Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Peiriannau i'r cartref sy'n arbed ynni, dŵr ac arian

Gall defnyddio'ch peiriannau'n fwy effeithlon helpu i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd, a gall hefyd arbed dŵr ac arbed arian i chi. Gall dewis y modelau mwyaf effeithlon wneud gwahaniaeth mawr pan fyddwch yn prynu peiriannau newydd.

Y mater ehangach

bydd oergell a rhewgell yn un sy'n defnyddio ynni'n effeithlon yn defnyddio bron i draean yr ynni a ddefnyddir gan fodel 10 mlwydd oed

Mae'n werth meddwl am y peiriannau y byddwch yn eu prynu ac am y ffyrdd y cânt eu defnyddio. Gall dewis y peiriannau iawn eich helpu i arbed arian ac i leihau'ch effaith ar yr amgylchedd.

Mae oergelloedd a rhewgelloedd, er enghraifft, yn gweithio'n galetach nag unrhyw beiriant arall yn y gegin a chânt eu defnyddio 24 awr y dydd. Mae oergell a rhewgell yn un sy'n defnyddio ynni'n effeithlon yn defnyddio bron i draean yr ynni i wneud yr un gwaith â model 10 mlwydd oed.

Rhowch seibiant i'r sychwr

Bydd cymryd camau i sychu eich dillad yn fwy effeithlon yn eich helpu i arbed ynni ac arian:

  • sychwch eich dillad yn yr awyr agored neu ar rac ddillad pan allwch chi
  • os ydych yn defnyddio'r sychwr, gwnewch yn siŵr ei fod yn llawn bob tro, yn hytrach na gwneud sawl llwyth bach

Defnyddio peiriannau golchi dillad a pheiriannau golchi llestri yn fwy effeithlon

Mae dau hanner llwyth yn defnyddio mwy o ynni a dŵr nag un llwyth llawn

Drwy gymryd ychydig o gamau syml gallwch leihau faint o ynni a dŵr a ddefnyddiwch:

  • mae golchi dillad ar 30 gradd yn arbed ynni, ac mae'r hylif a'r powdr golchi sydd ar gael heddiw yn golchi lawn cystal ar dymheredd isel
  • gwnewch yn siŵr bod gennych lwyth llawn pan fyddwch yn defnyddio peiriannau golchi dillad a pheiriannau golchi llestri, gan fod hanner llwyth yn defnyddio mwy na hanner y dŵr a'r ynni a ddefnyddir ar gyfer llwyth cyfan
  • bydd diffodd peiriannau a thynnu plygiau o'r soced pan na fyddant yn cael eu defnyddio yn arbed yr ynni y mae goleuadau ac arddangosfeydd yn eu defnyddio
  • mae glanhau hidlyddion yn rheolaidd yn sicrhau bod offer yn rhedeg yn effeithlon

Oergelloedd a rhewgelloedd

Defnyddiwch oergelloedd a rhewgelloedd yn fwy effeithlon drwy eu dadrewi yn rheolaidd.

Prynwch beiriannau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon

Mae costau rhedeg yn bwysig
Pan fyddwch yn prynu peiriannau newydd, meddyliwch am y costau rhedeg yn ogystal â'r pris prynu. Gallai arbedion bach bob mis drwy ddefnyddio peiriant mwy effeithlon arwain at arbedion sylweddol dros oes eich peiriant.

Peiriannau llai yn defnyddio llai o ynni
Chwiliwch am y cynnyrch lleiaf sy'n addas ar gyfer eich anghenion chi er mwyn defnyddio llai o ynni ac amddiffyn yr amgylchedd. Efallai fod gan ddwy oergell o wahanol faint yr un raddfa effeithlonrwydd, ond bydd yr oergell leiaf yn defnyddio llai o ynni ac yn costio llai i'w rhedeg.

Nwy ar gyfer coginio
Yn gyffredinol, mae nwy yn ddewis mwy gwyrdd na thrydan ar gyfer coginio oherwydd mae'n cael llai o effaith ar newid yn yr hinsawdd.

Osgoi nodweddion diangen
Mae gan rai peiriannau nodweddion diangen sy'n defnyddio ynni ychwanegol. Er enghraifft, mae gan rai tegelli oleuadau neu ddull o 'gadw'n gynnes'. Ceisiwch osgoi'r rhain os ydych chi'n ceisio arbed ynni.

Cadwch lygad am y label

Mae peiriannau sydd â label 'Energy Saving Recommended' yn rhatach i'w rhedeg

Wrth brynu peiriant newydd, cadwch lygad am ddau label ynni pwysig:

  • logo 'Energy Saving Recommended' - dim ond ar y cynhyrchion sydd ymhlith y goreuon am ddefnyddio ynni'n effeithlon y caiff hwn ei roi, sef yr 20 y cant gorau ar y farchnad fel rheol
  • mae label ynni'r UE yn graddio cynnyrch yn ôl faint o ynni a ddefnyddir ganddo, o A (y gorau) i G (y gwaethaf), ac mae'r raddfa mynd hyd at A++ ar gyfer oergelloedd a rhewgelloedd

Gallech hefyd edrych ar ba mor effeithlon y mae peiriant newydd yn defnyddio dŵr. Yn aml, po fwyaf effeithlon y mae peiriant yn defnyddio ynni, y lleiaf o ddŵr y bydd yn ei ddefnyddio. Gallwch edrych ar label ynni'r UE i weld faint o ddŵr mae peiriant yn ei ddefnyddio, gan fod y labeli ar gyfer peiriannau golchi dillad a pheiriannau golchi llestri yn dangos sawl litr o ddŵr a ddefnyddir ym mhob golch:

  • wrth ddewis peiriant golchi dillad, chwiliwch am beiriant sy'n defnyddio llai na 50 litr ym mhob golch
  • gyda pheiriannau golchi llestri, chwiliwch am un sy'n defnyddio llai na 15 litr ym mhob golch

Cael gwared ar hen offer yn ddiogel

Mae peiriannau'n cynnwys llawer o ddeunyddiau crai gwerthfawr fel metelau, yn ogystal â chemegau niweidiol a all niweidio'r amgylchedd oni fyddant yn cael eu gwaredu'n ofalus. Os oes rhaid i chi gael gwared ar hen beiriant gallwch wneud y canlynol:

  • ceisio dod o hyd i gartref newydd gydag elusen neu fudiad arall i ddyfeisiadau nad oes mo'u hangen arnoch – yn aml mae'n bosib atgyweirio ac ail-ddefnyddio peiriannau
  • os ydych chi'n prynu eitem drydanol arall, erbyn hyn mae'n ofynnol i adwerthwyr naill ai gymryd yr hen eitem gennych, neu ddweud wrthych i ble y dylech fynd â'r eitem i'w hailgylchu
  • bydd rhai adwerthwyr yn casglu hen beiriannau o'ch cartref os byddant yn danfon eitem newydd – holwch a ydynt yn darparu'r gwasanaeth hwn
  • gellir cael gwared ar eich hen beiriannau trydanol yn eich safle mwynder dinesig lleol (canolfan gwastraff ac ailgylchu) am ddim
  • bydd awdurdodau lleol yn casglu nwyddau gwyn mawr nad oes mo'u heisiau arnoch, ond efallai y byddant yn codi tâl am y gwasanaeth

Oherwydd gwelliannau mewn oergelloedd, nid yw modelau mwy diweddar yn cynnwys clorofluorocarbonau (CFCs), sy'n niweidio'r haenen oson, ond mae dal angen eu gwaredu yn ddiogel.

Coginio ynni-effeithlon

Gallwch hefyd ddefnyddio'r peiriannau sydd gennych mewn ffordd effeithiol wrth goginio. Dyma bethau i'w hystyried:

  • bydd rhoi caead ar sosban yn lleihau'r amser berwi yn sylweddol
  • mae tegelli trydan yn defnyddio bron i draean o'r trydan a ddefnyddir mewn tŷ cyffredin ar gyfer coginio, felly peidiwch â berwi mwy o ddŵr nag y mae ei angen arnoch

Os oes arnoch eisiau cynhesu ychydig o fwyd, efallai yr hoffech ystyried defnyddio microdon yn hytrach na phopty confensiynol. Mae'r ymchwil diweddaraf yn dynodi y gall hyn arbed ynni i chi.

Additional links

Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff

Cael ryseitiau blasus sy'n defnyddio bwyd dros ben a chyngor ar sut i leihau eich gwastraff bwyd

Arbed Arian Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Allweddumynediad llywodraeth y DU