Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dileu swydd: Eich hawl i ymgynghoriad

Dylai cyflogwyr ymgynghori â'u gweithwyr bob amser cyn dileu eu swyddi.

Ffyrdd o ymgynghori â chi

Mae gan gyflogwr ddwy ffordd o ymgynghori â chi ynghylch dileu swydd:

  • ar y cyd (hynny yw, ymgynghori â'r grŵp cyfan y mae eu swyddi'n cael eu dileu)
  • yn unigol (hynny yw, siarad yn uniongyrchol â phob

Ymgynghori ar y cyd

Os yw'ch cyflogwr yn bwriadu dileu swyddi 20 neu fwy o weithwyr o fewn cyfnod o 90 diwrnod, dylai ymgynghori â'ch undeb llafur (neu gynrychiolydd etholedig y gweithwyr os nad oes gennych undeb) cyn y rhoddir rhybudd i neb.

Dylai'r ymgynghori gynnwys ffyrdd o osgoi sefyllfa o ddileu swyddi, a sut i gadw'r nifer a ddiswyddir cyn ised â phosibl a lleihau i'r eithaf yr effeithiau ar y rhai a ddiswyddir (e.e. drwy gynnig ailhyfforddiant). Dylai hyn ddigwydd o leiaf 30 diwrnod cyn y bydd y swyddi'n cael eu dileu neu 90 diwrnod os effeithir ar fwy na 100 o weithwyr.

Os na fydd hyn yn digwydd, gallwch chi (neu eich cynrychiolydd) fynd â'ch cyflogwr i Dribiwnlys Cyflogaeth, a all ddyfarnu hyd at 90 diwrnod o dâl yn iawndal i bob gweithiwr.

Ymgynghoriad unigol

Dylai eich cyflogwr wastad ymgynghori â chi yn unigol. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys:

  • siarad â chi'n uniongyrchol ynghylch pam y cawsoch eich dewis
  • ystyried unrhyw opsiynau eraill ar wahân i ddileu swydd

Os na fydd hyn yn digwydd, efallai fod eich diswyddiad oherwydd dileu swydd yn annheg.

Ble i gael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) lleol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os oes gennych amheuon ynghylch y ffordd y mae'ch cyflogwr wedi cyfrifo'ch tâl dileu swydd statudol, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Taliadau Dileu Swydd ar 0845 1450 004.

Additional links

Dathlu'r cyfraniad mae pobl hŷn yn ei wneud i gymdeithas

Dathliad o’r cyfleoedd, llwyddiannau a dyheadau pobl hŷn a’u cyfraniad i’n cymdeithas a’n heconomi

Allweddumynediad llywodraeth y DU