Os caiff eich swydd ei dileu, dylai’ch cyflogwr eich trin yn deg, ac mae rhai camau y byddai disgwyl iddo eu dilyn. Fe allech chi hefyd fod â hawl i gael tâl dileu swydd.
Math ar ddiswyddo yw dileu swyddi, a achosir oherwydd bod angen i’ch cyflogwr leihau’r gweithlu. Dyma rai rhesymau dros ddileu swyddi:
Fel arfer, mae'n rhaid i’ch swydd fod wedi dod i ben er mwyn i chi golli eich swydd. Fodd bynnag, os bydd swydd unigolyn arall yn dod i ben a'r unigolyn hwnnw'n cael ei symud i wneud eich swydd chi, mae hyn hefyd yn achos dilys o ddileu swydd. 'Bympio' yw'r gair am hyn, ond efallai y bydd yn anodd i'ch cyflogwr gyfiawnhau hyn o safbwynt tegwch.
Os yw’ch cyflogwr yn dileu swyddi 20 neu fwy o gyflogeion mewn un sefydliad o fewn cyfnod o 90 niwrnod, mae hyn yn achos o ddileu nifer o swyddi.
Os yw’ch cyflogwr yn ystyried dileu nifer o swyddi, mae ganddo ddyletswydd i ymgynghori â chynrychiolwyr y cyflogeion y gallai hyn effeithio arnynt, sef swyddogion undeb llafur y cyflogeion. Os nad oes ganddynt swyddog undeb llafur, mae’n rhaid i’r cyflogwr wneud trefniadau i’r cyflogeion ethol eu cynrychiolwyr eu hunain.
Os na fydd eich cyflogwr yn ymgynghori â'r cynrychiolwyr, gall y cyflogeion gyflwyno hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth am ddyfarniad gwarchodol (dyfarniad ariannol o hyd at 90 niwrnod o gyflog).
Fel rheol, mae’r amgylchiadau canlynol yn arwain at ddileu nifer o swyddi:
Mae’r busnes neu’r adeilad rydych chi’n gweithio ynddo yn cau, sy'n golygu nad yw’ch cyflogwr angen cynifer o gyflogeion mwyach.
Mae’ch busnes yn wynebu cyfnod o adrefnu neu ailddyrannu gwaith, ac nid yw hynny'n arwain at ddileu swyddi yn uniongyrchol. Gallai hyn fod oherwydd bod eich cyflogwr yn cyflogi staff newydd ar gyfer y gwaith newydd neu fod rhai cyflogeion yn cael eu hadleoli ar gontractau newydd gyda thelerau ac amodau gwahanol, tra caiff swyddi cyflogeion eraill eu dileu.
Os yw’ch cyflogwr yn dileu swyddi llai nag 20 o gyflogeion mewn un sefydliad, mae'n rhaid iddo ddilyn trefniadau penodol:
Os bydd cyflogwr yn defnyddio'r drefn dileu swyddi i guddio'r gwir reswm dros derfynu'ch cyflogaeth, neu os na fydd yn dilyn y drefn dileu swyddi yn iawn, gellir ystyried hyn yn ddiswyddo annheg. Mae'r hawliau i gael taliadau dileu swydd ac i ymgynghori ar y cyd yn cael eu hawlio ar wahân i ddiswyddo annheg.
Os nad ydych yn cael eich hawliau, yn gyntaf oll, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwr. Os oes gennych gynrychiolydd cyflogeion (ee swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall ef eich helpu hefyd. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi wneud cwyn gan ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.
Mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.
I gael mwy o wybodaeth ynghylch ble i gael cymorth gyda materion yn ymwneud â chyflogaeth, ewch i'r dudalen cysylltiadau cyflogaeth. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allan nhw hefyd gynnig cyngor neu gefnogaeth i chi.