Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Setiau teledu a nwyddau electronig: dewisiadau mwy gwyrdd

Mae setiau teledu a nwyddau electronig eraill yn gwastraffu ynni os na chânt eu diffodd yn gyfan gwbl. Collir gwerth oddeutu dwy orsaf drydan o ynni bob blwyddyn gan offer na ddefnyddir mewn gwirionedd. Gall prynu modelau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon a chofio eu diffodd ar ôl eu defnyddio helpu i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Diffoddwch eich offer

Setiau teledu a nwyddau electronig eraill megis offer sain a adewir yn y modd segur sy'n gyfrifol am oddeutu 10 y cant o'r trydan a ddefnyddir yn ein cartrefi:

  • ceisiwch ddiffodd offer ar y set neu yn y plwg, nid trwy ddefnyddio'r teclyn newid sianelau
  • dylech osgoi prynu nwyddau electronig sydd heb fotwm diffodd hwylus

Chwiliwch am setiau teledu sy'n defnyddio ynni'n effeithlon

Setiau teledu sy'n gyfrifol am swm sylweddol o'r ynni a ddefnyddir mewn cartrefi i bweru nwyddau electronig, felly, gall prynu teledu sy'n defnyddio ynni'n effeithlon wneud gwahaniaeth gwirioneddol:

  • cofiwch fod setiau teledu mwy yn gyffredinol yn defnyddio mwy o drydan, felly, bydd prynu teledu llai yn helpu i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd
  • chwiliwch am y label Energy Saving Recommended os ydych yn prynu teledu digidol integredig - dim ond y cynhyrchion mwyaf ynni-effeithlon sy'n cael defnyddio'r label hwn sef fel arfer yr 20 y cant gorau o'r rhai sydd ar gael
  • mae rhai modelau yn arddangos yr Ecolabel Ewropeaidd, sy'n dynodi bod teledu yn defnyddio llai o ynni wrth ei ddefnyddio a phan fo yn y modd segur, ei fod yn cynnwys llai o sylweddau sy'n berygl i iechyd a'r amgylchedd a'i fod yn hawdd i'w ailgylchu oherwydd y modd cafodd ei lunio
  • ni ddylai model effeithlon ddefnyddio mwy na 1W pan yn y modd segur

Tynnwch wefrwyr o'r plygiau

Mae gwefrwyr a nwyddau electronig sydd â chyflenwadau pŵer allanol megis gliniaduron a radios digidol, yn gwastraffu ynni hyd yn oed pan fo'r ffôn, y gliniadur neu'r radio wedi ei ddiffodd neu ei ddatgysylltu:

  • tynnwch wefrwyr a chyflenwadau pŵer o'r plwg pan nad ydych yn eu defnyddio, neu diffoddwch nhw yn y soced
  • pe bai pawb yn tynnu gwefrwyr ffonau symudol o'r plwg pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, gallai'r trydan a gai ei arbed bweru 66,000 o gartrefi am flwyddyn

Newid i fatris y gellir eu hailwefru

Mae llawer o nwyddau electronig yn y cartref, o gamerâu i gyfrifiaduron llaw, yn defnyddio batris sydd angen ynni ac adnoddau i'w cynhyrchu, a gallant gynnwys cemegau gwenwynig sy'n achosi llygredd os na chânt eu gwaredu'n briodol:

mae newid i fatris y gellir eu hailwefru yn llawer rhatach ac yn fwy gwyrdd na phrynu batris un-tro
tynnwch bob gwefrwr o'r plwg ar ôl i chi orffen ei ddefnyddio
mae teclynnau gwynt neu solar megis radios a thorshys yn eich galluogi i hepgor batris yn gyfan gwbl

Trosglwyddo offer diangen neu ei waredu yn gyfrifol

Os ydych yn cael gwared ar offer sy'n dal i weithio, efallai y gall rhai elusennau arbenigol wneud defnydd ohono, neu efallai y dowch o hyd i rywun a fyddai eisiau ei ddefnyddio:

  • Mae Freecycle yn gynllun di-elw sy'n eich galluogi i roi eich nwyddau cartref nad ydych eu heisiau bellach i eraill a all wneud defnydd ohonynt
  • mae'n bwysig y ceir gwared â nwyddau electronig yn ddiogel er mwyn lleihau perygl o lygredd - dylai eich safle ailgylchu neu eich safle mwynder dinesig lleol dderbyn nwyddau electronig nad oes eu hangen arnoch, a'u gwaredu'n ddiogel

Y mater ehangach

O fis Ionawr 2007 bydd deddf Undeb Ewropeaidd newydd yn golygu y bydd yn rhaid i gynhyrchwyr gymryd eu hen nwyddau electronig yn ôl neu fynd â nhw i safle casglu am ddim

Cynhyrchir rhan fwyaf o'r trydan a ddefnyddir yn y cartref drwy losgi glo neu nwy, sy'n rhyddhau gollyngiadau carbon sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.

Additional links

Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff

Cael ryseitiau blasus sy'n defnyddio bwyd dros ben a chyngor ar sut i leihau eich gwastraff bwyd

Arbed Arian Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Allweddumynediad llywodraeth y DU