Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dileu swydd: Cyflogaeth newydd

Os yw eich swydd yn debygol o gael ei dileu, efallai y dowch o hyd i waith newydd gyda chyflogwr newydd neu efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig swydd wahanol ichi. Mae gwahanol faterion yn gysylltiedig â'r ddau.

Cynigion swydd gan eich cyflogwr presennol

Mae disgwyl i'ch cyflogwr gynnig swydd wahanol addas ichi, os oes un ar gael, cyn dileu eich swydd. Mae'r cwestiwn a yw'r swydd yn addas yn dibynnu ar y canlynol:

  • telerau'r swydd sy'n cael ei chynnig
  • eich sgiliau, eich galluoedd a'ch amgylchiadau
  • y cyflog (gan gynnwys buddiannau), statws, oriau a lleoliad y swydd

Os yw'r gwaith yn eich swydd bresennol yn ailgodi cyn i'ch rhybudd ddod i ben, efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig eich swydd bresennol ichi fel 'swydd wahanol'.

Dylid gwneud y cynnig hwn cyn i'ch hen swydd ddod i ben. Dylech gael digon o wybodaeth am yr hyn y mae'n ei olygu er mwyn i chi wybod pa mor wahanol ydyw i'ch hen swydd.

Cyfnodau treial

Mae gennych hawl i gyfnod prawf o bedair wythnos mewn swydd newydd, ac os bydd angen hyfforddiant arnoch ar gyfer y swydd newydd, gellir ymestyn y cyfnod drwy gytundeb ysgrifenedig.

Os penderfynwch nad yw'r swydd newydd yn addas, gallwch rhoi rhybudd yn ystod y cyfnod prawf heb i hynny effeithio ar eich hawl i dâl dileu swydd statudol. Oni fyddwch wedi rhoi rhybudd erbyn diwedd y cyfnod prawf, bydd eich hawl i dâl dileu swydd statudol yn dod i ben.

Os ydych yn gwrthod cynnig

Os bydd eich cyflogwyr yn cynnig swydd arall addas i chi a chithau'n ei gwrthod yn afresymol, mae'n bosib y byddwch chi'n colli'ch hawl i dâl dileu swydd statudol. Os oes anghydfod ynghylch a yw swydd yn addas (neu os ydych yn gwrthod a hynny'n afresymol), gall y Tribiwnlys Cyflogaeth benderfynu a oes tâl dileu swydd i'w roi ichi.

Amser o'r gwaith i chwilio am swydd

Os ydych wedi'ch cyflogi'n barhaus am ddwy flynedd erbyn y dyddiad y daw eich rhybudd i ben, mae gennych hawl i gyfnod rhesymol o'r gwaith yn ystod y cyfnod rhybudd i:

  • chwilio am swydd arall
  • trefnu hyfforddiant

Bydd faint y gallwch ei gymryd yn dibynnu ar eich amgylchiadau, ond, er enghraifft, os byddwch yn mynychu cyfweliad neu ddau ac yn peidio â chymryd amser gormodol i deithio, mae'n debygol y bydd hyn yn rhesymol.

Faint bynnag o amser y byddwch yn ei gymryd i ffwrdd, dim ond hyd at ddwy ran o bump o'ch cyflog wythnosol y bydd yn rhaid i'ch cyflogwr dalu ichi. Er enghraifft, os ydych yn gweithio 5 diwrnod yr wythnos, ac yn cymryd 4 diwrnod i ffwrdd yn ystod y cyfnod rhybudd cyfan, dim ond am y 2 ddiwrnod cyntaf y mae'n rhaid i'ch cyflogwr eich talu.

Dechrau Mewn Swydd Newydd Cyn i'ch Rhybudd Ddod i Ben

Os cewch gynnig swydd gyda chwmni newydd, i ddechrau cyn i'ch rhybudd ddod i ben, ceisiwch negodi gyda'ch cyflogwr i gael eich rhyddhau'n gynnar, heb golli'ch tâl dileu swydd. Mae cyflogwyr yn aml yn fodlon gwneud trefniadau o'r fath.

Os dywed eich cyflogwr na all eich rhyddhau'n gynnar (efallai oherwydd bod gwaith angen ei gwblhau) gallwch roi'r hyn a elwir yn 'wrth-rybudd ysgrifenedig' i'ch cyflogwr yn nodi pryd yr hoffech orffen. Dylai'ch cyflogwr ysgrifennu'n ôl atoch i ddweud a allwch orffen yn gynnar neu beidio.

Os byddwch yn gadael yn gynnar heb ganiatâd eich cyflogwr, gallech golli rhywfaint neu'r cyfan o'ch tâl dileu swydd. Gellir mynd ag anghydfodau ynghylch a ddylid talu tâl dileu swydd mewn amgylchiadau o'r fath i Dribiwnlys Cyflogaeth.

Dylech ofyn am gyngor gan eich undeb, Cyngor Ar Bopeth neu Acas (Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) am y rheolau penodol ar 'wrth-rybudd'.

Ble i gael cymorth

Llinell gymorth Acas

08457 47 47 47

Os gwedir eich hawliau i chi, yn gyntaf oll, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (ee swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch lle i gael cymorth gyda materion yn ymwneud â chyflogaeth, ewch i'r dudalen cysylltiadau cyflogaeth. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael cyngor neu gefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU