedd nesaf, bydd llawer o ffyrdd gwahanol o wirio hunaniaeth ar gael. Bydd sefydliadau achrededig yn gallu dewis y ffordd o wirio fwyaf addas ar gyfer y trafodyn, gan adlewyrchu pwysigrwydd yr hyn rydych am ei wneud. Gallai'r broses wirio fod mor syml ag edrych ar y llun ar eich cerdyn adnabod i weld a yw'n cyfateb i'r unigolyn sy'n ei gyflwyno, neu gall olygu gwirio'r manylion ar y cerdyn dros y ffôn neu ar-lein gyda'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau.

Sut y cyflawnir y gwiriadau

Ar y lefel fwyaf sylfaenol, gellid cyflawni'r gwiriadau:

  • drwy edrych ar eich llun ar y cerdyn
  • drwy ddefnyddio darllenydd cerdyn
  • yn erbyn eich manylion ar y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol

Ar y dechrau, bydd mudiadau yn gallu defnyddio'r cerdyn i wirio manylion y deiliad wrth edrych arnynt. Dros gyfnod, byddant hefyd yn gallu defnyddio darllenydd cerdyn i weld a yw'r manylion ar y cerdyn yn ddilys. Hefyd, gyda'ch caniatâd chi, gallai mudiad achrededig wirio eich manylion ar y cerdyn yn erbyn eich manylion ar y Gofrestr Hunaniaeth Gyffredinol. Caiff hyn ei wneud drwy'r gwasanaeth gwirio hunaniaeth y bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau yn ei ddefnyddio.

Dim ond i nifer cyfyngedig o gyrff cyhoeddus y caiff y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol ddarparu gwybodaeth heb eich caniatâd chi - cyrff sydd wedi'u cymeradwyo gan y Senedd - a dim ond os yw er budd i'r cyhoedd y gwneir hyn. Ni chaniateir rhoi dim gwybodaeth i gwmni o'r sector preifat heb eich caniatâd.

Sut y bydd y cerdyn adnabod yn edrych?

Ni fydd y cerdyn adnabod yn fwy na cherdyn credyd a bydd yn hawdd i'w gario ac yn gyfleus

Ar wyneb y cerdyn bydd:

  • eich llun
  • eich enw llawn
  • eich rhyw
  • eich man geni a'ch dyddiad geni
  • eich cenedligrwydd - dim ond i ddinasyddion Prydeinig y bydd hyn yn berthnasol
  • llun o'ch llofnod

Dilynwch y ddolen isod i weld lluniau o sut mae cardiau adnabod yn edrych.

Cardiau adnabod ar gyfer gweithwyr hanfodol

Yn ddiweddarach eleni (2009) bydd gweithwyr sy’n gweithio mewn meysydd awyr Manceinion a London City yn gallu gwneud cais am gerdyn adnabod.

Tua'r un pryd, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau yn dechrau cynnig cardiau adnabod i’r cyhoedd yn gyffredinol mewn rhai ardaloedd o'r wlad ar sail wirfoddol.

Cardiau adnabod ar gyfer dinasyddion tramor

Ym mis Tachwedd 2008, rhoddwyd y cardiau adnabod cyntaf i ddinasyddion tramor i bobl oedd yn gwneud cais i aros yn y DU fel myfyriwr neu ar ôl priodi dinesydd y DU. Bydd gan bob dinesydd tramor newydd (o'r tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ac sy'n teithio i'r DU) a'r rheini sy'n dymuno aros am gyfnod hwy gerdyn o fewn tair blynedd. Amcangyfrifir y bydd gan tua 90 y cant o holl ddinasyddion tramor y DU gerdyn adnabod erbyn 2014/15. Yn ogystal â bod yn ddogfen mewnfudo i ddinasyddion tramor, bydd y cerdyn adnabod hwn yn galluogi iddynt brofi bod ganddynt yr hawl i fyw ac i weithio yma.

Darparwyd gan the Identity and Passport Service

Allweddumynediad llywodraeth y DU