Cael gwared ar offer electronig a thrydanol
Gwastraff electronig a thrydanol - fel setiau teledu, oergelloedd a chyfrifiaduron - yw un o'r mathau o wastraff sy'n cynyddu gyflymaf yn Ewrop. Bob blwyddyn yn y DU, bydd cartrefi'n taflu tua miliwn tunnell ohono. Gall ailddefnyddio ac ailgylchu helpu i arbed ynni a deunyddiau crai, ac atal cemegion niweidiol rhag mynd i'r amgylchedd.
Ceisiwch ddal gafael ar eich offer am fwy o amser
Mae'r rhan fwyaf o ffonau symudol yn gweithio am o leiaf pum mlynedd
Cyn i chi gael gwared ar eitem electronig neu drydanol, meddyliwch a oes angen i chi gael gwared arni mewn gwirionedd. Er enghraifft:
- gellir uwchraddio cyfrifiaduron yn llwyddiannus yn aml drwy gynyddu'r cof (RAM) neu gael gyriant caled newydd - gallai hyn roi'r gwelliannau y mae eu hangen arnoch heb i chi orfod prynu cyfrifiadur newydd. Holwch mewn siop gyfrifiaduron neu chwiliwch ar-lein i gael cyngor, rhannau a chymorth technegol
- nid oes angen i chi gael ffôn symudol newydd bob blwyddyn - mae'r rhan fwyaf o ffonau'n gweithio am o leiaf pum mlynedd. Mae cadw eich ffôn presennol hefyd yn golygu y gallech arbed arian ar dariffau misol. Holwch eich cwmni ffôn am y gwahanol dariffau sydd ar gael
- peidiwch â chymryd yn ganiataol bod angen monitor newydd arnoch os oes angen cyfrifiadur newydd arnoch – mae monitorau'n cynnwys cemegau sy'n anodd eu gwaredu'n ddiogel. Gall prynu cyfrifiadur heb fonitor hefyd arbed arian i chi
Cael gwared ar offer wedi'i ddefnyddio
Gellir ailddefnyddio eitemau trydanol yn aml, gan gynnwys gwifrau a phlygiau
Os oes yn rhaid i chi gael gwared ar hen offer trydanol neu electronig, dylech osgoi cael gwared arnynt gyda sbwriel cartref - bydd hyn yn arwain at wastraff adnoddau ac ynni, a gallai hefyd olygu bod cemegion niweidiol yn mynd i'r amgylchedd:
- gellir ailddefnyddio eitemau trydanol neu electronig, gan gynnwys gwifrau a phlygiau, yn aml. Ceisiwch ddod o hyd i gartref newydd ar gyfer eich eitem drwy ddefnyddio mudiadau fel Freecycle, neu ei rhoi i elusen leol sy'n ailddefnyddio eitemau. Mae gan y Rhwydwaith Ailddefnyddio Dodrefn fap rhyngweithiol a fydd yn rhoi gwybod i chi lle mae eich elusen ailddefnyddio agosaf - a bydd llawer ohonynt yn derbyn nwyddau trydanol. Mae gwefannau'r Cyngor yn aml yn rhestru cynlluniau elusennau lleol sy'n derbyn eitemau trydanol
- os ydych yn prynu eitem drydanol neu electronig newydd, holwch y manwerthwr sut y byddant yn eich helpu i ailgylchu'r hen eitem rydych yn cael eitem newydd yn ei lle. Erbyn hyn, mae'n rhaid i fanwerthwyr naill ai dderbyn yr eitem yn ôl i'r siop, ei chasglu pan fyddant yn dosbarthu'r eitem newydd, neu roi gwybod i chi lle gallwch fynd â'r eitem ar gyfer ei hailgylchu am ddim. Mae rhai manwerthwyr yn cynnig gwasanaeth casglu hen eitemau, ond efallai y byddant yn codi tâl am y gwasanaeth
- bydd y dewisiadau presennol ar gyfer ailgylchu a chael gwared ar eitemau electronig a thrydanol yn ddiogel yn parhau i fod ar gael. Gallwch fynd â nhw i'ch safle mwynder dinesig lleol (eich canolfan gwastraff ac ailgylchu) am ddim
- bydd eich awdurdod lleol yn casglu nwyddau electronig swmpus nad oes mo'u heisiau arnoch o'ch cartref, ond efallai y byddant yn codi tâl am y gwasanaeth
Y mathau o gynhyrchion y cyfeirir atynt
Dylech gael gwared ar eitemau ar wahân i sbwriel cartref
Gallwch ddweud pa fath o gynhyrchion sy'n cael eu cynnwys gan reoliadau WEEE, drwy chwilio am y 'symbol bin olwynion wedi'i groesi allan', sy'n golygu y dylech gael gwared arnynt ar wahân i sbwriel cartref arall. Mae'r mathau o offer trydanol ac electronig y cyfeirir atynt yn cynnwys:
- offer trydanol mawr a bach o'r cartref – er enghraifft, peiriannau golchi, rhewgelloedd a sugnwyr llwch
- offer TG a thelathrebu megis cyfrifiaduron a ffonau symudol
- offer defnyddwyr megis radios a setiau teledu
- offer trydanol megis driliau a llifiau
- offer hamdden a chwaraeon megis consolau gemau fideo
Mae'n cyfeirio at gynhyrchion y mae angen trydan arnynt ar gyfer eu prif ddefnydd. Fodd bynnag, ni fyddai popty nwy gyda chloc trydanol bychan yn WEEE, oherwydd nad yw'r prif ddefnydd (coginio) yn drydanol.