Os ydych chi'n perthyn i grŵp cymunedol, i glwb, i gymdeithas neu gyngor plwyf, gallwch wneud pethau gyda'ch gilydd er lles yr amgylchedd. Gall cynllun Mae Pob Gweithred yn Cyfri a chynlluniau eraill roi syniadau a chefnogaeth ymarferol er mwyn eich helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a gwneud eich ardal yn lanach, yn fwy diogel ac yn fwy gwyrdd i fyw ynddi.
Bydd Mae Pob Gweithred yn Cyfri yn cynnig cymorth i grwpiau cymunedol a chlybiau, gan eich helpu i weithredu er mwyn yr amgylchedd. Ar wefan Mae Pob Gweithred yn Cyfri (Every Action Counts), fe welwch y rhain:
Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar bum prif thema: teithio'n ddoeth, arbed adnoddau, siopa'n foesol, arbed ynni a gofalu am yr amgylchedd.
Drwy fod yn rhan o grwpiau cymunedol, cewch lawer o gyfleoedd i gael eich cynnwys mewn penderfyniadau lleol ynghylch yr ardal yr ydych yn byw ynddi, a gallwch gael cyfle i leisio'ch barn am ddatblygiadau newydd - fel meysydd glas agored, ffyrdd neu safleoedd diwydiannol newydd.
Cynlluniau a ddatblygir yn lleol mewn partneriaeth â sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yw Strategaethau Cymunedau Cynaliadwy. Mae sefydliadau cymunedol a busnesau lleol hefyd yn gysylltiedig â nhw.
Bydd Cynlluniau Plwyf yn ymdrin â materion cymdeithasol, economaidd, ac amgylcheddol sy'n berthnasol i'ch ardal leol. Fel grŵp cymunedol mae gennych gyfle i ddylanwadu ar eich Cynllun Plwyf lleol a sut y rheolir eich gwasanaethau a'ch ardal yn lleol. Gallwch hefyd gymryd rhan mewn ymgynghoriadau ynghylch datblygiadau lleol.
Os ydych yn rhan o grŵp, gallwch wneud pethau ar raddfa fwy.
Mae nifer o gamau y gallwn eu cymryd o ddydd i ddydd i leihau'r effaith a gawn ar yr amgylchedd, megis ailgylchu mwy, arbed ynni neu ddefnyddio llai ar y car. Os ydych yn rhan o grŵp, gallwch wneud pethau ar raddfa fwy, a chael mwy o ddylanwad. Er enghraifft, gallech godi ymwybyddiaeth am faterion yn ymwneud â'r amgylchedd er mwyn cael mwy o bobl i weithredu, neu gallech ddylanwadu ar eich cyngor lleol i gael mwy o newidiadau'n digwydd ar raddfa fwy.
Os ydych chi'n aelod o glwb neu grŵp cymunedol gallwch wneud nifer o bethau syml i'w gwneud yn fwy gwyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys:
Mae bwyd yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd, ond gallai'r camau canlynol helpu:
Gall newid y ffordd y bydd aelodau'r clwb neu'r grŵp yn teithio leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd a llygredd aer yn lleol. Dyma rai pethau i'w hystyried:
Y Gymuned yn Gweithredu dros Ynni (CAfE)
Mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn cynnal rhaglen ar gyfer grwpiau cymunedol. Mae CAfE wedi'i chynllunio i hyrwyddo a chefnogi prosiectau arbed ynni lleol yn y gymuned. Mae CAfE wedi'i anelu at grwpiau lleol sydd eisiau gweld mwy o ynni'n cael ei arbed, a gwell ansawdd bywyd yn eu cymunedau. Mae'r wefan isod yn rhoi mwy o wybodaeth, gan gynnwys ble gallwch ddod o hyd i nawdd a ble i gael hyfforddiant.
Eco-Dimau
Cynhelir prosiect Eco-Dimau gan sefydliad a elwir yn Gynllun Gweithredu Byd-eang. Maent yn dod â grŵp o bobl ynghyd i wneud newidiadau bychain er mwyn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Gall gwefan y Cynllun Gweithredu Byd-eang ddweud mwy wrthych am sut i sefydlu Eco-Dîm (codir tâl am y deunyddiau).
Rhwydwaith Gweithredu yn y Gymuned
Mae'r Rhwydwaith Gweithredu yn y Gymuned yn rhoi cefnogaeth i entrepreneuriaid cymdeithasol a mentrau cymdeithasol.