Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cofrestru eich diddordeb mewn cardiau adnabod a'r Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol

Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth Genedlaethol yn creu ffyrdd mwy diogel a chyfleus i chi o brofi pwy ydych chi drwy basportau biometrig, cardiau adnabod cenedlaethol, ac amrywiaeth o wasanaethau gwirio hunaniaeth.

Cofrestru eich diddordeb mewn cardiau adnabod a'r Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol

Mae’r Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol yn cael ei ddatblygu gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau a’r Asiantaeth Ffiniau'r DU. Pan fyddwch yn cofrestru eich diddordeb yn y byddwch yn cael e-gylchlythyrau rheolaidd a fydd yn eich helpu gyda'r canlynol:

  • deall mwy am y Gwasanaeth Hunaniaeth Cenedlaethol
  • cael yr wybodaeth ddiweddaraf amdanynt
  • dysgu sut y gallwch ddefnyddio cerdyn adnabod a sut y gallai fod o fudd i chi
  • gwybod pryd y bydd cardiau adnabod ar gael yn eich ardal chi, fel y gallwch wneud cais am un

Rhaid i chi fod yn 16 oed o leiaf i gofrestru. Bydd y wybodaeth a roddwch wrth gofrestru hefyd yn cael ei defnyddio gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau i’w helpu i ddiwallu'ch anghenion.

Os hoffech wybod mwy am sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio, ei gadw neu ei ddiogelu, ceir mwy o wybodaeth yn y datganiad preifatrwydd isod.

Cael cerdyn adnabod

Fel chi, bydd eich cerdyn adnabod yn unigryw. Bydd yn cynnwys eich llun a gwybodaeth bersonol sylfaenol ar flaen y cerdyn. Caiff yr wybodaeth hon hefyd ei chynnwys ar sglodyn y cerdyn gydag olion dau o'ch bysedd.

Bydd cael cerdyn adnabod yr un mor syml â gwneud cais am basport yn y pen draw, a chaiff y cardiau adnabod eu prosesu a’u rheoli yn yr un ffordd ddiogel â cheisiadau am basport.

Ac os ydych yn ddinesydd Prydeinig, byddwch yn gallu teithio yn Ewrop gyda'ch cerdyn adnabod ac ni fydd angen eich pasport arnoch.

Dros y flwyddyn nesaf bydd y llywodraeth yn canolbwyntio ar gyflwyno cardiau adnabod (am dâl o £30) i’r sawl a fydd yn elwa ohono fwyaf, yn enwedig pobl ifanc yn 16 oed a throsodd.

Bydd cardiau adnabod yn cael eu cyflwyno mewn lleoliadau dethol yn gyntaf, gan ddechrau yn ardal Manceinion Fwyaf ym mis Hydref 2009, ac yna’n ymestyn i leoliadau eraill yng ngogledd-orllewin Lloegr yn gynnar yn 2010.

Darparwyd gan the Identity and Passport Service

Additional links

Diogelu eich manylion personol

Sut i warchod eich hun rhag i rywun ddwyn eich manylion personol - a beth i'w wneud os bydd hyn yn digwydd i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU